Gwerth y deg diwrnod rhyfeddol

Mae’n wahanol eleni. Llynedd roeddwn yn agored i bawb a phopeth – a wnes i ddim sgwennu llawer. Nid dyna’r pwynt, er mai Awduron wrth eu Gwaith ydi’r enw. Nid cam-enwi, chwaith, oherwydd mae ‘gwaith’ hefyd yn golygu  rhwydweithio, cyfarfod y bobl ymylol sy’n ganolog i fywyd awdur: y cyhoeddwyr, asiantiaid, y cyrff cyhoeddus, y cymdeithasau. Ac yn anad neb, yr awduron eraill.

Doedd hynny ddim yn wahanol, a dyna pam bod dychwelyd i’r Gelli yn rhywbeth i edrych ymlaen ato. Byddwn yn ail-gysylltu â chyfeillion, yn cyfarfod rhai newydd, ond y mae’n fwy na chymdeithasu. Gyda’r cyfeillion hyn, fydd dim byd yn od nac yn anarferol mewn bwrw i mewn yn syth i syniadau, mewn cychwyn y sgwrs am gyfeiriad diweddaraf fy nghymeriadau, am yr ysbrydoliaeth a ddaeth yn sydyn o bwy wyr ble. A dyna werth y deg diwrnod rhyfeddol.

Roedd hyn i gyd yn fy wyneb flwyddyn yn ôl, ac eleni hefyd i raddau. Ond mae fy wyneb ychydig yn fwy powld a chaeedig eleni, f’ymennydd yn fwy parod i ddethol, ac i wybod beth i’w daflu o’r neilltu.

 Mi fydda’i yn gadael yn llwythog, fy mhaciau yn llawn hyd yr ymylon o’r hyn sy’n wir werthfawr. Mi fydd y llyfrau’n cymryd tipyn o le hefyd.

Writers at Work is a long-term professional development strategy to nurture Welsh talent, writing in both languages. It runs during the 11 days of Hay Festival Wales. The project gives access to the unique gathering of the literary world at this time and exploits the publishing and creative writing expertise on offer for the direct benefit of professional writers in Wales.