Llety

Mae gan y Gelli Gandryll a'r ardal gyfagos westai, tai Gwely a Brecwast, bythynnod gwyliau a meysydd gwersylla mewn mannau sydd ymhlith y mwyaf godidog yn y DG.

Gall llety fod yn brin yn ystod deg diwrnod yr Ŵyl ac mae llawer o ystafelloedd yn cael eu harchebu flwyddyn ymlaen llaw - mae hi bob amser yn werth bwcio mewn da bryd, felly. Ond mae yna welyau i'w cael bob amser ac mae yna feysydd pebyll rhagorol o fewn tafliad carreg i safle'r ŵyl. Find me a Bed yw’r gwasanaeth llety swyddogol ar gyfer Gŵyl y Gelli, ond gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am lety trwy Groeso y Gelli Gandryll ac Ymweld â Swydd Henffordd.

Mae’n bosibl y bydd llety arall yn y Gelli Gandryll a'r cyffiniau hefyd ar gael trwy Airbnb a Booking.com. Mae Henffordd tua 30 munud o'r Gelli Gandryll ac Aberhonddu 20 munud.

Mae bob amser yn werth ail-wirio gwefannau'r darparwyr wrth i lety newydd gael ei ychwanegu drwy'r amser.

Findmeabed.co.uk

Findmeabed.co.uk

Findmeabed.co.uk yw gwasanaeth llety swyddogol ac asiant archebu Gŵyl y Gelli ac mae'r gwasanaeth hwnnw wedi disodli ein gwasanaeth Dod o Hyd i Wely. Mae Visithay yn cynnig cyfoeth o wybodaeth am y Gelli a'r ardal gyfagos ac fe fydd Sarah yn barod iawn i'ch helpu chi wrth i chi wneud ymholiadau. E-bostiwch info@findmeabed.co.uk, ffoniwch Sarah ar 07375 396 748 neu cliciwch fan hyn i weld yr hyn sydd ar gael.

Fel arall, rhowch gynnig, da chi, ar westai a mannau gwersylla ein noddwyr. Maent yn rhagorol bob un.

Gwersylla

Archebwch gyda’n partner dibynadwy, Darparwr Gwersylla Swyddogol Gŵyl y Gelli, Tangerine Fields

Tangerine Fields Hay Festival camping

Fred’s Yurts

Fred's Yurts at Hay Festival

Gwersyll Castell y Sipsi

Gypsy Castle Camping, Hay-on-Wye

Hay Glamping

Hay Glamping

Meysydd Carafanau Hillandale

Hillandale Caravan Parks

Gwestai a B&B

Gwesty Green Dragon, Henffordd

Green Dragon Hotel, Hereford

The Old Black Lion

The Old Black Lion, Hay-on-Wye

Coleg Trefeca

Coleg Trefeca

Hunanarlwyo

Sugar & Loaf

Sugar & Loaf self-catering cottages

Wales Cottage Holidays

Wales Cottage Holidays

 

I hysbysebu eich busnes yma, cysylltwch â maria@hayfestival.org.