Cyrraed y Gelli

Mae'r Gelli Gandryll ychydig oddi ar yr A438 rhwng Aberhonddu a Henffordd. Bydd yna lawer o arwyddion i’r Ŵyl. Yr orsaf reilffordd agosaf yw Henffordd, sy’n 21 milltir i ffwrdd, ac mae modd dal coetsys National Express o orsaf fysiau Henffordd. 

Ymholiadau rheilffyrdd | nationalrail.co.uk | 03457 48 49 50

Gwybodaeth am goetsys gan | nationalexpress.com | 08712 81 81 81

Gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus gan | traveline.info | 08712 00 22 33

BWS GŴYL Y GELLI

Mae gwasanaeth bws arbennig yr Ŵyl yn rhedeg rhwng Caerwrangon, Henffordd a'r Gelli ac yn cysylltu â threnau a choetsys yng ngorsafoedd trenau a bysiau Henffordd, a hefyd Gorsaf Fysiau Crowngate Caerwrangon. Bydd y gwasanaeth hwn yn rhedeg trwy gydol yr Ŵyl.

Gellir prynu tocynnau ar gyfer pob taith ar y bws. Yn anffodus, ni allwn dderbyn cardiau teithio rhatach ar y gwasanaeth hwn eleni. 

Tocynnau: Henffordd i'r Gelli

Oedolion £10 sengl, £14 dwyffordd ar yr un diwrnod, £16 dwyffordd am gyfnod amhenodol

Plant (5–15 oed) £6 sengl, £8 dwyffordd ar yr un diwrnod, £10 dwyffordd am gyfnod amhenodol

Teulu o hyd at bedwar o bobl (uchafswm o ddau oedolyn) £34 dwyffordd

Bydd y bws yn aros wrth yr arosfannau canlynol ar y llwybr hwn:

Hereford Railway Station - Country Bus Station (Stand 6) - Maylord Shopping Centre (Stand 2) - Victoria Court - Whitecross Memorial - Kings Acre - Stretton Sugwas Turn - Post Office, Swainshill - Kenchester Turn - Bridge Sollers, Crossroads - Byford, Old School - Portway, Hotel - Staunton-on-Wye - Letton, The Swan - Kinnersley Turn - Willersley, Turn - Winforton, Sun Inn - Whitney-on-Wye, Church - Rhydspence, Border - Clyro, Square - Hay-on-Wye, Hay Castle

Tocynnau: Caerwrangon i'r Gelli (drwy Henffordd)

Oedolion £13 sengl, £20 dwyffordd

Plant (5–15 oed) £8 sengl, £10 dwyffordd

Teulu o hyd at bedwar o bobl (uchafswm o ddau oedolyn) £38 dwyffordd

GWASANAETHAU BYSIAU WEDI'U TREFNU

Mae yna hefyd wasanaeth bws wedi'i drefnu (Gwasanaeth T14) o Henffordd ac Aberhonddu i'r Gelli Gandryll sy’n gweithredu chwe diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae gwasanaeth 39A Hay Ho! yn weithredol ar ddydd Sul.

GWASANAETH BWS GWENNOL YR ŴYL

Mae bws gwennol rheolaidd yn rhedeg rhwng safle'r Ŵyl a chanol y dref. Mae mannau codi a gollwng wrth fynedfa safle’r Ŵyl a’r safle bws ym maes parcio Oxford Road yn y dref. Cynhelir y gwasanaeth hwn drwy gydol yr Ŵyl, o ddydd Iau 23 Mai tan ddydd Sul 2 Mehefin 2024. Mae tocynnau dydd ar gyfer y bws gwennol yn £5 y pen, heb unrhyw gyfyngiad ar nifer y teithiau.

CYNLLUN RHANNU CEIR

Mae Gŵyl y Gelli yn ymuno â goCarShare, BlaBlaCar.com a Liftshare, i helpu i gysylltu gyrwyr â seddi sbâr a'r rhai y mae arnynt angen help i gyrraedd y Gelli. Mae'n ffordd wych o gwrdd â phobl sy’n rhannu’r un diddordebau, yn ogystal â bod yn gymorth mawr i leihau allyriadau carbon a thagfeydd – ac mae hefyd yn arbed arian i bawb.

Am wybodaeth parcio, cliciwch yma.

TACSIS LLEOL

Mae cynllun rhannu tacsis ar gael gan:

Booktown Taxis 07881 726 547

Radnor & Kington Taxis 01547 560 205 | 07831 898 361

Hay Bus Hay Taxi 01497 820 444 | 07974 106 656

Talgarth Taxis 07894 458 400

Trên

Ymholiadau trên: 03457 48 49 50
www.nationalrail.co.uk

Yr orsaf drenau agosaf yw gorsaf Henffordd, ugain milltir i ffwrdd.

Mae trenau'n cyrraedd gorsaf Henffordd yn rheolaidd, fel a ganlyn:

  1. First Great Western o Lundain Paddington, Reading (cyswllt rheilffordd/awyr o Lundain Heathrow) a Rhydyche
  2. Trenau Arriva Cymru o dde-orllewin Cymru, Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Cwmbrân a'r Fenni
  3. Trenau Arriva Cymru o Fanceinion Piccadilly, Stockport, Wilmslow, Crewe, Amwythig, Church Stretton, Craven Arms, Llwydlo a Llanllieni
  4. Trenau Arriva Cymru o ogledd Cymru, Caer, Wrecsam a Gobowen (Croesoswallt)
  5. Trenau London Midland o Birmingham New Street, Bromsgrove, Worcester Foregate Street, Great Malvern a Ledbury

Mae yna fws gwennol rheolaidd rhwng y gorsafoedd trên a bws yn Henffordd a'r Gelli Gandryll / safle'r ŵyl. Mae'r gwasanaeth hwnnw’n cyd-fynd ag amserlenni'r trenau (gweler yr amserlen uchod).

Cerdded

Mae safle'r Ŵyl yn daith gerdded o ryw bum munud ar hyd Ffordd Aberhonddu o ganol y Gelli Gandryll. I bobl fwy anturus, mae yna lond gwlad o deithiau cerdded heriol, pleserus, syfrdanol ac ysgogol o amgylch y Gelli.

Llwybrau cerdded

Lawrlwytho PDF o lwybr cerdded llinellol Cerddwyr Cymru yn ardal y Gelli

Lawrlwytho PDF o lwybr cerdded cylchol Cerddwyr Cymru yn ardal y Gelli

Slow Ways - Os ydych chi'n teimlo'n fwy uchelgeisiol ac ymwybodol o'ch ôl troed teithio, beth am ystyried cerdded yr holl ffordd i'r Gelli? Menter ydy Slow Ways i greu rhwydwaith cenedlaethol o lwybrau cerdded sy'n cysylltu holl drefi a dinasoedd Prydain Fawr, yn ogystal â miloedd o bentrefi. Gall pobl ddefnyddio llwybrau, ffyrdd a lonydd sy'n bodoli’n barod, a defnyddio Slow Ways i gerdded neu seiclo rhwng aneddiadau cyfagos, a'u cyfuno i greu teithiau pellter hirach. Mae wedi'i gynllunio i'w gwneud yn haws i bobl ddychmygu, cynllunio a mynd ar deithiau cerdded. Gallwch ddarganfod mwy yma - Slow Ways

Beic

Mae'r Gelli Gandryll yn croesawu beicwyr a gallwch logi beiciau yn y dref yn Drover Cycles ar Heol y Fforest. Mae gan siop feics Drover weithdy hefyd, sydd ar agor bob dydd ar gyfer gwaith atgyweirio. Mae parc beiciau ar gael ar safle'r ŵyl ac fe ddarparwyd y raciau beic trwy garedigrwydd Drover Cycles.

Mae gwybodaeth am lwybrau beicio lleol ar gael gan Mountain Biking Brecon Beacons a Mountain Biking Wales.

HAY FESTIVAL

DAIRY MEADOWS
BRECON ROAD
HAY-ON-WYE

HR3 5PJ
23 MAY–2 JUNE 2024