Taith y Sgriblwyr – Deunyddiau Addysgol

Gallwch bori yn ein dewis o ddeunyddiau addysgol, a grëwyd i ategu gwersi cyn, yn ystod ac ar ôl yr Taith y Sgriblwyr. Diolch yn fawr iawn i’r awduron a’r cyhoeddwyr a’n cynorthwyodd ni i gynhyrchu’r adnoddau hyn.

Taith y Sgriblwyr 2024 Deunyddiau Addysgol

Emma Carroll

Emma Carroll – The Tale of Truthwater Lake

Mae Emma Carroll wedi cael ei henwebu ar gyfer, ac wedi ennill, nifer o wobrau cenedlaethol, rhanbarthol ac ysgolion – gan gynnwys y Wobr i Ddarllenwyr, Books Are My Bag, Branford Boase, Medal CILIP Carnegie, Young Quills, Teach Primary a Gwobr Llyfr y Flwyddyn Waterstones. Cewch fwy o wybodaeth am ei llyfrau ar: www.faber.co.uk/tutors/emma-carroll.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Emma Carroll

Karl Nova

Karl Nova – The Curious Case of Karl Nova

Mae Karl Nova yn berfformiwr Hip Hop, yn awdur ac yn fardd. Enillodd wobr CLiPPA 2018 ar gyfer Rhythm and Poetry, sef ei gasgliad cyhoeddedig cyntaf.

Ewch i wefan Karl: https://karlnovaworld.wordpress.com.

I gael mwy o wybodaeth ac adnoddau addysgu, ewch i: https://clpe.org.uk/poetryline/poets/nova-karl.

Laura Bates

Laura Bates

Yn ogystal â bod yn awdur, Laura Bates yw sylfaenydd y Prosiect Everyday Sexism; mae hi’n gweithio'n agos gyda gwleidyddion, busnesau, ysgolion, heddluoedd a sefydliadau o Gyngor Ewrop i'r Cenhedloedd Unedig, i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhywiol.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Laura Bates

Benjamin Dean

Benjamin Dean

How to Die Famous yw ail deitl Awdur Ifanc Ben. Wedi'i ysbrydoli gan ei gyfnod fel gohebydd i’r sêr, rydym yn dilyn Abel i lawr twll cwningen Hollywood lle mae cyfrinachau, sgandal a dim ond ychydig bach o lofruddiaeth yn cuddio y tu ôl i lenni sioe deledu boblogaidd i bobl ifanc yn eu harddegau.

Dim adnoddau addysgu ar gael.

Taith y Sgriblwyr 2023 Deunyddiau Addysgol

Maz Evans

Maz Evans

Bydd arnom ni oll angen rhywfaint o oleuni ar bethau ar brydiau – a dyna’n union beth mae Maz Evans yn dymuno’i gynnig yn y gweithdy rhyngweithiol hwn ynghylch Safbwynt. Gan gymryd detholiad o Who Let The Gods Out? byddwn yn ystyried y digwyddiadau o safbwyntiau’r holl gymeriadau gwahanol, cyn penderfynu yn nyddiadur pwy rydym yn dymuno ysgrifennu cofnod. Fel y cawn weld, gall yr un amgylchiadau ymddangos yn wahanol iawn yn dibynnu ar bwy sy’n eu hamgyffred. Wedi’r cwbl, gall ystyried digwyddiadau o safbwyntiau gwahanol ein gwneud ni’n well awduron – ac efallai’n well pobl hefyd. 

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Maz Evans

Matt Goodfellow

Matt Goodfellow

Ymunwch â’r bardd arobryn Matt Goodfellow i fwynhau digwyddiad difyr a rhagweithiol ble daw geiriau yn fyw.Dewch i brofi dull perfformio ffraeth a chyfranogwch mewn gweithdy ysgrifennu sy’n dangos pam mae Matt yn credu mai ‘gwaith ysgrifenedig rebeliaid’ yw barddoniaeth ac yn caniatáu i bob person ifanc ddefnyddio’u profiadau eu hunain i ysgrifennu cerddi ‘yn eu llais eu hunain, am eu bywyd hwy’. Mae llyfr barddoniaeth diweddaraf Matt, Let’s Chase Stars Together, yn llawn o gerddi am bopeth o ffrindiau, teulu a cheisio perthyn i dyfu i fyny,  bod yn falch ac yn hyderus a chanfod eich pobl. Mae’r casgliad hwn yn lle delfrydol i ymgolli, eich darganfod eich hun a bod yn gryfach maes o law.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Matt Goodfellow

Femi Fadugba

Femi Fadugba

Yn ystod gweithdy Femi, bydd myfyrwyr yn cydweithio i ysgrifennu stori fer o’r dechrau, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, gwyddor straeon ar syniadau hurtaf ein cyd-ddychymyg. Mae Femi yn ysgrifennu nofelau gwyddonias ar gyfer oedolion ifanc. Bydd ei nofel gyntaf, The Upper World, yn cael ei throi yn ffilm i’w darlledu ar Netflix, â Daniel Kaluuya yn chwarae’r brif ran. Yn y gorffennol, mae Femi wedi bod yn diwtor gwyddoniaeth, ymgynghorydd i reolwyr ac yn ariannwr ynni’r haul, a chafodd radd mewn Cyfrifiadura Cwantwm ym Mhrifysgolion Rhydychen a Pennsylvania. Byddwch yn barod i ehangu eich gorwelion gyda Femi yn y gweithdy hwn.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Femi Fadugba

Caroline O'Donoghue

Caroline O'Donoghue

Bydd gweithdy Caroline yn rhoi sylw i rym cardiau tarot fel adnoddau i adrodd straeon, a sut gall y dull hud hynafol hwn fod yn ddefnyddiol i greu straeon, cymeriadau a sefyllfaoedd. Bydd y gweithdy hefyd yn cynnwys cyflwyniad i adrodd y tarot, a bydd digonedd o gardiau ar gael i ddysgu oddi wrthynt. Mae Caroline O'Donoghue wedi ennill gwobr y New York Times am lyfrau sy’n gwerthu orau yn sgil trioleg 'Gifts', antur oruwchnaturiol Wyddelig sy’n rhoi sylw i griw o ffrindiau sy’n darganfod grymoedd arbennig trwy gyfrwng cardiau tarot. Mae Caroline hefyd yn bodledwraig, yn sgriptwraig ffilmiau ac yn ffrind gorau i gi bach.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Caroline O'Donoghue

Taith y Sgriblwyr 2022 Deunyddiau Addysgol

Steven Camden

Steven Camden

Mae Steven Camden, aka Polarbear, yn fardd, dramodydd a nofelydd, sydd wedi perfformio a chydweithio ar draws y byd. Bydd y sesiwn anffurfiol a rhyngweithiol hon yn dathlu’r straeon a'r cymeriadau tu mewn i ni gyd, wrth iddo rannu ei broses o greu byd y bydd y disgyblion yn ei boblogi â lleisiau, cerddi a mwy.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Steven Camden

Kiran Millwood Hargrave

Kiran Millwood Hargrave

Yn y digwyddiad hwyliog, rhyngweithiol a difyr hwn, byddwch yn dysgu am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i straeon Kiran a'i thaith anhygoel i fod yn awdur. Mae ei llyfrau ar gyfer plant ac oedolion ifanc yn cynnwys The Girl of Ink & Stars, The Island at the End of Everything, The Way Past Winter, Julia and the Shark, a The Deathless Girls. Bydd Kiran yn mynd â disgyblion ar antur ysgrifennu creadigol hefyd yn defnyddio chwedl, gyda thema amgylcheddol cryf, i greu ac archwilio bydoedd newydd.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Kiran Millwood Hargrave

Joseph Coelho

Joseph Coelho

Ymunwch â'r bardd perfformio a'r dramodydd wrth iddo gyflwyno The Girl Who Became a Tree. Mae’r stori hon yn cael ei hadrodd ar ffurf cerddi, ac mae'n cyflwyno amrywiaeth eang o ffurfiau barddonol, wedi'u saernïo'n fedrus gan Joseph, i ddisgrifio naratifau a digwyddiadau. Yn y sesiwn hon, bydd yn rhoi cipolwg ar sut mae barddoniaeth mewn sefyllfa unigryw i adrodd straeon, a bydd yn gweithio gyda disgyblion i greu eu cerddi eu hunain sy'n gallu dyrnu, cicio a sgrechian.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Joseph Coelho

Manjeet Mann

Manjeet Mann

Cafodd yr awdur a'r actor Manjeet ei magu mewn tŷ heb lyfrau. Cafodd ei rhoi ar y bwrdd 'darllenwyr araf' yn yr ysgol iau ac yn yr ysgol uwchradd, dywedwyd wrthi "i beidio â chodi ei gobeithion" ynghylch cael TGAU Saesneg. Yn y gweithdy rhyngweithiol hwn, bydd Manjeet yn defnyddio ei stori ei hun i helpu i ryddhau pobl ifanc o'u hofnau ynghylch ysgrifennu, ac i agor lle ar gyfer creadigrwydd, tra'n eu cefnogi i ddod o hyd i'w llais adrodd straeon unigryw.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Manjeet Mann

Taith y Sgriblwyr 2020 Deunyddiau Addysgol

Ali Sparkes

Ali Sparkes

Ni fyddai Ali Sparkes erioed wedi dychmygu y byddai’n awdur yn y pen draw. Pan oedd hi’n bump oed, roedd hi’n meddwl mai oren gyda thair coes oedd y lythyren ‘m’. Gallwch glywed yr hanes pan fyddwch yn cwrdd ag Ali – a chael gwybod am bopeth aeth o’i le ar ei thaith i fod yn awdur, gan ddechrau gyda’r stori drist am y darllenwr a’r awdur gwaethaf yn yr ysgol. Bydd hwn yn gyflwyniad rhyngweithiol dros ben… fyddwch chi byth yr un fath eto.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Ali Sparkes

Aneirin Karadog

Aneirin Karadog

Roedd y bardd arobryn, Aneirin Karadog, yn Fardd Plant Cymru rhwng 2013 a 2015 ac mae’n barddoni yn y Gymraeg yn bennaf. Mae’n siarad pum iaith a bu’n rapiwr yn gynt yn ei fywyd. Bydd Aneirin yn rhoi cyflwyniad dwyieithog i gelfyddyd dirgel kung-fu barddonol y gynghanedd, ac yn rhoi’r hyn sydd ei angen arnoch i fod yn feirdd o fri.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Aneirin Karadog

Brian Conaghan

Brian Conaghan

Mae Brian yn awdur o’r Alban sy’n ysgrifennu llyfrau cyfoes i bobl ifanc, gan gynnwys llyfrau sydd wedi ennill gwobrau, fel The BombsThat Brought Us Together, When Mr Dog Bites, The Weight of a Thousand Feathers a The M Word. Ar Daith y Sgriblwyr, bydd Brian yn herio’r disgyblion i greu darnau byr o ddialog trwy gyfres o symbyliadau gweledol a thestunau. Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi cyfle i ddisgyblion greu eu cymeriadau eu hunain a rhoi llais unigryw iddynt.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Brian Conaghan

Patrice Lawrence

Patrice Lawrence

Mae Patrice yn awdur llwyddiannus na feddyliodd erioed y byddai pobl fel hi’n gallu bod yn awdur. Roedd hi’n rhy wahanol mewn sawl ffordd. Yn y gweithdy rhyngweithiol hwn, bydd Patrice yn defnyddio ei hanes ei hun i helpu awduron ifanc i ddatguddio eu sgiliau adrodd straeon unigryw. Rhybudd: Mae’n bosibl y bydd dyddiadur ei harddegau yn rhan ohono.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Patrice Lawrence

Taith y Sgriblwyr 2019 Deunyddiau Addysgol

Jenny Valentine

Jenny Valentine – Ymchwiliad Safle Trosedd

Jenny Valentine yw awdur Finding Violet Park a Broken Soup. Ar gyfer Taith y Sgriblwyr 2019, bydd yn arwain gweithdy ysgrifennu creadigol ar sail Ymchwiliad Safle Trosedd.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o’r cynllun gwers Ymchwiliad Safle Trosedd a’r taflenni gwaith i fyfyrwyr

Emma Carroll

Emma Carroll – Secrets of a Sun King

Mae Emma Carroll yn athrawes Saesneg mewn ysgol uwchradd. Mae hefyd wedi gweithio fel newyddiadurwraig, casglwr afocados, a’r unigolyn sy’n gwneud tyllau mewn papur ffeilofacs. Cewch fwy o wybodaeth am ei llyfrau ar: www.faber.co.uk/tutors/emma-carroll.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o gynllun gwers Emma Carroll (Secrets of a Sun King)

Karl Nova

Karl Nova – Rhythm and Poetry

Mae Karl Nova yn berfformiwr Hip Hop, yn awdur ac yn fardd. Enillodd wobr CLiPPA 2018 ar gyfer Rhythm and Poetry, sef ei gasgliad cyhoeddedig cyntaf.

Ewch i wefan Karl: https://karlnovaworld.wordpress.com.

I gael mwy o wybodaeth ac adnoddau addysgu, ewch i: https://clpe.org.uk/poetryline/poets/nova-karl.

Nicky Singer

Nicky Singer – The Survival Game

Mae llyfr newydd Nicky, The Survival Game, yn ffilm deithio am ferch a bachgen yn ceisio cyrraedd man diogel mewn byd sydd wedi cael ei ddifrodi gan newid yn yr hinsawdd.

I ddarganfod mwy am waith Nicky, ewch i’w gwefan nickysinger.com.

Lawrlwythwch ddogfen PDF o Nodiadau Athrawon ar gyfer The Survival Game

Alex Wheatle

Alex Wheatle

Mae Alex Wheatle yn awdur sawl nofel, y mae rhai ohonynt wedi cael eu lleoli yn Brixton, lle cafodd ei fagu.

I gael mwy o wybodaeth, safbwynt beirniadol a llyfryddiaeth lawn, ewch i: https://literature.britishcouncil.org/writer/alex-wheatle.