Hay Festival Programme for Schools 2024

Booking page for schools in England

CA2 Dydd Iau 23 Mai A CA3 A 4 Gwener 24 Mai 2024

I Archebu Tocynnau

Mae llefydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, felly archebwch docynnau nawr. Dewiswch nifer y llefydd sydd eu hangen arnoch ar gyfer athrawon / disgyblion drwy ddefnyddio’r bocsys isod, ychwanegwch at eich basged, a symudwch ymlaen i dalu (am ddim).

Byddwch yn derbyn derbynneb drwy e-bost i gydnabod eich archeb. Gallwch brynu llyfrau ar y diwrnod o Siop G?yl y Gelli.

Bydd yr holl ddigwyddiadau yn cael eu ffrydio’n fyw ar y diwrnod, ac maen nhw’n rhad ac am ddim i’w gwylio eto yn ddiweddarach ar Hay Festival Anytime (mae capsiynau yn Saesneg). Os hoffech wylio ar-lein, cofrestrwch i gael mynediad i’r digwyddiad. Byddwn yn anfon e-bost atgoffa atoch cyn eich digwyddiadau.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at schools@hayfestival.com.

KS2 Thursday 23 May & KS3/4 Friday 24 May 2024

To book

Places are on a first-come first-served basis, so please book now. Select the number of teacher/pupil places you require using the quantity boxes below, add to your basket and proceed to (free) checkout at the bottom of the page. You will receive an email receipt in acknowledgement of your order.

Pupils can buy books on the day from the Hay Festival Bookshop.

All events will be livestreamed on the day and are free to watch again later on Hay Festival Anytime (captioned in English). If you wish to watch online, please register below to access each event. We will send a reminder email in advance of your events.

If you have any questions, please email schools@hayfestival.com.

You are booking for English schools. Schools in Wales Book Here

Rydych chi’n archebu ar gyfer ysgolion yn Lloegr. Os yw eich ysgol yng Nghymru Archebwch yma
Maz Evans

Maz Evans

Oh Maya Gods!

KS2 | CA2
Thursday 23 May 2024, 10am

Mae Maz Evans yn rhyddhau cenhedlaeth newydd sbon o anturiaethau Who Let The Gods Out? wrth iddi eich cyflwyno i fyd gwallgof mytholeg Maya yn Oh Maya Gods! Cymerwch ran yn yr hwyl a’r gemau wrth i ni ddysgu pwyntiau mwy manwl y gêm bêl Maya Pok-a-Tok – yn sicr – bydd gwallgofrwydd mytholegol. Maz Evans yw awdures y gyfrol boblogaidd Who Let The Gods Out?, Vi Spy a’r gyfres Scarlett Fife, ac mae hi wedi derbyn dros 30 o enwebiadau am wobrau, gan gynnwys ar gyfer y Fedal Carnegie, Branford Boase, Books Are My Bag, Gwobrau Llyfrau Plant Waterstones, Llyfr Plant y Flwyddyn Indie, a Llyfr y Flwyddyn Gorau i Blant, CrimeFest.

Maz Evans unleashes a whole new generation of Who Let The Gods Out? adventures as she introduces you to the madcap world of Maya mythology in Oh Maya Gods! Get stuck into the fun and games as we learn the finer points of the Maya ballgame Pok-a-Tok – mythological Mazness absolutely guaranteed. Maz Evans is author of the bestselling Who Let The Gods Out?, Vi Spy and Scarlett Fife series, and has received over 30 award nominations, including the Carnegie Medal, Branford Boase, Books Are My Bag, Waterstones Children’s Book Prize, Indie Children’s Book of the Year and CrimeFest Best Children’s Book.

Maz Evans - Oh Maya Gods!

Attend In Person

Pupil
Teacher
Katie & Kevin Tsang

Katie & Kevin Tsang

Dragon Force: Devourer’s Attack

KS2 | CA2
Thursday 23 May 2024, 10am

Mentrwch i Camp Claw gyda’r awduron poblogaidd Katie a Kevin Tsang, wrth iddynt eich gwahodd i ymuno â Dragon Force. Dysgwch am Dracordia a’r arwyr, dychmygwch sut y gallai eich draig ‘heartbounded’ eich hun edrych, a pha bŵer cyfrinachol sydd gennych – a breuddwydiwch, gyda Katie a Kevin, am greu cymeriad draig newydd sbon. Yn ogystal â gweithgareddau rhyngweithiol yn ymwneud â dreigiau, bydd sesiynau darllen ac amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb, lle gallwch ofyn cwestiynau i Katie a Kevin am ddreigiau, llyfrau, ysgrifennu neu am beth bynnag yr hoffech!

Venture to Camp Claw with bestselling authors Katie and Kevin Tsang as they invite you to join Dragon Force. Learn about Dracordia and the heroes, imagine what your own heartbonded dragon might look like, and what secret power you might have – and together with Katie and Kevin, dream up a brand new dragon character. As well as interactive dragon activity, there will be readings and time for a Q&A where you can ask Katie and Kevin questions about dragons, books, writing or whatever you like!

Katie & Kevin Tsang - Dragon Force: Devourer’s Attack

Attend In Person

Pupil
Teacher
Connor Allen

Connor Allen

Miracles

KS2 | CA2
Thursday 23 May 2024, 10am

Ewch ar daith ysbrydoledig o hunan-ddarganfod gyda chyn Fardd Plant Cymru a’r awdur arobryn Connor Allen. Trwy ei gerddi yn y sesiwn hwyliog, ryngweithiol hon, bydd Connor yn dangos eich potensial unigol i chi, beth bynnag fo’ch oedran, ac yn eich helpu i weld ein bod i gyd yn wyrthiau – ‘One in eight billion, brilliant and unique’.

Embark on an inspiring journey of self-discovery with former Children’s Laureate Wales and award-winning writer Connor Allen. Through his poems in this fun, interactive session, Connor will show you your individual potential, whatever your age, and will help you see that we are all miracles – ‘One in eight billion, brilliant and unique’.

Connor Allen - Miracles

Attend In Person

Pupil
Teacher
Yassmin Abdel-Magied

Yassmin Abdel-Magied

Stand Up and Speak Out Against Racism

KS2 | CA2
Thursday 23 May 2024, 10am

Sut allwch chi greu newid? Bydd yr eiriolwr cymdeithasol a’r ymgyrchydd arobryn Yassmin Abdel-Magied yn eich ysbrydoli i gydnabod, gwrthsefyll ac amharu ar sgyrsiau ac agweddau hiliol. Bydd Yassmin yn archwilio cyd-destun hanesyddol hiliaeth, ac yn ateb eich holl gwestiynau, ac yn rhoi’r hyder i chi herio anghydraddoldeb, lledaenu negeseuon cadarnhaol, ac ymdrechu tuag at greu byd mwy teg a mwy diogel i bawb. Dewch i ddarganfod sut y gallwn ni gyd helpu i greu byd o garedigrwydd, empathi a dealltwriaeth.

How can you create change? Award-winning social advocate and campaigner Yassmin Abdel-Magied will inspire you to recognise, resist and disrupt racist conversations and attitudes. Yassmin will explore the historical context of racism and answer all your questions, giving you the confidence to challenge inequality, spread positive messages and strive towards a fairer, safer world for everyone. Come and find out how we can all help to create a space of kindness, empathy and understanding.

Yassmin Abdel-Magied - Stand Up and Speak Out Against Racism

Attend In Person

Pupil
Teacher
MG Leonard

MG Leonard

Feather

KS2 | CA2
Thursday 23 May 2024, 11.15am

Ymunwch â MG Leonard wrth iddi rannu beth wnaeth hi ei ddarganfod am wylio adar, wrth ysgrifennu ei chyfres Twitchers arobryn. Bydd y straeon hyn am ddirgelwch, antur, cyfeillgarwch, dewrder a rhyfeddod godidog adar yn eich gadael yn awyddus i ymuno â Chlwb y Twitchers! Digwyddiad i ennyn brwdfrydedd pawb sydd yn caru natur, gwylwyr adar a ditectifs y dyfodol.

Fly up to hear MG Leonard share what she discovered about birdwatching when writing her award-winning Twitchers series. These tales of mystery, adventure, friendship, bravery and the magnificent wonder of birds will get you flapping to join The Twitchers Club! An event to enthuse all nature lovers, birdwatchers and detectives in the making.

MG Leonard - Feather

Attend In Person

Pupil
Teacher
Kiran Millwood Hargrave

Kiran Millwood Hargrave

In the Shadow of the Wolf Queen

KS2 | CA2
Thursday 23 May 2024, 11.15am

Dewch o hyd i ysbrydoliaeth i greu eich straeon eich hun gyda Kiran Millwood Hargrave (awdures llyfrwerthwr y Sunday Times, The Mercies, a The Girl of Ink and Stars). Mae Kiran yn dathlu’r llyfr cyntaf, In the Shadow of the Wolf Queen, yn ei chyfres o dair nofel newydd – Geomancer – a bydd yn mynd â chi ar daith drwy’r coetiroedd go iawn, tirweddau naturiol a hud y ddaear sydd yn gorwedd wrth wraidd ei straeon.

Find inspiration to create your own tales with Kiran Millwood Hargrave (author of Sunday Times bestseller The Mercies and The Girl of Ink and Stars). Celebrating the first book in her unmissable new Geomancer trilogy, In the Shadow of the Wolf Queen, Kiran will take you on a journey through the real woodlands, natural landscapes and earth magic that lie at the heart of her stories.

Kiran Millwood Hargrave - In the Shadow of the Wolf Queen

Attend In Person

Pupil
Teacher
Alex Wharton

Alex Wharton

Red Sky at Night, A Poet’s Delight

KS2 | CA2
Thursday 23 May 2024, 11.15am

Ymlaciwch a gadewch i’ch hun gael eich cludo gan drydan, llawenydd a dirgelwch creadigol gydag Alex Wharton, Bardd Plant Cymru. Bydd yn darllen o’i gasgliadau blaenorol o farddoniaeth, ac yn ceisio ein cysylltu ac ysbrydoli cariad at iaith chwareus, chwilfrydig a dychmygus. Bydd barddoniaeth, rap a chaneuon yn dawnsio gyda’i gilydd fel un yn y digwyddiad trawsnewidiol hwn.

Relax and let yourself be transported by creative electricity, joy and mystery with Children’s Laureate Wales Alex Wharton. He’ll draw from his three collections of fizzy-dizzy words, seeking to connect us and inspire a love of playful, curious and imaginative language. Poetry, rap and songs will dance together as one in this transformative event.

Alex Wharton - Red Sky at Night, A Poet’s Delight

Attend In Person

Pupil
Teacher
Lee Newbery

Lee Newbery

The Lost Sunlion

KS2 | CA2
Thursday 23 May 2024, 11.15am

Dilynwch Lee Newbery i fyd hudol ei nofel The Last Firefox sy’n twymo’r galon, a’i nofelau dilynol, The First Shadowdragon a’r nofel newydd sbon, The Lost Sunlion. Bydd yn archwilio ei daith ysgrifennu a’i ysbrydoliaeth, cyn eich helpu i ddylunio eich creadur hudolus eich hun mewn gweithgaredd cardiau Pokémon ac yna, cwis geiriau anifeiliaid yn Gymraeg. Bydd digwyddiad Lee yn cynnig cyflwyniad sensitif i fabwysiadu hefyd, ac yn dathlu’r holl wahanol fathau o deuluoedd yn y byd.

Follow Lee Newbery into the magical world of his heart-warming novel The Last Firefox and its sequels The First Shadowdragon and brand new The Lost Sunlion. He’ll explore his writing journey and inspiration, before helping you to design your own magical creature in a Pokémon card activity, followed by a Welsh animal words quiz. Lee’s event will also offer a sensitive introduction to adoption, and celebrate all the different types of families in the world.

Lee Newbery - The Lost Sunlion

Attend In Person

Pupil
Teacher
Jeff Kinney

Jeff Kinney

Diary of a Wimpy Kid: The No Brainer Show

KS2 | CA2
Thursday 23 May 2024, 1pm

Dewch i lawr a datgloi pŵer eich ymennydd! Mae The No Brainer Show yn ddigwyddiad difyr dros ben, sydd yn cael ei redeg gan awdur poblogaidd Diary of a Wimpy Kid, Jeff Kinney. Byddwch yn cael eich gwahodd i ymuno â Jeff ar y llwyfan, i gystadlu mewn digwyddiadau gemau ar ffurf sioe sy’n herio eich ymennydd, i gefnogi eich llyfrgell leol. Disgwyliwch ddigwyddiad llawn hwyl, sy’n dathlu llyfr diweddaraf y Wimpy Kid, ac sy’n archwilio pŵer yr ymennydd!

Come on down and unlock your brain power! The No Brainer Show is an outrageously entertaining event hosted in person by bestselling Diary of a Wimpy Kid author, Jeff Kinney. You’ll be invited to join Jeff on stage, to face off in brain-challenging game show-style events to support your local library. Expect an epically fun event that celebrates the latest Wimpy Kid book and explores the outer limits of the brain!

Jeff Kinney - Diary of a Wimpy Kid: The No Brainer Show

Attend In Person

Pupil
Teacher
Matt Goodfellow

Matt Goodfellow

The Final Year

KS2 | CA2
Thursday 23 May 2024, 1pm

Manteisiwch ar y cyfle i ddarganfod sut i ysgrifennu ‘yn eich llais, am eich bywyd’ gyda’r bardd Matt Goodfellow. Bydd Matt yn darllen o’i nofel farddoniaeth boblogaidd The Final Year, ac yn trafod pam y cafodd ei ysbrydoli i adrodd y stori hon yn y ffordd y gwnaeth. Bydd yn darllen amrywiaeth o gerddi o’i yrfa, ac yn egluro pam ei fod mor angerddol am ddefnyddio barddoniaeth fel ffordd i fynegi eich hun.

Grab the chance to find out how to write ‘in your voice, about your life’ with poet Matt Goodfellow. Matt will read from his bestselling verse novel The Final Year and discuss why he was inspired to tell this story in the way that he’s told it. He’ll read a range of poems from throughout his career and explain why he’s so passionate about poetry as a means to express yourself.

Matt Goodfellow - The Final Year

Attend In Person

Pupil
Teacher
Adam Rutherford

Adam Rutherford

Where Are You Really From?

KS2 | CA2
Thursday 23 May 2024, 1pm

Pwy ydych chi’n meddwl ydych chi? Ydych chi erioed wedi meddwl am bwy y gallech chi fod yn perthyn iddynt? Beth petasem yn dweud wrthych eich bod chi’n perthyn i ymerawdwyr rhyfeddol, brenhinoedd hynod a breninesau godidog? Wel, eich mawrhydi, mi ydych chi. I ddweud y gwir, mae pawb. Ac mae’r genetegydd Adam Rutherford yma i ddweud wrthych chi sut. Dewch ar antur anhygoel trwy filiynau o flynyddoedd o hanes dynol, lle byddwch yn dysgu hanes ein rhywogaeth, o esblygiad, i ddeinosoriaid, i CHI! Byddwch yn cwrdd â brenhinoedd a breninesau, pharoaid a Llychlynwyr, a gweld pa mor bell ac eang y mae bodau dynol wedi mudo ar draws y byd. Byddwch yn darganfod pam ein bod ni’n perthyn i ddyn hynod gawslyd a dim ots pa liw croen sydd gennych, yr iaith rydych chi'n ei siarad neu o ble rydych chi’n dod – rydyn ni i gyd yn rhannu’r un nifer fechan o hynafiaid.

Who do you think you are? Have you ever thought about who you might be related to? What if we told you that you were related to extraordinary emperors, great kings and magnificent queens? Well, your majesty, you are. In fact, everyone is. And geneticist Adam Rutherford is here to tell you how. Come on an extraordinary adventure through millions of years of human history where you’ll learn the story of our species from evolution to dinosaurs to YOU! You’ll meet kings and queens, pharaohs and vikings, and see just how far and wide humans have migrated around the world. You’ll discover why we’re related to a super cheesy man and that no matter what skin colour you have, language you speak or place you are from – we all share the same small pool of ancestors.

Adam Rutherford - Where Are You Really From?

Attend In Person

Pupil
Teacher
Tọlá Okogwu

Tọlá Okogwu

Onyeka and the Heroes of the Dawn

KS2 | CA2
Thursday 23 May 2024, 1pm

Paratowch eich hun am antur epig, sy’n herio confensiwn ac sy’n dathlu’r pŵer o gofleidio eich natur unigryw. Bydd yr awdur arobryn Tọlá Okogwu yn cyflwyno campau Onyeka a’i ffrindiau di-ofn, wrth iddynt lywio drwy Academi ddirgel yr Haul, agor agendâu cudd, a chychwyn ar genhadaeth i adfer eu pwerau coll. Mae’r gyfres llawn cyffro hon yn llawn troeon calonogol a cyffrous, a bydd Tọlá yn eich cadw ar ymyl eich sedd o’r dechrau i’r diwedd. Peidiwch â cholli'r cyfle i ddarganfod eich archbwerau cudd eich hun. Byddwch yn barod i ryddhau’r arwr tu fewn i chi!

Brace yourself for an epic adventure that defies convention and celebrates the power of embracing your uniqueness. Award-winning author Tọlá Okogwu will introduce the exploits of Onyeka and her fearless friends as they navigate the mysterious Academy of the Sun, unravel hidden agendas and embark on a mission to restore their lost powers. This action-packed series is full of heart-pounding twists and exhilarating turns, and Tọlá will keep you on the edge of your seat from start to finish. Don’t miss out on the chance to discover your own hidden superpowers. Get ready to unleash the hero within!

Tọlá Okogwu - Onyeka and the Heroes of the Dawn

Attend In Person

Pupil
Teacher
Alex Wheatle in conversation with Jenny Valentine

Alex Wheatle in conversation with Jenny Valentine

In The Ends

KS3/4 | CA3/4
Friday 24 May 2024, 10am

Ewch i fyd stâd South Crongton, lle mae gan fywyd ei bryderon, o fynd drwy’r ysgol a’r system ofal, i osgoi gangiau a gangsters. Dewch i gwrdd â chast o gymeriadau, doniol, trasig a llawn dewrder yr awdur arobryn Alex Wheatle, wrth iddo gyflwyno’r llyfr olaf yn ei gyfres hynod afaelgar, Crongton. Yn gyflym ac yn hynod amsugnol, bydd y rhan olaf hwn yn eich gadael ar ochr eich sedd, wrth i’r Marchnogion Crongton ralio am un antur olaf…

Enter the world of the South Crongton estate, where life has its worries, from navigating school and the care system to evading gangs and gangsters. Meet multi-award-winning author Alex Wheatle’s cast of characters, funny, tragic and full of courage, as he introduces the final book in his superbly gripping Crongton series. Fast-paced and supremely absorbing, this final installment will leave you breathless as the Crongton Knights rally for one final adventure…

Alex Wheatle in conversation with Jenny Valentine - In The Ends

Attend In Person

Pupil
Teacher
Sarah Crossan

Sarah Crossan

Where The Heart Should Be

KS3/4 | CA3/4
Friday 24 May 2024, 10am

Ymgollwch yn hanes Prydain yn y digwyddiad rhyngweithiol hwn, sy’n dathlu barddoniaeth a nofelau barddoniaeth. Bydd enillydd Medal Carnegie a chyn-ennillydd fedal na nÓg, a llais unigryw yn y genre Oedolion Ifanc, Sarah Crossan, yn cyflwyno ei llyfr newydd hir-ddisgwyliedig Where The Heart Should Be. Mae’n ysgogi’r meddwl ac yn hynod deimladwy, ac yn archwilio cariad a theulu yn ystod y Newyn Mawr yn Iwerddon ym 1846. Ar un adeg, roedd Nell wrth ei bodd gyda’r ysgol a llyfrau a breuddwydio, ond does dim llawer o siawns o hynny, nawr ei bod hi’n gweithio fel morwyn cegin gefn i Syr Philip Wicken, y dyn sy’n berchen ar ei chartref, tir ei theulu, eu cnydau, popeth. Mae ei gŵn bob amser yn cael eu bwydo’n dda, hyd yn oed wrth i newyn setio mewn…

Dive into British history in this interactive event celebrating poetry and verse novels. Carnegie Medal-winning former Laureate na nÓg and unique voice in YA Sarah Crossan will present her much-anticipated new book Where The Heart Should Be. Thought-provoking and incredibly moving, it explores love and family during the Great Hunger in Ireland in 1846. Nell once loved school and books and dreaming, but there’s not much chance of that now she’s working as a scullery maid for Sir Philip Wicken, the man who owns her home, her family’s land, their crops, everything. His dogs are always well fed, even as famine sets in…

Sarah Crossan - Where The Heart Should Be

Attend In Person

Pupil
Teacher
Phil Earle

Phil Earle

Northern Soul & When The Sky Falls

KS3/4 | CA3/4
Friday 24 May 2024, 10am

Dewch i gael hwyl gyda hanes ingol yr awdur arobryn Phil Earle o ymdrechion trychinebus un bachgen yn ei arddegau at ramant – sydd ddim yn gwbl ffuglennol! Fe wnaeth llyfr blaenorol Phil, When The Sky Falls, gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Fedal Yoto Carnegie, ac ef oedd enillydd Llyfr Ffuglen Plant y Flwyddyn Gwobrau Llyfrau Prydain. Bydd yn dathlu cyhoeddi Northern Soul (ei 25ain llyfr), gydag ymddangosiad cameo gan Dduw Miwsig yr Enaid (Gogleddol), Otis Reading…

Get the giggles with award-winning author Phil Earle’s hilariously agonising account of one teenage boy’s disastrous attempts at romance – which is not entirely fictional! Phil’s previous book When The Sky Falls was shortlisted for the Yoto Carnegie Medal and was winner of the British Book Awards Children’s Fiction Book of the Year. He’ll celebrate the release of Northern Soul (his 25th book), with a cameo appearance from the God of (Northern) Soul, Otis Reading…

Phil Earle - Northern Soul & When The Sky Falls

Attend In Person

Pupil
Teacher
Aneirin Karadog

Aneirin Karadog

Poetry in Action

KS3/4 | CA3/4
Friday 24 May 2024, 10am

Mae Aneirin Karadog yn fardd, yn ddarlledwr, yn berfformiwr ac yn ieithydd. Dewch i ymuno ag ef i gymryd rhan mewn sesiwn ryngweithiol, lle bydd yn rhannu awgrymiadau ar sut i greu cerddi bywiog ac ystyrlon gydag ysbrydoliaeth gan yr iaith Gymraeg. Mae Aneirin yn siarad pum iaith, ac mae wedi rapio mewn bywyd blaenorol. Bydd yn eich diddanu a’ch ysbrydoli wrth iddo ddechrau rapio freestyle yma yng Ngŵyl y Gelli.

Aneirin Karadog is a poet, broadcaster, performer and linguist. Join him for an interactive session where he’ll share tips on creating lively and meaningful poetry with inspiration from Cymraeg. Aneirin speaks five languages and has been known to rap in a previous life. He’ll entertain and inspire you as he raps freestyle here at Hay Festival.

Aneirin Karadog - Poetry in Action

Attend In Person

Pupil
Teacher
Ashley Hickson-Lovence

Ashley Hickson-Lovence

Wild East

KS3/4 | CA3/4
Friday 24 May 2024, 11.15am

Dysgwch sut mae rap yn farddoniaeth gyda’r bardd a'r nofelydd Ashley Hickson-Lovence, a fydd yn cyflwyno ei nofel farddoniaeth Oedolion Ifanc teimladwy ac emosiynol, Wild East.
Pen in one hand, on my wrist, a ticking clock
I’ve got to make this work, just need a little luck…
Mae Ronny, sy’n bedair ar ddeg oed, newydd symud o’r ddinas i’r maestrefi. Nawr mae’n rhaid iddo ddarganfod sut i ddelio gyda bod yn fachgen Du yn ei arddegau mewn ysgol gyda phlant gwyn yn bennaf, dod o hyd i ffrindiau newydd, a chadw at ei nod o fod yn rapiwr yn fyw.

Find out how rap is poetry with poet and novelist Ashley Hickson-Lovence, who’ll present his soaring and emotional YA novel-in-verse Wild East.
Pen in one hand, on my wrist, a ticking clock
I’ve got to make this work, just need a little luck…

Fourteen-year-old Ronny’s just moved from the city to the suburbs. Now he has to navigate being a Black teenager in a mostly white school, finding new friends and keeping his goal of being a rapper alive.

Ashley Hickson-Lovence - Wild East

Attend In Person

Pupil
Teacher
Jenny Valentine

Jenny Valentine

Us in the Before and After

KS3/4 | CA3/4
Friday 24 May 2024, 11.15am

Mae Jenny Valentine wedi bod yn meddwl am restrau. Rhestrau hir, rhestrau byr, rhestrau siopa, rhestrau dymuniadau, rhestrau coll, rhestrau i’w gwneud. Mae pawb yn eu hysgrifennu, mewn un ffordd neu’r llall. Dewch i ysgrifennu rhywfaint o restrau gyda Jenny am bethau bob dydd, neu bethau materol, neu bethau ynghylch bywyd a marwolaeth. Mae ein rhestrau yn dweud mwy amdanom nag yr ydym yn ei sylweddoli. Bydd Jenny yn eich cyflwyno i’w nofel Awduron Ifanc ddiweddaraf, Us in the Before and After, a fydd yn ddarlleniad brawychus, torcalonnus o hardd am farwolaeth sydyn a chanlyniadau oes un weithred drasig.

Jenny Valentine has been thinking about lists. Long lists, short lists, shopping lists, wish lists, missing lists, to-do lists. Everybody writes them, one way or another. Come and make some lists with Jenny about everyday things, or material things, or life and death things. Our lists say more about us than we realise. Jenny will introduce you to her latest YA novel, Us in the Before and After, a tear-jerking, heart-breakingly beautiful read about the fallout of a sudden death, and the lifelong consequences of a single tragic act.

Jenny Valentine - Us in the Before and After

Attend In Person

Pupil
Teacher
Nicola Garrard

Nicola Garrard

21 Miles

KS3/4 | CA3/4
Friday 24 May 2024, 11.15am

Camwch i fyd cyflym a graenus ond llawn cyfeillgarwch ffoaduriaid yn eu harddegau sy’n byw ar y stryd yng ngogledd Ffrainc: pwy ydyn nhw? Lle mae eu rhieni… a pam eu bod nhw mor dda mewn pêl-droed? Bydd yr awdures enwog Nicola Garrard yn arwain trafodaeth fywiog, a byddwch yn cwrdd â Donny, arwr dewr a doniol 29 Locks, wrth iddo ddychwelyd am fwy o anturiaethau yn 21 Miles. Pan fydd yn colli ei basbort ar wyliau, mae’n rhaid iddo ymuno â phobl ifanc sydd wedi teithio miloedd o filltiroedd o ranbarthau rhyfel ac argyfwng hinsawdd, a dod o hyd i’w ffordd adref. A fydd ei sgiliau cwch yn ei helpu i deithio’r 21 milltir rhwng Ffrainc a Phrydain?

Step into the fast-paced and gritty but friendship-filled world of teenage refugees living rough in northern France: who are they? Where are their parents… and just why are they so good at football? Acclaimed author Nicola Garrard will lead a lively discussion and you’ll meet Donny, the brave and funny hero of 29 Locks, as he returns for more adventures in 21 Miles. When he loses his passport on holiday, he must join forces with young people who have travelled thousands of miles from war and climate crisis-torn regions, and find a way home. Will his boat skills help him navigate the 21 miles between France and Britain?

Nicola Garrard - 21 Miles

Attend In Person

Pupil
Teacher
AM Dassu

AM Dassu

Kicked Out

KS3/4 | CA3/4
Friday 24 May 2024, 11.15am

Dewch i weld y byd o safbwynt gwahanol yn y digwyddiad hwn sy’n ysgogi’r meddwl gyda’r awdur arobryn AM Dassu. Cafodd ei hysbrydoli gan straeon newyddion am ei nofel glodfawr Boy, Everywhere a’i nofel ddilynol rymus Kicked Out, lle mae’n rhaid i Ali a Sami helpu i glirio enw eu ffrind pan mae’n wynebu alltudiaeth am ladrad. Bydd AM Dassu yn dangos sut i ysgrifennu o sawl safbwynt, i adeiladu empathi a herio stereoteipiau.

See the world from a different perspective in this thought-provoking event with bestselling author AM Dassu. She took inspiration from news stories for her acclaimed novel Boy, Everywhere and its powerful sequel Kicked Out, in which Ali and Sami must help clear their friend’s name when he faces deportation for theft. AM Dassu will showcase writing from multiple viewpoints to build empathy and challenge stereotypes.

AM Dassu - Kicked Out

Attend In Person

Pupil
Teacher
BBC Radio 4: Front Row

BBC Radio 4: Front Row

Young Adult Fiction

KS3/4 | CA3/4
Friday 24 May 2024, 11.15am

Ymunwch â thîm y BBC wrth i Front Row ar BBC Radio 4 ddathlu Ffuglen i Oedolion Ifanc, ac archwilio'r ystod ryfeddol o straeon a materion sy'n cael sylw mewn nofelau plant heddiw. Yn ymuno â Tom Sutcliffe mae awduron poblogaidd, gan gynnwys Manon Steffan Ros, enillydd Medal Yoto Carnegie 2023, a'r awdur arobryn Alex Wheatle. Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio i'w ddarlledu ar BBC Radio 4.

Join the BBC team as BBC Radio 4’s Front Row celebrates Young Adult Fiction, exploring the extraordinary range of stories and issues tackled in children’s novels today. Tom Sutcliffe is joined by bestselling authors, including Manon Steffan Ros, winner of the 2023 Yoto Carnegie Medal, and award-winning author Alex Wheatle.
This event will be recorded for broadcast on BBC Radio 4 - Please arrive in good time.

BBC Radio 4: Front Row - Young Adult Fiction

Attend In Person

Anthony Horowitz

Anthony Horowitz

Nightshade Revenge

KS3/4 | CA3/4
Friday 24 May 2024, 1pm

Ewch ar genhadaeth newydd a mentrus gydag ysbïwr ifanc gorau’r byd. Ymunwch ag Anthony Horowitz, awdur y gyfres Alex Rider, wrth iddo drafod byd o olygfeydd hela mentrus, llofruddion marwol a systemau hapchwarae VR yn ei lyfr diweddaraf yn y gyfres, Nightshade Revenge. Mae dros 21 miliwn o gopïau o’r gyfres epig hon wedi cael eu gwerthu ar draws y byd.

Take on a new and daring mission with the world’s bestselling teenage spy. Join Anthony Horowitz, author of the Alex Rider series, as he discusses a world of daring chase scenes, deadly assassins and immersive VR gaming systems in his latest book in the series, Nightshade Revenge. Over 21 million copies have been sold globally of this epic series.

Anthony Horowitz - Nightshade Revenge

Attend In Person

Pupil
Teacher
Daniel Morden

Daniel Morden

Strange Tales

KS3/4 | CA3/4
Friday 24 May 2024, 1pm

Disgwyliwch hwyl arswydus gan un o storïwyr gorau’r DU yn y digwyddiad hwn. Mae llyfr newydd Daniel Morden, Strange Tales, yn cynnwys llu o straeon traddodiadol o’r ochr dywyll: sgerbydau sy’n dawnsio, ysbrydion anweledig, taith i Uffern. Bydd yn adrodd ‘chillers a thrillers’, sydd yn sicr o swyno pawb! Mae’r awdur a’r storïwr arobryn o Gymru yn adnabyddus am ei berfformiadau anhygoel o straeon hynafol. Mae wedi teithio’r byd, o’r Arctig i’r Môr Tawel i’r Caribî. Gydag amseriad digrifwr ar ei draed a thro ymadrodd bardd, mae’n galluogi hanesion ein cyndeidiau i siarad â chenhedlaeth heddiw o bobl ifanc.

Expect grisly fun from one of the UK’s finest storytellers in this event. Daniel Morden’s new book Strange Tales features a host of traditional tales from the dark side: dancing skeletons, invisible spirits, a journey to Hell… He’ll tell chillers and thrillers, guaranteed to enthrall all! The award-winning Welsh author and storyteller is known for his amazing performances of ancient stories. He has toured the world, from the Arctic to the Pacific to the Caribbean. With the timing of a standup and the turn of phrase of a poet, he enables the tales of our ancestors to speak to today’s generation of young people.

Daniel Morden - Strange Tales

Attend In Person

Pupil
Teacher
Frances Hardinge

Frances Hardinge

Unraveller

KS3/4 | CA3/4
Friday 24 May 2024, 1pm

Ewch i fyd o farchnadoedd golau lleuad, pryfed cop hudol a choedwigoedd corsydd dirgel gyda’r awdures Frances Hardinge, sydd wedi ennill Gwobr Costa. Yn ffantasi Frances i Oedolion Ifanc, mae Unraveller, sef Kellen – bachgen sy’n gallu codi melltithion oddi ar eraill – wedi cael ei felltithio. A fydd Kellen yn gallu tynnu’r felltith cyn iddo dynnu popeth yn ddarnau o’i gwmpas? Ymunwch â Frances i ddarganfod mwy am y stori ffantasi hon mewn byd cyfoethog, dychmygus, ac i gael cipolwg ar ei broses ysgrifennu.

Enter a world of moonlit markets, magical spiders and mysterious marsh-woods with Costa Award-winning author Frances Hardinge. In Frances’ YA fantasy Unraveller, Kellen – a boy who can lift curses off others – has been cursed. Can Kellen remove the curse before he unravels everything around him? Join Frances to find out more about this richly-imagined fantasy, and to gain a glimpse into her writing process.

Frances Hardinge - Unraveller

Attend In Person

Pupil
Teacher
Manon Steffan Ros

Manon Steffan Ros

The Blue Book of Nebo

KS3/4 | CA3/4
Friday 24 May 2024, 1pm

Allwch chi ddychmygu Y Diwedd? Roedd Dylan yn chwech oed pan ddaeth Y Diwedd, nôl yn 2018; pan aeth y trydan i ffwrdd am byth, a’r byd ‘normal’ o’r 21ain ganrif roedd yn ei adnabod wedi diflannu. Bellach, mae’n 14 oed, ac mae ef a’i fam wedi goroesi yn eu tŷ pen bryn anghysbell uwchben pentref Nebo yng ngogledd-orllewin Cymru, gan ddysgu sgiliau newydd, a dychwelyd i’r hen ffyrdd o fyw. Ond mae gan bob un ohonynt eu cyfrinachau eu hunain… Darganfyddwch fyd Nebo gydag enillydd Medal Carnegie am Ysgrifennu, Manon Steffan Ros. Bydd hi’n trafod y themâu a’r ysbrydoliaeth y tu ôl I Llyfr Glas Nebo, ac yn mynd i’r afael â’r cwestiwn oesol hwnnw – sut ydych chi’n ysgrifennu llyfr?

Can you imagine The End? Dylan was six when The End came, back in 2018; when the electricity went off for good, and the ‘normal’ 21st-century world he knew disappeared. Now he’s 14 and he and his mam have survived in their isolated hilltop house above the village of Nebo in north-west Wales, learning new skills, and returning to old ways of living. But they each have their own secrets… Uncover the world of Nebo with Carnegie Medal for Writing winner Manon Steffan Ros. She’ll discuss the themes and inspiration behind The Blue Book of Nebo, and tackle that age-old question – how do you write a book?

Manon Steffan Ros - The Blue Book of Nebo

Attend In Person

Pupil
Teacher
Hay Festival Education logo
Sponsored by Welsh Government logo
Rothschild Foundation logo