The 2021 programme for schools has been created especially for digital audiences with a vibrant blend of events such as, creative writing workshops, inspiring authors filmed on location, and entertaining, thought-provoking performances.
There will be events for pupils in Key Stages 1, 2, 3 & 4 every day and you can buy books before during or after the events from the Hay Festival Shop,
These events will be introduced by Radzi Chinyanganya and Anni Llyn and will be available to watch again FREE on Hay Player.
All events are approximately 30 minutes in duration.
Mae rhaglen ysgolion 2021 wedi cael ei chreu yn arbennig ar gyfer cynulleidfaoedd digidol, gyda chymysgedd bywiog o ddigwyddiadau fel gweithdai ysgrifennu creadigol, awduron ysbrydoledig wedi'u ffilmio ar leoliad, a pherfformiadau difyr sy'n ysgogi'r meddwl.
Bydd digwyddiadau i ddisgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 1, 2, 3 a 4 bob dydd, a gallwch brynu llyfrau cyn, yn ystod, neu ar ôl y digwyddiadau o ŵyl y Gelli.
Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cyflwyno gan Radzi Chinyanganya ac Anni Llŷn, a byddant ar gael i'w gwylio eto AM DDIM ar Hay Player.
Mae pob digwyddiad yn para hyd at 30 munud.
Join the poet and playwright as he talks about how he became a writer – with tips how you can, too – and explains how thinking about performance and how a poem will end can help with the writing process, while having fun with words along the way. Coelho's latest book is Thank You (illustrated by Sam Usher).
Ymunwch â'r bardd a'r dramodydd wrth iddo sôn am sut y daeth yn awdur –a rhoi awgrymiadau ar sut y gallwch chi ddod yn awdur hefyd – ac wrth iddo esbonio sut mae meddwl am berfformiad a sut y bydd cerdd yn gorffen yn gallu helpu gyda'r broses ysgrifennu, tra'n cael hwyl gyda geiriau ar hyd y ffordd. Llyfr diweddaraf Coelho yw Thank You (lluniau gan Sam Usher).
Embark on a fascinating underwater journey with the TV broadcaster, vet and author of Earth’s Incredible Oceans (illustrated by Claire McElfatrick). Swim with jellyfish, wander in a seagrass meadow and meet some beautiful, bizarre creatures that live in these submerged habitats. Our oceans are endangered but by learning more about them, you can help to save them, too.
Ewch ar daith danddwr gyfareddol gyda'r darlledwr teledu, y milfeddyg ac awdur Earth’s Incredible Oceans (lluniau gan Claire McElfatrick). Nofiwch gyda sglefrod môr, crwydrwch mewn dôl forwellt a chwrdd â chreaduriaid hardd, rhyfedd sy'n byw yn y cynefinoedd tanddwr hyn. Mae ein cefnforoedd mewn perygl ond trwy ddysgu mwy amdanynt, gallwch helpu i'w hachub hefyd.
Get ready for a very very very very very very very silly event with the multi-award-winning actor and comedian. Do you love making people laugh? Of course you do! In this rib-tickling event, Matt Lucas shares his favourite super silly pranks and laugh-out-loud jokes. Perfect for pranksters.
Byddwch yn barod am ddigwyddiad gwirion iawn gyda'r actor a'r comedïwr arobryn. Ydych chi wrth eich bodd yn gwneud i bobl chwerthin? Wrth gwrs eich bod chi! Yn y digwyddiad doniol iawn hwn, mae Matt Lucas yn rhannu ei hoff gastiau gwirion a’i jôcs chwerthin yn braf. Perffaith ar gyfer castwyr.
Meet the first-time author whose joyful LGBTQ+ adventure takes young Archie Albright and his best friends on a determined quest to understand his parents’ separation, in a story about family, love and inclusivity. He'll also give tips on how to write your own colourful adventure.
Dewch i gwrdd â'r awdur newydd y mae ei antur LGBTQ+ hyfryd yn mynd â’r bachgen ifanc Archie Albright a'i ffrindiau gorau ar daith ymchwil benderfynol i ddeall pam wnaeth ei rieni wahanu, mewn stori am deulu, cariad a chynwysoldeb. Bydd yn rhoi awgrymiadau hefyd, ar sut i ysgrifennu eich antur liwgar eich hun.
This series of books introduces young readers to inspirational people, alive and dead, in history, politics, music, arts, design, science and sport. The author will tell how she came to devise the books, and read from the edition about David Attenborough.
Mae'r gyfres hon o lyfrau yn cyflwyno darllenwyr ifanc i bobl ysbrydoledig, yn fyw ac yn farw, mewn hanes, gwleidyddiaeth, cerddoriaeth, y celfyddydau, dylunio, gwyddoniaeth a chwaraeon. Bydd yr awdur yn dweud sut y daeth i ysgrifennu’r llyfrau, a bydd yn darllen o'r argraffiad am David Attenborough.
The comedian and author's wildly entertaining adventure stories have sold over a million copies in the UK and been translated across the globe. Join him to find out about his latest blockbuster Future Friend, an entertaining time-slip adventure that combines action, friendship, laugh-out-loud humour, talking animals and militant chickens.
Mae storïau antur tra difyr y comedïwr a’r awdur wedi gwerthu mwy na miliwn o gopïau yn y DU, ac maen nhw wedi cael eu cyfieithu ar draws y byd. Ymunwch ag ef i ddysgu am ei lyfr poblogaidd diweddaraf Future Friend, antur ddifyr sy'n cyfuno gweithredu, cyfeillgarwch, hiwmor chwerthin yn braf, anifeiliaid sy’n siarad ac ieir milwriaethus
Join the best-selling author as she sets off on a story-hunting adventure along Scotland's rugged east coast. She will talk about where she finds ideas – from living wild in the Norwegian fjords to research her latest series, The Unmapped Chronicles, to discovering secrets in her garden and down on the beach. She'll finish by showing young readers how to leap into stories of their own.
Ymunwch â'r awdur enwog wrth iddi ddechrau ar antur hel storïau ar hyd arfordir dwyreiniol garw'r Alban. Bydd yn siarad am ble mae hi'n dod o hyd i syniadau - o fyw'n wyllt yn ffiordydd Norwy i ymchwilio i'w llyfr diweddaraf, The Unmapped Chronicles, i ddarganfod cyfrinachau yn ei gardd ac i lawr ar y traeth. Bydd hi'n gorffen drwy ddangos i ddarllenwyr ifanc sut i neidio i storïau eu hunain.
The teenage spy novels, focused on a division of the Security Service employing children, predominantly orphans, as intelligence agents, were written by Muchamore. Find out about his new Robin Hood series, which launched with Hacking, Heists and Flaming Arrows. Why did he choose to re-invent the Robin Hood legend for new generation of readers? Here's your opportunity to get the lowdown on the author's characters, writing and inspiration.
Ysgrifennwyd y nofelau ysbïwyr i blant yn eu harddegau, a oedd yn canolbwyntio ar adran y Gwasanaeth Diogelwch sy'n cyflogi plant amddifad yn bennaf fel asiantau cudd-wybodaeth, gan Muchamore. Darganfyddwch am ei gyfres newydd Robin Hood, a gafodd ei lansio gyda Hacking, Heists and Flaming Arrows. Pam y penderfynodd ddewis ail-ddychmygu chwedl Robin Hood ar gyfer cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr? Dyma eich cyfle i gael yr hanes ar gymeriadau, ysgrifennu ac ysbrydoliaeth yr awdur.
Join the acclaimed children’s poet for a reading of his new book. You’ll also be invited to play some fun (and quite silly) games, spin the word wheel to unlock your poetry power, and be supported (without stabilisers) to write a poem of your own in five simple steps.
Ymunwch â'r bardd plant clodwiw am ddarlleniad o'i lyfr newydd. Byddwch yn cael eich gwahodd i chwarae rhywfaint o gemau difyr (ac eithaf gwirion) hefyd, troelli'r olwyn eiriau i ddatgloi eich pŵer barddonol, a chael eich cefnogi (heb sefydlogwyr) i ysgrifennu eich cerdd eich hun mewn pum cam syml.
Meet the creator of this hilarious story as she introduces Omar and his family to us, and reveals how she thinks up her characters and writes her exciting plots. The Planet Omar series is illustrated with fantastic cartoon-style illustrations by Nasaya Mafaridik.
Dewch i gwrdd ag awdur y stori ddoniol hon wrth iddi gyflwyno Omar a'i deulu i ni, a datgelu sut mae hi'n meddwl am ei chymeriadau ac yn ysgrifennu ei phlotiau cyffrous. Mae’r gyfres Planet Omar yn cynnwys darluniau cartŵn gwych gan Nasaya Mafaridik.
Are bogeys safe to eat? How much of your life will you spend on the toilet? The human body is extraordinary and fascinating and, well...pretty weird. Sit back, relax, put on some rubber gloves, and let this author take you on a poo and puke-filled tour of your insides.
Ydy bogis yn ddiogel i'w bwyta? Faint o’ch bywyd fyddwch chi’n ei dreulio ar y toiled? Mae'r corff dynol yn rhyfeddol ac yn ddiddorol ac, wel... yn eithaf rhyfedd. Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch, rhowch fenig rwber ymlaen, a gadewch i'r awdur hwn fynd â chi ar daith lawn pŵ a chwyd o'ch tu mewn.
Join the author to hear how plants are central to our everyday life, in ways that might surprise you. Using just the rays of the sun, trees and flowers help create everything from rubber to honey. Holland will encourage you to pay more attention to the plants around you and suggest some fun activities that will show just how much we depend on them.
Ymunwch â'r awdur i glywed sut mae planhigion yn bwysig i'n bywyd bob dydd, mewn ffyrdd a allai eich synnu. Mae defnyddio dim ond pelydrau’r haul, coed a blodau yn helpu i greu popeth o rwber i fêl. Bydd Holland yn eich annog i dalu mwy o sylw i'r planhigion o'ch cwmpas, ac yn awgrymu rhywfaint o weithgareddau hwyliog a fydd yn dangos yn union faint rydym yn dibynnu arnynt.
Join the poet and illustrator, creators of poetry collection Daydreams and Jellybeans, on a journey of rhythm, rhyme and drawing to spark imagination and curiosity in the natural and the human world. Escape into beautiful daydreams but watch out for any hairy jellybeans... or mischievous hedgehogs.
Ymunwch â'r bardd a'r darlunydd, a chreawdwyr y casgliad o farddoniaeth Daydreams and Jellybeans, ar daith o rythm, rhigwm a lluniau i danio’r dychymyg a chwilfrydedd yn y byd naturiol a dynol. Gallwch ddianc i freuddwydion liw dydd hardd, ond cadwch olwg am unrhyw jeli-bîns blewog neu ddraenogiaid direidus.
Are you constantly puzzled by why certain things happen or why our bodies work in the way they do? Or have you been working on an invention during lockdown and you're keen to hear more about some of the greatest inventors of all time – including the really obscure ones? Join the professor as he talks about two of his most popular books, Ask A Scientist and Inventors. Robert will share his favourite science stories, answer some tricky questions and explain why science is so important in our everyday life.
Ydych chi’n cael eich drysu'n gyson gan pam mae rhai pethau'n digwydd neu pam mae ein cyrff yn gweithio yn y ffordd maen nhw? Neu ydych chi wedi bod yn gweithio ar ddyfais yn ystod y cyfyngiadau clo, ac yn awyddus i glywed mwy am rai o'r dyfeiswyr gorau erioed - gan gynnwys y dyfeiswyr tra adnabyddus? Ymunwch â'r athro wrth iddo sôn am ddau o'i lyfrau mwyaf poblogaidd, Ask A Scientist ac Inventors. Bydd Robert yn rhannu ei hoff storïau gwyddoniaeth, yn ateb rhywfaint o gwestiynau anodd, ac yn esbonio pam mae gwyddoniaeth mor bwysig yn ein bywyd bob dydd.
The author reveals the extraordinary true story behind her new book, and tells how she managed to turn it into fiction, drawing on interviews with her dad, who was the inspiration behnd the tale, and photographs from her research trip across five countries in Central Europe.
Mae'r awdur yn datgelu'r stori wir anhygoel y tu ôl i'w llyfr newydd, ac yn dweud sut y llwyddodd i'w throi'n ffuglen, yn defnyddio cyfweliadau gyda'i thad, a oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r stori, a lluniau o'i thaith ymchwil ar draws pum gwlad yng Nghanol Ewrop.
How can you and your friends change the world? By working together. Join the author for an interactive event and be inspired by true stories of activism and incredible teamwork, from campaigning for equal rights to healing the ozone layer.
Sut allwch chi a'ch ffrindiau newid y byd? Trwy weithio gyda’ch gilydd. Ymunwch â'r awdur ar gyfer digwyddiad rhyngweithiol, a chael eich ysbrydoli gan storïau gwir am weithredu a gwaith tîm anhygoel, o ymgyrchu dros hawliau cyfartal i wella’r haen osôn.
What would you do if you were marooned on a deserted island with five of your classmates, no teacher and no internet? This author has plenty of ideas as he introduces you to his exciting new novel, packed with mystery, adventure and laughs, all set on an actual deserted island in the River Dee.
Beth fyddech chi'n ei wneud pe baech chi wedi caeleich gadael ar ynys anghyfannedd gyda phump o'ch cyd-ddisgyblion, dim athro a dim rhyngrwyd? Mae gan yr awdur hwn ddigon o syniadau wrth iddo eich cyflwyno i'w nofel newydd gyffrous, yn llawn dirgelwch, antur a chwerthin, i gyd wedi'i leoli ar ynys anghyfannedd go iawn yn Afon Dyfrdwy.
The second book in The Leap Cycle series by the renowned spoken word poet is a thrilling adventure about time travel, history and celebrating our differences. Elle is back again and this time she's leaping almost three whole centuries back in time, to catch a thief, help her friend and save our future…
Mae’r ail lyfr yn y gyfres The Leap Cycle gan y bardd gair llafar enwog, yn antur wefreiddiol am deithio mewn amser, hanes a dathlu ein gwahaniaethau. Mae Elle yn ôl eto a'r tro hwn, mae hi'n neidio bron i dair canrif gyfan yn ôl mewn amser, i ddal lleidr, helpu ei ffrind ac achub ein dyfodol...
Even the smallest everyday event can be the starting-point for the most exhilarating of adventures. Join the author as he shows you how to turn a simple conversation inspired When The Sky Falls and learn how to become a storyteller yourself.
Mae hyd yn oed y digwyddiad lleiaf bob dydd yn gallu bod yn fan cychwyn ar gyfer yr anturiaethau mwyaf cyffrous. Ymunwch â'r awdur wrth iddo ddangos i chi sut i droi sgwrs syml wedi'i hysbrydoli gan When The Sky Falls, a dysgu sut i ddod yn storïwr eich hun.