Awduron wrth eu Gwaith 2026

Mae Gŵyl y Gelli yn gwahodd ceisiadau newydd ar gyfer Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2026, eu cyfle datblygu proffesiynol i awduron o Gymru, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2.00 pm, dydd Iau 26 Chwefror 2026.

Writers at Work 2025

Bydd y cyfle datblygu proffesiynol hwn i awduron o Gymru yn digwydd yn ystod Gŵyl y Gelli (21 Mai - 31 Mai) o ddydd Gwener 22 Mai i ddydd Sul 31 Mai 2026. Bydd y rhaglen 10 diwrnod o hyd yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fynychu dosbarthiadau meistr, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio gydag awduron, cyhoeddwyr, asiantaethau ac aelodau o’r wasg o Gymru, y DU a thu hwnt.

Bydd y gweithgareddau a'r cyfleoedd rhwydweithio yn ystod y 10 diwrnod yn canolbwyntio'n bennaf ar ysgrifennu ffuglen a gwaith ffeithiol greadigol i oedolion a byddant yn cael eu cynnal yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg; ond fe groesawir ceisiadau gan feirdd, ac unigolion sy'n ysgrifennu ar gyfer oedolion ifanc. Anogir yn benodol awduron sy’n ysgrifennu’n y Gymraeg, ac awduron sy'n defnyddio'r ddwy iaith yn eu gwaith creadigol i ymgeisio. Noder nad yw'r rhaglen hon wedi'i hanelu at sgriptwyr (llwyfan na sgrin). Bydd awduron cymwys yn awduron o Gymru (wedi'u geni, eu haddysgu, neu’n byw ar hyn o bryd yng Nghymru) sy'n dangos ymrwymiad clir tuag at ddatblygiad proffesiynol a gyda  thystiolaeth o gyhoeddi.

Gall cyfranogwyr fod yn awduron sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd llenyddol sydd o ddifrif am ddatblygu’n broffesiynol, neu'n awduron yng nghanol eu gyrfa sy’n wynebu anawsterau gyda'u cyhoeddiad nesaf ac sydd angen cefnogaeth i gyflawni eu nodau gyrfaol. Mae Gŵyl y Gelli hefyd yn gwahodd ceisiadau gan awduron mwy profiadol sy'n teimlo eu bod eisoes wedi cyflawni popeth o fewn eu gallu o fewn un genre neu iaith, ond sy'n wynebu rhwystrau wrth gyflawni newid sylweddol yn eu gyrfaoedd. Mae'r panel asesu yn awyddus i glywed sut mae ymgeiswyr yn credu bod eu gwaith yn cyfrannu at dirwedd lenyddol gyfoes Cymru a sut bydd y rhaglen yn eu cefnogi ar yr union adeg hon yn eu gyrfaoedd.

Nid oes cyfyngiad oedran, tu hwnt i’r lleiafswm oed o 18, ac mae 10 lle ar gael.

Bydd yr ymgynulliad unigryw hwn o’r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Ngŵyl y Gelli yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fagu hyder, sgiliau ac i ffurfio rhwydweithiau gyda’u cyfoedion, gan adael y rhaglen wedi eu hysbrydoli i greu gweithiau newydd ac i gyflawni eu hamcanion personol.

Bydd rhaglen Awduron wrth eu Gwaith yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim ar gyfer y 10 awdur llwyddiannus. Bydd Ysgoloriaeth Awduron wrth eu Gwaith yn talu am lety, teithio o fewn Cymru neu’r DU, a chynhaliaeth yn ystod yr ŵyl. Mae safle’r ŵyl yn gwbl hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae dolenni anwythol (induction loops) ar gael ym mhob lleoliad perfformio. Caniateir cŵn tywys. Gŵyl y Gelli fydd yn trefnu’r llety, ond bydd angen i gyfranogwyr ofalu am eu trefniadau teithio eu hunain; a bydd y costau hyn yn cael eu had-dalu.

Sut i ymgeisio

Cwblhewch y ffurflen gais ddigidol hon. Gellir lawrlwytho fersiwn print bras a dyslecsia gyfeillgar isod hefyd. Bydd y ffurflen gais yn gofyn am y canlynol:

Noder: os ydych chi'n gwneud cais drwy'r ffurflen ddigidol ac heb gwneud cais gyda Llenyddiaeth Cymru yn ystod y 6 mis diwethaf, bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru fer cyn cael mynediad at ffurflen gais Awduron wrth eu Gwaith.

  • Manylion am eich cyhoeddiadau.
  • Bywgraffiad awdur – yn cynnwys eich profiadau proffesiynol ac uchafbwyntiau eich gyrfa (dim mwy na 200 gair).
  • Datganiad yn amlinellu eich amcanion a’ch uchelgeisiau a sut y bydd lle ar y cynllun Awduron wrth eu Gwaith yn cefnogi hyn (dim mwy na 300 gair).
  • Amlinelliad byr o brosiect cyfredol, neu waith ar y gweill, a gwybodaeth am sut bydd y gwaith yn cyfrannu at dirwedd lenyddol gyfoes Cymru (dim mwy na 300 gair). 

Dim ond ceisiadau digidol a dderbynnir, un ai drwy’r ffurflen ddigidol, neu dros e-bost os y byddwch yn cyflwyno fersiwn print bras neu ddyslecsia gyfeillgar. Dylid eu hanfon at writers@hayfestival.org.

Galwad Agored Awduron Wrth eu Gwaith Print Bras

Ffurflen Gais Awduron wrth eu Gwaith Dyslecsia Gyfeillgar a Phrint Bras


Ni fydd ceisiadau a anfonir drwy'r post na cheisiadau hwyr yn cael eu hystyried.

I ddysgu mwy am y broses ymgeisio a dethol, ac i gael trosolwg manylach o'r rhaglen, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.

TELERAU AC AMODAU:
Nod yr wythnos yw ehangu creadigrwydd, ehangu allbwn, a ffurfio rhwydwaith gefnogol o gyfoedion a chysylltiadau llenyddol a chyhoeddi. Bydd gofyn i chi ymrwymo ar gyfer y rhaglen gyfan, sy’n rhedeg o’r bore bach hyd at fin nos ar ambell ddiwrnod.

Mae’r ŵyl yn darparu llety fel rhan o’r ysgoloriaeth (wele’r Cwestiynau Cyffredin am wybodaeth bellach), a bydd gofyn i’r awduron aros yn y Gelli Gandryll o ddydd Gwener 22 Mai (cyrraedd yn y prynhawn), a gadael ar nos Sul 31 Mai 2026. Bydd y rhan fwyaf o'r gweithdai'n dechrau am 10.00 am yn ddyddiol.

Bydd disgwyl i bob awdur gwblhau gwerthusiad llawn a manwl o’r wythnos ac ysgrifennu ar gyfer blog Gŵyl y Gelli yn ystod wythnos yr ŵyl.

Ar ôl darllen y Cwestiynau Cyffredin, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch â: writers@hayfestival.org

Cwestiynau Cyffredin

Oes angen profiad arnaf er mwyn gwneud cais? Neu ydw i’n rhy brofiadol?

Yn bennaf, rydym yn awyddus bod egin awduron ac awduron sydd â pheth profiad  ac o ddifrif am greu gyrfa broffesiynol i’w hunain yn elwa o’r cynllun hwn. Bydd y rhaglen ddwys hon yn eich helpu i ddatblygu’r dulliau a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau, a pharhau ar eich taith fel awdur.

Os ydych eisoes yn awdur profiadol, er enghraifft efallai eich bod wedi cyhoeddi llyfr neu bamffled, efallai y byddwch yn dal i ganfod bod rhwystrau sy’n eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial, neu efallai y byddwch am arbrofi gyda ffurf lenyddol neu iaith wahanol. Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o beth mae profiad yn ei olygu, a lle mae nhw’n credu y maent wedi eu gyrraedd ar eu taith fel awdur. Mae'r panel asesu yn awyddus i wybod sut gallai'r rhaglen eich cefnogi ar yr union adeg hon yn eich gyrfa.

Sut fydd fy nghais yn cael ei asesu?

Bydd y panel asesu yn cynnwys aelodau o dîm Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru, a Tiffany Murray – curadur ac arweinydd y rhaglen. Byddwn yn chwilio am arloesedd, angerdd, a bwriad clir o ran eich dyheadau a’ch uchelgais fel awdur.

Bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar sicrhau grŵp o awduron sydd yn amrywiol ac yn gynrychiadol o ran daearyddiaeth, profiad sgwennu, ieithoedd, ac unrhyw brofiad bywyd fydd wedi ei nodi yn y cais a fydd yn cynnig persbectif newydd i lenyddiaeth yng Nghymru. Bydd awduron sy’n cyrraedd rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad anffurfiol, byr ar-lein.

Pryd fyddai’n gwybod os yw fy nghais yn llwyddiannus?  

Byddwn yn cysylltu gyda’r holl ymgeiswyr yn ystod yr wythnos sydd yn dechrau 6 Ebrill 2026.

Beth fydd strwythur a chynnwys yr wythnos?

Bydd y rhaglen yn dechrau prynhawn Gwener 22 Mai ar safle’r ŵyl, ac yn gorffen brynhawn Sul 31 Mai 2026. Bydd pob diwrnod yn wahanol, ac yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai, ymweliadau i ddigwyddiadau’r ŵyl, digwyddiadau gyda’r nos, a mwy. Disgwylir i chi fynychu pob digwyddiad a gynhelir yn ystod y dydd. Mae Awduron wrth eu Gwaith yn raglen ddwys sy'n dibynnu ar y grŵp yn cydweithio ac yn cefnogi ei gilydd. Mae staff Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw bryderon a gofynion yn ymwneud â hyn cyn a drwy gydol yr ŵyl. Darperir rhagor o wybodaeth am strwythur a chynnwys yr wythnos cyn gynted â phosibl ymlaen llaw. Bydd rhagor o wybodaeth am strwythur a chynnwys yr wythnos yn cael ei ddarparu cyn gynted â phosib o flaen llaw. Byddwch yn cwrdd â nifer o siaradwyr, darllenwyr a hwyluswyr gwadd, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r diwydiant yn ystod yr wythnos mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol.

Er bydd ymarferion ysgrifennu strwythuredig yn cael eu gosod gan rai awduron yn ystod eu gweithdai, ni fydd amserlen dynn y rhaglen yn gadael llawer o amser i chi ddatblygu eich gwaith creadigol ar y gweill. Y bwriad bydd i chi adael gyda sgiliau newydd, yn ogystal â’r syniadau a'r brwdfrydedd i barhau â'ch prosiectau ysgrifennu personol ar ôl i'r ŵyl ddirwyn i ben.

Beth yw’r trefniadau arlwyo? Os oes gen i alergeddau neu anghenion dietegol, allwch chi ddarparu ar fy nghyfer?

Byddwch yn derbyn eich prydau (brecwast, cinio, a swper) ar safle’r ŵyl yng nghyfleusterau arlwyo’r staff. Bydd darpariaeth ar gyfer rheiny ag alergeddau/anghenion dietegol. Bydd coffi, te, a diodydd eraill ar gael drwy gydol y diwrnod. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen i chi dalu am unrhyw fwyd neu diod fydd wedi eu prynu tu hwnt i gyfleusterau arlwyo’r staff arlwyo neu’r Ystafell Werdd.

Sut fydd fy nghostau teithio yn cael eu ad-dalu?

Byddwn yn ad-dalu costau teithio un ffordd (ail ddosbarth) i’r (ac adre yn ôl o’r) ŵyl oddi mewn i Gymru neu’r DU.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Tocyn Trên Dwy Ffordd Safonol
  • Tocyn Bws Dwy Ffordd Safonol
  • Lwfans Petrol @ 45c y filltir

Gall Treuliau fod yn gyfuniad o’r uchod e.e. tocyn trên a bws. Gallwn brynu tocyn o flaen llaw ar eich rhan, neu gallwch gadw derbynneb, fel arall gallwch lenwi ffurflen arian petrol a bydd eich costau teithio yn cael eu ad-dalu pan fyddwch chi’n cyrraedd yr ŵyl.

Ble fydda i'n aros?

Bydd y cyfranogwyr yn derbyn llety mewn tai yn y Gelli Gandryll neu’r ardal gyfagos, yn dibynnu ar argaeledd. Bydd y llety yn darparu ystafell ar gyfer un person yn unig mewn tai fydd yn cael eu rhannu gydag aelodau eraill o garfan Awduron wrth eu Gwaith. Yn anffodus ni fedrwn ni groesawu aelodau o’ch teulu na ffrindiau yn ystod yr encil, na sicrhau ystafelloedd ensuite gan fod prinder gofod llety yn ystod yr ŵyl.

Os na fydd fy nghais yn llwyddiannus, fydda i'n derbyn adborth?

Yn anffodus, oherwydd ein bod yn disgwyl nifer helaeth o geisiadau, ni fyddwn yn gallu rhoi adborth i bob cais aflwyddiannus. Serch hynny, gyda’ch caniatâd, fel a amlinellir yn adran GDPR y ffurflen gais, efallai y bydd Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru yn dymuno cysylltu â chi eto i drafod cyfleoedd pellach.

Ym mha iaith fydd y rhaglen yn cael ei gynnal?

Mae’r rhaglen yn croesawu awduron sy’n ysgrifennu yn Saesneg ac yn Gymraeg. Serch hynny, bydd mwyafrif y rhaglen yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg.

Mae gen i anabledd neu salwch all ei wneud yn anodd imi gymryd rhan. Allwch chi helpu?

Mae timoedd Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw ofynion mynediad neu ofidiau sydd gennych cyn ac yn ystod y cwrs. Mae safle’r ŵyl yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae gofodau digwyddiadau â dolenni sain (induction loops). Rydym yn caniatáu cŵn tywys. Os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni i drafod hygyrchedd, a byddwn yn gwahodd pob awdur i anfon ffurflen Anghenion Mynediad cyn i’r ŵyl ddechrau.

 

Literature Wales
Arts Council of Wales
Lottery Funded
Sponsored by Welsh Government
Folding Rock