Awduron Wrth Eu Gwaith

Rhaglen datblygu creadigol ar gyfer talent newydd o Gymru ydy Awduron wrth eu Gwaith 2024, sydd yn cael ei chynnal yng Ngŵyl y Gelli, y Gelli Gandryll, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, ac sydd yn cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Writers at Work 2024

Mae Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli yn cynnig deg diwrnod o gyfleoedd datblygu creadigol wedi'u rhaglennu'n llawn, sydd yn caniatáu i'r awduron dethol i gymryd rhan yn nigwyddiadau'r Ŵyl, a mynychu gweithdai gyda chyhoeddwyr, asiantiaid ac, yn hollbwysig, gydag artistiaid rhyngwladol sefydledig.

Mae'r cyfranogwyr hyd yma wedi ennill nifer o wobrau ac wedi cyrraedd nifer o restrau byrion, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, Llyfr y Flwyddyn Cymru, Gwobr New Welsh Writing, Gwobr Ysgrifennu Newydd Wasafiri, Gwobr Cyfryngau Cymru, Gwobr Rising Stars Cymru, a Gwobr Cymru Greadigol.

Mae’r rhaglen ar agor i awduron sydd yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg ar draws genres gwahanol – ffuglen, ffeithiol, ffeithiol greadigol a barddoniaeth – ac y 10 ymgeisydd llwyddiannus eleni yw:

Isabel Adonis

Ganed Isabel Adonis yn Llundain i rieni o Orllewin India a Chymru. Fe’i magwyd a’i haddysgwyd yn Llundain a gogledd Cymru. Mae hi'n awdur ac yn artist sy’n byw yng ngogledd Cymru.

Mae ei gwaith celf wedi cael ei arddangos ar-lein yn The Weavers Factory, Uppermill, Manceinion ac yn y Mostyn yn Llandudno.

Enillodd gategori Ffeithiol Greadigol Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2023 am ei chofiant, And...a Memoir of My Mother.

Zoë Brigley

Mae Zoë Brigley yn awdur tri llyfr barddoniaeth a gyhoeddwyd gan Bloodaxe: Hand & Skull (2019), Conquest (2012), a The Secret (2007). Mae’r tri yn Argymhellion Cymdeithas Lyfrau Barddoniaeth y DU a gyda’i gilydd maent wedi ennill Gwobr Eric Gregory ar gyfer y beirdd Prydeinig gorau o dan 30 oed, wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas ar gyfer yr awduron rhyngwladol gorau o dan 40 oed, a chymeradwyaeth Forward Prize. Mae ei hysgrifennu wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau fel Australian Book Review, Chicago Review, Copper Nickel, Gulf Coast, Poetry Ireland Review, Orion, Poetry Review, PN Review, Women’s Studies Quarterly, Copper Nickel, a Waxwing. Daeth yn olygydd i brif gyfnodolyn barddoniaeth Cymru, Poetry Wales, yn 2021, ac mae hi bellach yn Olygydd Barddoniaeth i Seren Books ar y cyd â’r Prifardd Rhian Edwards. Gyda Kristian Evans, bu’n cyd-olygu 100 Poems to Save the Earth (Seren 2021), a gyda’i gilydd sefydlont MODRON: Writing on Nature and the Ecological Crisis. Yn ystod y tymor, mae hi’n dysgu yn yr Unol Daleithiau ym Mhrifysgol Talaith Ohio. Ar raglen Awduron wrth eu Gwaith, bydd Zoë yn gweithio ar ei ffuglen.

Rachel Dawson

Daw Rachel Dawson o Abertawe ac mae hi'n byw yng Nghaerdydd. Yn 2020, enillodd Rachel Fwrsariaeth Awdur Newydd gan Llenyddiaeth Cymru, a chafodd ei mentora gan Rebecca F. John. Cyhoeddwyd Neon Roses, ei nofel gyntaf, gan Wasg John Murray yn 2023. Mae’n stori garu lesbiaidd wedi’i gosod yn erbyn cefndir y 1980au, cyfnod cythryblus yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol. Mae hi wedi’i hysbrydoli gan wytnwch ein cyndeidiau cwiar, a llawenydd caru merched eraill. Cafodd The Ghostly Cruiser, stori fer am gefn gwlad Cymru, treftadaeth cwiar a'r cod hanky, sylw yn Unreal Sex, blodeugerdd a gyhoeddwyd gan y wasg indie Cipher. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ail nofel sy’n archwilio bod yn rhiant cwiar a chariad at hanes.

Taylor Edmonds

Bardd, awdur a hwylusydd creadigol o'r Barri yw Taylor Edmonds. Mae ei gwaith yn archwilio themâu o fenywiaeth, hunaniaeth, cysylltiad, natur a grymuso. Mae Back Teeth, pamffled barddoniaeth gyntaf Taylor, allan nawr gyda Broken Sleep Books. Hi oedd Bardd Preswyl 2021-22 ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Mae hi wedi derbyn Gwobr Rising Stars gan Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press am ei gwaith ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc. Ar hyn o bryd mae Taylor yn gweithio ar ei nofel ffuglen gyntaf i bobl ifanc.

Jessica George

Ganed JL George (hi/nhw) yng Nghaerdydd a'i magu yn Nhorfaen. Mae ei ffuglen wedi ennill Gwobr Ysgrifennu Newydd o Gymru, Gwobr International Rubery Book, ac wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies. Cyhoeddir ei nofel gyntaf, The Word, gan New Welsh Rarebyte. Mewn bywydau blaenorol, ysgrifennodd PhD ar y stori ryfedd glasurol a chwaraeodd mewn band glam roc.

Dylan Huw

Sgwennwr a churadur yw Dylan Huw sy'n byw yng Nghaernarfon. Yn gyrru ei waith cydweithredol ac ysgrifenedig aml-ffurf mae diddordebau hir-dymor mewn cyfieithu a chreu geirfaoedd, defnyddiau arbrofol o gyfryngau dogfen, a hanesion hoyw a cwiar. Mae'n cyfrannu'n rheolaidd at e-flux Criticism a Frieze, ac mae wedi bod yn Gymrawd Cymru'r Dyfodol ac yn olygydd gyda Artes Mundi 10.

Megan Hunter

Mae Megan Angharad Hunter yn awdur a sgriptiwr teledu o Benygroes, Dyffryn Nantlle ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ers derbyn gradd mewn Cymraeg ac Athroniaeth yn 2022, mae hi wedi bod yn gweithio fel awdur a golygydd llyfrau plant. Cyhoeddwyd tu ôl i’r awyr, ei nofel gyntaf i bobl ifanc yn 2020 cyn ennill Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn, ac fe gyhoeddwyd ei hail nofel, Cat fel rhan o gyfres arobryn Y Pump. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd 2020/21 ac yn fwy diweddar, bu’n cyd-gydlynu cwrs ysgrifennu creadigol ar gyfer awduron a/Anabl efo’r bardd Bethany Handley. Mae hi bellach yn cyd-olygu blodeugerdd o waith creadigol gan Gymry a/Anabl a fydd yn cael ei chyhoeddi yn 2025 gan Lucent Dreaming. Yn 2023 cyfrannodd tuag at ŵyl lenyddol Mathrubhumi yn India cyn trafod hygyrchedd yn y diwydiant cyhoeddi mewn panel yn Ffair Lyfrau Llundain. Roedd yn rhan o garfan Cynrychioli Cymru y llynedd, ac yn sgil hynny cyhoeddwyd Astronot yn yr Atig, ei nofel gyntaf i blant oedran cynradd sydd ar restr fer Gwobr Tir na n-Og 2024. Mae hi hefyd wedi cael ei dewis i fod ar raglen Ulysses' Shelter eleni; mi fydd yn ymweld â Ljubljana, Slovenia. Mae hi'n sgwennu'n bennaf ar gyfer plant a phobl ifanc a'r themâu amlycaf yn ei gwaith ydi iechyd meddwl, a/Anabledd a rhywioldeb.

Joshua Jones

Mae Joshua Jones yn awdur ac artist cwiar, niwroamrywiol o dde Cymru. Cyd-sefydlodd Dyddiau Du yng Nghaerdydd, llyfrgell a gofod celf a arweinir gan ac ar gyfer cymunedau LGBTQ+ ac Anabl. Ef oedd golygydd creadigol blodeugerdd Room/Ystafell/Phòng (Parthian Books, 2023), yn dathlu lleisiau cwiar o Gymru a Fietnam. Mae ei gelfyddyd weledol yn ystyried ffisegoldeb testun a barddoniaeth trwy osodiadau - yn aml yn ymgorffori collage, gwrthrychau a ddarganfwyd, sain a thestun. Mae hefyd yn rhyddhau barddoniaeth a cherddoriaeth yn achlysurol dan yr enw Human Head, ac yn cydweithio â Howl Hubbard yn Howl&Jones. Local Fires (Parthian Books, 2023) yw ei lyfr cyntaf, a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Dylan Thomas yn ddiweddar.

Katie Munnik

Awdur o Ganada sy'n byw yng Nghymru yw Katie Munnik. Roedd ei nofel gyntaf The Heart Beats in Secret yn un o werthwyr gorau USA Today, a’i nofel ddiweddaraf, The Aerialists, oedd Llyfr Cymreig y Mis gan Waterstones ym mis Ebrill 2023. Mae ei rhyddiaith a’i barddoniaeth wedi’u cyhoeddi yn y DU, UDA a Chanada.

Hammad Rind

Mae Hammad Rind yn awdur a chyfieithydd amlieithog Cymraeg-Pacistanaidd. Roedd ei nofel gyntaf Four Dervishes (Seren Books, 2021) ar restr hir Gwobr Cymdeithas Ffuglen Wyddoniaeth Prydain. Yn 2022, cyfieithodd Knotted Grief gan y bardd Indiaidd Naveen Kishore i Wrdw (Zuka Books). Roedd yn rhan o garfan 2023 y rhaglen Cynrychioli Cymru gan Llenyddiaeth Cymru. Mae ei straeon a’i erthyglau wedi ymddangos mewn amryw o gyhoeddiadau, gan gynnwys The Aleph Review, The Madras Courier, Y Stamp, Poetry Wales, a James Joyce Broadsheet. Mae gan Hammad BA mewn llenyddiaeth Saesneg a Phersia o Brifysgol Punjab, Lahore, ac MA mewn gwneud ffilmiau o Brifysgol Kingston, Llundain. Yn frwd dros iaith, mae'n dysgu Perseg ac Wrdw, ac mae wedi arwain gweithdai ar ysgrifennu creadigol a llenyddiaeth y Dwyrain. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ei ail nofel.

 
Arts Council of Wales
Literature Wales