Cymrawd Rhyngwladol Hay Festival
Hay Festival International Fellowship

Mae’r cyfnod i gyflwyno ceisiadau ar gyfer Cymrawd Rhyngwladol Hay Festival / Hay Festival International Fellowship bellach ar gau.

Stage event

Mae'r awdur, y bardd a'r artist gair llafar Hanan Issa wedi ennill 2022/23 Cymrawd Rhyngwladol Cymru Greadigol Hay Festival | Hay Festival Creative Wales International Fellowship.

Cyhoeddwyd pamffled cyntaf un o gyfranogwyr rhaglen datblygu Gŵyl y Gelli yn y Gwaith, Hanan, My Body can House two Hearts, gan Burning Eye Books yn 2019. Mae ei gwaith wedi cael ei berfformio a'i gyhoeddi mewn amryw o leoedd, gan gynnwys BBC Cymru, ITV Wales, Huffington Post, Gŵyl StAnza a Poetry Wales. Hi yw cyd-sylfaenydd y sesiwn meic agored 'Where I'm Coming From’, a chafodd ei henwi'n Fardd Cenedlaethol Cymru yn gynharach eleni.

Mae'r Gymrodoriaeth, sydd yn cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cefnogi awdur yng Nghymru i fynychu digwyddiadau’r Ŵyl ar draws y byd ym Mecsico, Sbaen, Periw a Colombia tra’n datblygu prosiect ysgrifennu neu ymchwil. Mae’n agored i awduron eithriadol o bob oed, ac yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu gyrfa, a chynyddu proffil artistig Cymru yn rhyngwladol.

Meddai Hanan Issa: “Rwyf yn gyffrous dros ben gan y cyfle hwn i archwilio llefydd mor anhygoel a chysylltu ag awduron rhyngwladol. Rwy'n gobeithio deall mwy am draddodiadau llenyddol llên gwerin, straeon tylwyth teg a barddoniaeth o wledydd yr wyf yn ymweld â nhw, a chael cipolwg dyfnach ar hanesion o fy nhreftadaeth fy hun yng Nghymru ac Irac.”

Dywedodd cyfarwyddwr rhyngwladol Gŵyl y Gelli, Cristina Fuentes La Roche: “Rydym yn falch iawn o groesawu Hanan Issa i gymrodoriaeth ryngwladol Gŵyl y Gelli. Mae Gŵyl y Gelli yn cynnig gofod unigryw i awduron, meddylwyr a chynulleidfaoedd o bob rhan o'r byd i rannu syniadau mewn sgyrsiau agored, am ddim. O'n tref lyfrau yng Nghymru, mae'r Ŵyl bellach wedi teithio i fwy na 30 o leoliadau, o dref hanesyddol Cartagena yn Colombia i galon dinasoedd ym Mheriw, Mecsico, Sbaen, a UDA, ac rydym yn edrych ymlaen at rannu gwaith Hanan gyda'r gynulleidfa ryngwladol hon dros y 12 mis nesaf.”

Mererid Hopwood
Alys Conran
Dylan Moore

CYMRODYR O’R GORFFENNOL

"Mae'r Gymrodoriaeth wedi rhoi cymaint o hyder i mi fel awdur, ac ar lefel bersonol, ni allaf bwysleisio digon pa mor werthfawr yw'r cyfle i rywun o gefndir dosbarth gwaith - o gofio mai rhai o fy hoff bethau mewn bywyd yw darllen, ysgrifennu, teithio a chwrdd â phobl newydd – roedd Cymrodoriaeth y Gelli yn rhywbeth y cefais fy ngeni i'w wneud!" Dylan Moore
'Rwyf wedi dysgu llawer mwy am sefyllfa llenorion cynhenid ar draws y byd, ac wedi dysgu ystyried fy hunaniaeth Gymreig fy hun mewn cyd-destun ehangach. Rwyf wedi ennill llawer mwy o ddealltwriaeth o rai o'r ffyrdd y gellir tawelu awduron wrth eu gwaith ond hefyd, pa mor bwerus y gall creadigrwydd fod wrth ddatblygu ewyllys i newid" Alys Conran 
"Mae wedi bod yn gymaint o antur. Rwyf wedi gwneud cysylltiadau a ffrindiau parhaol, ac wedi dysgu cymaint am bobl eraill a bywydau eraill.  Ac am y pethau dwi'n eu caru.  Ac am y pethau nad oeddwn i hyd yn oed yn gwybod eto fy mod i'n gallu eu gwneud.  Nid yw'r gwaith rwyf wedi'i wneud erioed, yn fy mywyd proffesiynol, wedi teimlo mor werth chweil. Mae'r Gymrodoriaeth hon, yn syml iawn, wedi newid popeth." Jenny Valentine 
"Yn ystod y flwyddyn, fe wnes i gyfarfod â chymaint o bobl, ac roedd pob un ohonynt yn rhannu ysbryd hanfodol y Gelli, sef haelioni cynhenid a chwilfrydedd. Fe wnes i gyfweld â llu o awduron, gan gynnwys Ben Okri, Tibor Fischer a Gyorgy Dragoman, a chefais fy nghyfweld am fy ngwaith yn ei dro... mae wedi fy newid yn llwyr." Jon Gower
Jon Gower
Jenny Valentine
Tiffany Murray
Arts Council of Wales, Lottery Funded and Welsh Government logos