All the events from Programme for Schools 2022 are now available to watch free on Hay Player.
All events are approximately 45 minutes in duration. Closed captioning in English and Welsh will be available for Autumn Term 2022.
Os na allwch chi fynychu mewn person, mae'r holl ddigwyddiadau ar gael i'w gwylio ar-lein ar y diwrnod hefyd, a byddant yn rhad ac am ddim i'w gwylio eto ar Hay Player.
Mae pob digwyddiad tua 45 munud o hyd. Bydd capsiynau caeedig yn y Gymraeg a'r Saesneg ar gael ar gyfer Tymor yr Hydref 2022.
Discover The House in the Woods with Yvette Fielding, television’s first lady of the paranormal and presenter of Most Haunted. When Clovis, Eve and Tom decide to play with a ouija board in an old abandoned house on Halloween, none of them foresee the horrors they’re about to unleash. What starts out as a bit of fun soon becomes something far more terrifying. Before long the friends are caught up in a series of events beyond their wildest imaginings and their journey as ghost hunters begins.
Dewch i ddarganfod The House in the Woods gyda Yvette Fielding, gwraig gyntaf y teledu o’r paranormal a chyflwynydd Most Haunted. Pan fydd Clovis, Eve a Tom yn penderfynu chwarae gyda bwrdd ouija mewn hen dŷ gadawedig ar Galan Gaeaf, does yr un ohonynt yn rhagweld yr erchyllterau maen nhw ar fin dod are u traws. Mae'r hyn sy'n dechrau fel tipyn o hwyl yn dod yn rhywbeth llawer mwy brawychus a cyn bo hir, mae'r ffrindiau'n cael eu dal mewn cyfres o ddigwyddiadau y tu hwnt i'w dychmygion mwyaf mympwyol ac mae eu taith fel helwyr ysbrydion yn dechrau.
Kemosha and her brother have lived their whole lives in slavery. Sold away to work in lawless Port Royal, Kemosha takes her chance to escape brutal treatment. With fortune on her side, she befriends Ravenhide, a man with a mysterious past who teaches her the art of sword fighting. Kemosha’s adventure on the high seas could be her one chance to earn enough to buy her brother’s freedom… Award-winning author Alex Wheatle has been awarded an MBE for services to literature.
Mae Kemosha a'i brawd wedi byw eu bywydau cyfan mewn caethwasiaeth. Ar ôl cael ei gwerthu i weithio yn Port Royal, sydd heb gyfreithiau, mae Kemosha yn cymryd ei chyfle i ddianc rhag triniaeth greulon. Gyda ffortiwn ar ei hochr, mae hi’n gwneud ffrindiau gyda Ravenhide, dyn sydd â gorffennol dirgel sy'n dysgu'r grefft o ymladd cleddyf iddi. Gallai antur Kemosha ar y moroedd uchel fod yr un cyfle iddi ennill digon i brynu rhyddid ei brawd... Mae'r awdur arobryn Alex Wheatle wedi derbyn MBE am ei wasanaethau i lenyddiaeth.
Christine Pillainayagam introduces her hilarious debut YA novel, Ellie Pillai is Brown. You’ll hear about Ellie’s disastrous experiences of navigating first love, strict parents, friendships and an over-dramatic personality. Bring a notebook and learn the perfect ingredients for writing your own lyrics.
Photo credit: Charlotte Knee Photography
Mae Christine Pillainayagam yn cyflwyno ei nofel gyntaf ddoniol iawn i Oedolion Ifanc, Ellie Pillai is Brown. Byddwch yn clywed am brofiadau trychinebus Ellie, o’i chariad cyntaf, rhieni llym, cyfeillgarwch a phersonoliaeth or-ddramatig. Dewch â llyfr nodiadau a dysgu'r cynhwysion perffaith ar gyfer ysgrifennu eich geiriau eich hun.
In this interactive event, Eric Ngalle Charles shares stories on place, memory and language inspired by his debut poetry collection Homelands. Pupils are encouraged to write their own stories, so have a pen and paper at the ready. Eric Ngalle Charles is a Cameroon-born, Wales-based writer, poet and playwright.
Yn y digwyddiad rhyngweithiol hwn, mae Eric Ngalle Charles yn rhannu straeon ar le, cof ac iaith sydd wedi eu hysbrydoli gan ei gasgliad barddoniaeth cyntaf Homelands. Mae disgyblion yn cael eu hannog i ysgrifennu eu straeon eu hunain, felly gwnewch yn siŵr bod gennych feiro a phapur. Mae Eric Ngalle Charles yn awdur, bardd a dramodydd o’r Camerŵn, sy’n byw yng Nghymru.
Join the much-loved Dame Jacqueline Wilson to hear about her new book for Young Adults. Baby Love is a heartbreaking and compelling story about teen pregnancy, family trouble and unlikely friendships. Former Children’s Laureate and author of over 100 books, Jacqueline Wilson is one of Britain’s bestselling children’s authors. Best-known for characters Tracy Beaker and Hetty Feather, she writes for a wide age range and has legions of fans both in the UK and around the world.
Ymunwch â'r Fonesig tra hoff Jacqueline Wilson, i glywed am ei llyfr newydd ar gyfer Oedolion Ifanc. Mae Baby Love yn stori dorcalonnus a chymhellol am feichiogrwydd yn yr arddegau, trafferthion teuluol a chyfeillgarwch annhebygol. Yn gyn-Fardd Plant ac awdur dros 100 o lyfrau, Jacqueline Wilson yw un o awduron plant mwyaf llwyddiannus Prydain. Yn fwyaf adnabyddus am ei chymeriadau Tracy Beaker a Hetty Feather, mae hi'n ysgrifennu ar gyfer ystod oedran eang, ac mae ganddi lu o gefnogwyr yn y DU ac ar draws y byd.
Have you ever wondered how time travel works or if it is even possible? Author Femi Fadugba beams in for a mind-blowing event all about his debut title The Upper World. Find out more about Femi, from his inspirations to how he became the author of a game-changing YA thriller that defies space and time.
Natasha Bowen’s powerful new imagining of a devastating time in history is told through the eyes of a bold and unforgettable heroine. Nigerian Welsh writer Natasha shares her inspiration and the creative process behind her debut novel – an unforgettable love story infused with West African mythology, merging the fantastical and the historical on an epic scale.
Mae delwedd newydd bwerus Natasha Bowen o amser dinistriol mewn hanes yn cael ei adrodd drwy lygaid arwres feiddgar a fythgofiadwy. Mae'r awdur Cymreig Nigeraidd, Natasha, yn rhannu ei hysbrydoliaeth a'r broses greadigol y tu ôl i'w nofel gyntaf – stori garu fythgofiadwy gyda mytholeg Gorllewin Affrica, ac yn uno'r ffantastig a'r hanesyddol ar raddfa epig.
Louisa Reid explores the unique power of the verse novel. Find out how her own background as an English teacher motivated her to write in this popular style, and how her brilliant books can inspire readers to stand up and make their voices heard.
Mae Louisa Reid yn archwilio pŵer unigryw'r nofel adnod. Darganfyddwch sut y gwnaeth ei chefndir ei hun fel athrawes Saesneg ei hysgogi i ysgrifennu yn yr arddull boblogaidd hon, a sut y gall ei llyfrau gwych ysbrydoli darllenwyr i sefyll i fyny a lleisio eu barn.
A plane crash sees seven teenagers washed up on a desert island, and their first thought is survival. But a terrible secret from a party the night before has followed them ashore. A thought-provoking drama exploring themes of consent, sexism and complicity. Laura Bates is founder of the Everyday Sexism Project and writes regularly for the New York Times, Guardian and Telegraph. She has been awarded an MBE for services to gender equality.
Mae damwain awyren yn gweld saith o bobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu golchi i fyny ar ynys, a'r peth cyntaf maen nhw’n feddwl amdano ydy goroesi. Ond mae cyfrinach ofnadwy o barti y noson gynt wedi eu dilyn i’r lan. Drama bryfoclyd sy'n archwilio’r themâu cydsyniad, rhywiaeth a chymhlethdodau. Laura Bates yw sylfaenydd y Prosiect Everyday Sexism, ac mae hi’n ysgrifennu'n rheolaidd ar gyfer y New York Times, Guardian a’r Telegraph. Dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i gydraddoldeb rhywiol.
This important and timely event looks at the big questions surrounding definitions of masculinity, discussing where ideas of masculinity have come from and the effects of gender stereotyping. Jeffrey Boakye explores different perspectives and invites pupils to think for themselves about the issues involved.
Mae'r digwyddiad pwysig ac amserol hwn yn edrych ar y cwestiynau mawr sy'n ymwneud â diffiniadau o wrywdod, ac yn trafod o ble y daeth syniadau o wrywdod ac effeithiau stereoteipio ar sail rhyw. Mae Jeffrey Boakye yn archwilio gwahanol safbwyntiau, ac yn gwahodd disgyblion i feddwl drostynt eu hunain am y materion dan sylw.
Bestselling author and ‘Queen of Teen Thrillers’ Sophie McKenzie talks about her new book Truth or Dare – a tense eco-drama about a family betrayal, environmental activists and one girl’s search for the truth.
Mae'r awdur llwyddiannus a’r 'Queen of Teen Thrillers' Sophie McKenzie yn sôn am ei llyfr newydd Truth or Dare – eco-ddrama ddirdynedig am frad teuluol, gweithredwyr amgylcheddol, ac am un ferch sy’n chwilio am y gwirionedd.
Queer Up: An Uplifting Guide to LGBTQ+ Love, Life, and Mental Health is the debut book from award-winning podcaster and author Alexis Caught. In this event Alexis takes us through an inclusive account of what it means to grow up queer; perfect for young people who are queer or questioning and also for allies looking to support them. Alexis Caught is creator and co-host of the British Podcast Award-winning LGBTQ+ podcast Qmmunity. He is also a mental health advocate, qualified psychotherapist, writer, speaker, model and rugby player.
Queer Up: An Uplifting Guide to LGBTQ+ Love, Life, and Mental Health yw'r llyfr cyntaf gan y podledwr a'r awdur Alexis Caught, sydd wedi ennill gwobrau. Yn y digwyddiad hwn, mae Alexis yn mynd â ni drwy gyfrif cynhwysol o beth mae'n ei olygu i dyfu i fyny yn gwïar; perffaith ar gyfer pobl ifanc cwïar neu sy’n cwestiynu a hefyd, ar gyfer ffrindiau sy'n awyddus i'w cefnogi. Alexis Caught yw crëwr a chyd-gyflwynydd y podlediad LGBTQ+ sydd wedi ennill Gwobr Podlediad Prydain Qmmunity. Mae’n eiriolwr iechyd meddwl, yn seicotherapydd cymwysedig ac yn awdur, siaradwr, model a chwaraewr rygbi hefyd.