Canllawiau ar Covid-19

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi nôl i'r Gelli, ac i'n gŵyl fyw gyntaf mewn dwy flynedd.

Mae iechyd a lles ein cynulleidfaoedd, artistiaid a’n staff yn rhywbeth rydym yn ei gymryd o ddifrif, ac fe fydd gennym nifer o fesurau ar waith i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau'r ŵyl yn ddiogel. 

Wrth gwrs, byddwn yn cadw at ganllawiau diweddaraf Covid-19 Llywodraeth Cymru bob amser (sy'n wahanol i ganllawiau Llywodraeth y DU), a byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa barhaus yn ofalus. Bydd y rhagofalon ychwanegol yn golygu y gallai gymryd ychydig yn hirach na’r arfer i fynd i mewn i safle'r ŵyl, felly ceisiwch gyrraedd o leiaf 20 munud cyn i'ch digwyddiad ddechrau. 

Mae'r canlynol yn esbonio sut rydym yn bwriadu cadw pawb yn ddiogel i fwynhau Penwythnos y Gaeaf.

A FYDD ANGEN I MI DDANGOS PRAWF FY MOD I WEDI CAEL FY MRECHU NEU BRAWF NEGATIF I FYND I MEWN I SAFLEOEDD YR ŴYL?

Bydd. I gael mynediad i safleoedd yr Ŵyl, byddwch yn gorfod dangos naill ai:

Prawf llif unffordd negatif sydd wedi’i gymryd o fewn 24 awr ar ôl i chi gyrraedd yr ŵyl, ar ffurf neges e-bost neu destun COVID-19 y GIG.

NEU

Ap y GIG – sy’n cynnwys Pàs Covid y GIG 

Gallwch lawrlwytho'r Ap ar gyfer eich dyfais ddigidol, neu mewn rhai achosion, gofyn am fersiwn papur. Gallwch gael Pàs COVID y GIG os:

  • Ydych chi wedi cael eich brechu yng Nghymru neu’n Lloegr
  • Ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn 

Os cawsoch eich brechu y tu allan i'r DU, mae angen i chi ddangos eich statws brechu o'r wlad lle cawsoch eich brechu.

Os ydych chi’n dod o Loegr – gallwch weld gwybodaeth am bàs Covid y GIG yma. 

Os ydych chi’n dod o Gymru – gallwch weld gwybodaeth am bàs Covid y GIG yma

Rydym yn argymell eich bod chi’n cofrestru ac yn defnyddio Ap Pàs Covid y GIG o leiaf bythefnos cyn yr Ŵyl.

Unwaith y byddwch wedi dangos y naill neu'r llall o'r uchod, byddwch yn cael band arddwrn Penwythnos y Gaeaf, i'ch galluogi i fynd a dod ar safleoedd yr ŵyl, ac i leihau ciwio.

A FYDD ANGEN I MI WISGO MASG?

Bydd.  Bydd gofyn i bawb ar safleoedd yr ŵyl (dros 12 oed) wisgo masg wyneb pan fyddant y tu mewn i'n safleoedd, ac eithrio wrth fwyta neu yfed, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.  Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer pob lleoliad amlbwrpas yng Nghymru ar hyn o bryd. 

YDY’R SAFLEOEDD YN GWEITHREDU I’W CAPASITI LLAWN?

Ydyn, bydd y ddau safle yn gweithredu'n llawn, ar ôl i Lywodraeth Cymru symud i Lefel Rhybudd 0 ym mis Awst 2021. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus. 

A ALLAF GAEL PRAWF COVID-19 YN YR ŴYL?

Gallwch. Bydd gennym nifer cyfyngedig o brofion llif unffordd ar gael ym mhrif safle'r ŵyl, ond byddai'n well cymryd prawf cyn cyrraedd os yn bosibl, neu gael eich Pàs Covid y GIG. 

PA RAGOFALON ERAILL YDYCH CHI'N EU CYMRYD? 

Bydd gorsafoedd diheintio dwylo wedi'u lleoli ar bob pwynt mynediad, felly cofiwch ddiheintio wrth gyrraedd a gadael. Byddwn yn glanhau'r safleoedd yn rheolaidd hefyd, gan gynnwys pob pwynt cyffwrdd.

Bydd holl staff yr ŵyl yn cael eu profi am Covid-19 cyn, ac yn ystod, yr ŵyl, a bydd yn ofynnol iddynt wisgo gorchudd wyneb.

BETH OS YDW I’N PROFI’N BOSITIF NEU’N DANGOS SYMPTOMAU COVID-19?

Os ydych chi'n dangos unrhyw un o symptomau Covid-19 ar ddiwrnod eich digwyddiad, peidiwch â mynychu'r ŵyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • peswch parhaus newydd
  • tymheredd uchel
  • colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl

Yn yr achos hwn, anfonwch e-bost at boxoffice@hayfestival.org gyda'ch rhif archeb, a byddwch yn derbyn ad-daliad.

BLE ALLA I DDOD O HYD I'R WYBODAETH DDIWEDDARAF?

Byddwn yn parhau i fonitro a diweddaru ein canllawiau Covid-19, a bydd unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud ar y dudalen hon ac ar y dudalen Cwestiynau Cyffredin. Byddwn yn cyhoeddi unrhyw newidiadau drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd. 

Cliciwch yma i weld canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Cliciwch yma i weld canllawiau diweddaraf Llywodraeth y DU.


Funded by UK Government
Powered by Levelling Up
Powys Council
Growing Mid Wales