Bydd Penwythnos Gaeaf Hay Festival yn rhedeg rhwng 24–28 Tachwedd 2021.
Bydd angen i chi archebu tocynnau p'un a ydych yn mynychu mewn person neu yn gwylio ar-lein.
Os hoffech fynychu mewn person, edrychwch ar y rhestrau o raglenni unigol, ac archebwch docynnau i fynychu mewn person. Mae tocynnau ar gyfer mynychu mewn person yn amrywio o £5 i £15. Ni chodir tâl cyffredinol am fynd ar safle'r Ŵyl. Bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n mynychu mewn person gadw at ganllawiau covid-19 presennol Llywodraeth Cymru ac at ofynion mynediad yr Ŵyl, sydd i'w gweld yma.
Os ydych chi'n bwriadu gwylio ar-lein, yr opsiwn gorau o ran gwerth yw archebu’r Tocyn Gŵyl Ar-lein am £25.00, a fydd yn eich galluogi i wylio'r holl ddigwyddiadau sydd wedi'u ffrydio, naill ai'n fyw neu ar replay drwy gydol yr ŵyl. Mae tocynnau ar gyfer digwyddiadau ar-lein unigol yn costio £5.00 yr un.
Nodwch fod y Tocyn Gŵyl Ar-lein ar gyfer gwylio digwyddiadau ar-lein yn unig.
Y ffordd orau o archebu tocynnau yw ar-lein. Os oes angen help arnoch, gallwch weld fideo byr o’r enw "How to book".
Ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01497 822 629. Byddwn yn gallu prosesu eich archeb yn fwy effeithlon os oes gennych rifau'r digwyddiadau rydych chi’n archebu ar eu cyfer.
Mae’r ffôn yn cael ei ateb rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a thrwy'r dydd tan yn hwyr yn ystod Penwythnos y Gaeaf. Os na fyddwch yn mynd drwodd ar unwaith, gadewch neges, a bydd aelod o staff y swyddfa docynnau yn eich ffonio'n ôl.
Gallwch archebu tocynnau mewn person yn Swyddfa Docynnau Gŵyl y Gelli. Yn ystod y cyfnod cyn yr ŵyl, mae'r Swyddfa Docynnau wedi'i lleoli yn The Drill Hall, 25 Lion Street, y Gelli Gandryll, HR3 5AD. Oriau agor arferol y Swyddfa Docynnau yw 9am–5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Yn ystod Penwythnos y Gaeaf, bydd y Swyddfa Docynnau yn symud i'r prif leoliad, a bydd ar agor o ddechrau digwyddiad cyntaf pob diwrnod, tan ddechrau'r digwyddiad diwethaf.
Oherwydd protocol Covid ac ystyriaethau amgylcheddol, mae'r holl docynnau ar gyfer yr Ŵyl bellach yn rhai electronig neu'n 'e-docynnau'. Mae hyn yn golygu y bydd eich tocynnau'n cael eu hanfon yn syth i'ch cyfeiriad e-bost. Pan fyddwch yn derbyn eich tocynnau, gallwch ddewis eu lawrlwytho i'ch dyfais symudol eich hun, neu eu hargraffu. Bydd tocynnau'n cynnwys cod bar unigryw, a dim ond unwaith y gellir eu hargraffu.
Pan fyddwch yn cyrraedd y lleoliad, bydd stiward yn sganio eich tocyn. Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost, ffoniwch y Swyddfa Docynnau, a byddwn yn trefnu i'ch tocynnau gael eu hargraffu a'u postio yn y ffordd draddodiadol.
Rydym yn derbyn cardiau credyd a debyd, sy’n cynnwys Visa, Mastercard ac Amex.
Dim ond mewn person y byddwn yn derbyn taliadau arian parod - peidiwch ag anfon arian parod atom drwy'r post.
Rhif ffôn y swyddfa docynnau - 01497 822 629
E-bost - boxoffice@hayfestival.org
Gwiriwch yn y swyddfa docynnau yn ystod Penwythnos y Gaeaf am unrhyw newidiadau i'r lleoliad.
Mae holl fanylion y rhaglen yn gywir ar adeg eu cyhoeddi. Rydym yn cadw'r hawl i newid rhaglenni ac artistiaid os yw'r amgylchiadau'n mynnu. Os byddwn yn gorfod canslo digwyddiad, bydd tocynnau'n cael eu had-dalu. Ni ellir derbyn tocynnau i'w had-dalu na'u hailwerthu. Mae'r rheolwyr yn cadw'r hawl i wrthod mynediad.