Parcio yng Ngŵyl y Gelli

MAES PARCIO YN Y GELLI ER BUDD MACMILLAN 

Wedi'i leoli wrth ymyl safle'r Ŵyl, taith fer ar droed i'r brif fynedfa, mae'r Maes Parcio yn y Gelli er budd Macmillan yn costio £7 y car y dydd. Mae hwn yn faes parcio maes glas.

Cliciwch yma i archebu

SAFLE PARCIO A THEITHIO POB TYWYDD GŴYL Y GELLI 

Er mwyn lleihau traffig ac osgoi tagfeydd, rydym yn eich annog i ddefnyddio ein safle Parcio a Theithio, sydd wedi'i leoli yn Llys Clyro (Gwesty Baskerville Hall) HR3 5LE. Mae parcio'n costio £5 y dydd (derbynnir taliadau arian parod a cherdyn), sy’n cynnwys defnydd diderfyn o wasanaeth gwennol yr Ŵyl. Nid oes angen archebu lle – gallwch dalu ar y diwrnod. Mae'r safle’n addas hyd yn oed os yw'n bwrw glaw, felly ni fyddwch yn cael eich gadael yn sownd yn y mwd.

PARCIO I’R ANABL

Mae parcio i'r anabl ar gael ar safle'r Ŵyl. Gallwch archebu lleoedd parcio i'r anabl ymlaen llaw dros y ffôn wrth archebu tocynnau.

Cliciwch yma i archebu

GWEFRU CEIR

Mae Gŵyl y Gelli yn cynnig mannau gwefru ceir trydan ar safle Parcio a Theithio Clyro Court (HR3 5LE). Mae pedwar soced 13 amp ar gael ac, os yw’n ofynnol ar gyfer eich car, bydd angen i chi ddod â'ch addasydd eich hun. Bydd yna fannau gwefru hefyd yn y maes parcio i'r anabl ar safle'r Ŵyl. Mae'r gwefrwyr hyn ar gael ar sail y cyntaf i'r felin. Mae un gwefrydd cyflym ar gael yn yr ardal leol yn Drover Cycle Hire (HR3 5EH). 01497 822 419

PARCIO GYDA GOFAL

Cofiwch ystyried trigolion lleol wrth barcio eich car. Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y briffordd nac ar leiniau glas.

MAN PARCIO BEICIAU

Bydd man parcio beiciau ar gael ar safle’r Ŵyl.

HAY FESTIVAL

DAIRY MEADOWS
BRECON ROAD
HAY-ON-WYE

HR3 5PJ
23 MAY–2 JUNE 2024