#SCRIBBLERSTOUR DAY 4 - "I have a flood in my blood that’s blue"

Ar bedwerydd diwrnod ein taith fe gyrhaeddon ni Brifysgol Fetropolitan Caerdydd lle roedd 90 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd Llanishen, Fitzalan, Pencoedtre, Sant Illtyd ac Ysgol Uwchradd Babyddol Sant Richard Gwyn yn disgwyl yn eiddgar amdanom. Gan ein bod ni mewn ystafell lai o faint a bod y disgyblion yn amlwg yn frwdfrydig a llawn hwyl roedd yr egni yn uchel wrth i Jenny Valentine gyflwyno trefn y dydd ac Ali Sparkes i’r llwyfan, cyn i minnau roi cyflwyniad arall i’r gynghanedd i ieuenctid Cymru.

Dyma’r blas cyntaf erioed i bob un ohononynt o’r hen grefft sy’n unigryw i ni yng Nghymru ac fe gymeron nhw ati yn syth gan ddechrau llunio cynganeddion wrth ddilyn y patrymau ro’n i wedi eu cyflwyno. Mae prinder merched wedi bod yn nghystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod genedlaethol dros y degawdau, ac yn wir, y canrifoedd blaenorol, gyda dim ond dwy fenyw yn dod yn Brifeirdd hyd yn hyn. Ond braf oedd gallu cadeirio Megan gyda’i llinell wych o gynghanedd sain:

« I have a flood in my blood that’s blue »

Ymlaen â ni at gymal ola’r daith yng Nghasnewydd.

*****

The fourth leg of our Scribbler’s Tour brought us to Cardiff Metropolitan University where we were greeted by 90 pupils from schools across Cardiff and South Glamorgan (Llanishen, Fitzalan, St Illtyd, Pencoedtre and St Richard Gwyn Catholic High School). The energy and enthusiasm was high amongst the pupils which was great and suited the smaller room we had in comparison to some of the vast auditoriums we had visited. Jenny Valentine, Ali Sparkes and myself fed off the energy and it made for a wonderful morning of humour and creativity.

This was the first taste of cynghanedd for these pupils and they took to it like poets to an Eisteddfod Chairing ceremony as the budding poets and authors began to create their own line of cynghanedd based on the patterns I had introduced.

That Chair was won by Megan for a wonderfully poetic line of cynghanedd:

« I have a flood in my blood that is blue »

Onwards to the final leg of our tour which is Newport!

Hay Festival Scribblers Tour runs 3-14 February 2020. Explore the programme and find out more here. Aneirin Karadog is a poet, broadcaster, performer and linguist. He won the chair at the National Eisteddfod in Monmouthshire in 2016. He has been a presenter on Heno on S4C and was the Children's Poet of Wales. He was a rapper and a member of the bands Genod Droog and Diwygiad. He was brought up in Pontypridd but now lives in Pontyberem in the Gwendraeth Valley.