Gweithdai Digidol y Sgriblwyr Cymraeg

Gweithdai Cymraeg digidol rhad ac am ddim ar gyfer disgyblion pontio ym Mlynyddoedd 6 a 7, a gyflwynir i chi yn rhan o Daith y Sgriblwyr Gŵyl y Gelli ac sydd ar gael i’w gwylio eto yn rhydd.

Ymunwch â’r beirdd a’r awduron Gruffudd Owen, Rufus Mufasa, Mererid HopwoodAneirin Karadog ac Anni Llŷn ar gyfer y digwyddiadau digidol creadigol a rhyngweithiol, rhad ac am ddim hyn sy’n canolbwyntio ar leoliad, tirwedd a hunaniaeth i ddathlu’r Gymraeg. Fe’u cyflwynir gan Ameer Davies-Rana.

#1Miliwn

#ScribblersTour

@hayfestival

Mererid Hopwood

Mererid Hopwood

Yn ystod y gweithdy hwn bydd Mererid Hopwood yn ein tywys i Fae Ceredigion i chwilio am y pethau coll. Cawn ddysgu am grefft gwrando ac edrych, a chrefft craffu ar sain geiriau i greu lluniau mewn llinellau. Bydd Mererid yn ymweld â’r Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a fforest betraidd yn Borth i gyflwyno’r gweithdy cyffrous hwn i chi.

Athro ieithoedd yw Mererid ac yn ei hamser hamdden mae wrth ei bodd yn ysgrifennu. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn am ei chyfrol o gerddi, a gwobr Tir na n-Og am nofel i blant.

Mae digwyddiadau ar gael gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg.

Cliciwch yma ar gyfer cynllun gwers

Gwyliwch y digwyddiad
Anni Llŷn

Anni Llŷn

Bydd y bardd a’r awdur Anni Llŷn yn mynd a chi “ar goll”. Bydd hi’n holi os yw mynd ar goll yn beth da neu’n beth drwg pan rydan ni’n bod yn greadigol? Bydd hi hefyd yn dangos sut y gallwn ni ddefnyddio barddoniaeth i’n helpu pan rydan ni’n teimlo “ar goll”. Dewch ar goll i ganol y geiriau gydag Anni!

Mae Anni yn wyneb cyfarwydd ar y teledu fel cyflwynydd ac actores. Bu'n Fardd Plant Cymru am ddwy flynedd ac mae wedi cynnal gweithdai mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Daw gweithdy Anni i chi o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Bangor a’r dirwedd o amgylch Bangor.

Mae digwyddiadau ar gael gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg.

Cliciwch yma ar gyfer cynllun gwers

Gwyliwch y digwyddiad
Aneirin Karadog

Aneirin Karadog

Y prifardd Aneirin Karadog sy’n ein tywys drwy dref hynod y Gelli Gandryll, gan gyflwyno elfennau o’r gynghanedd, crefft farddol hynafol ac unigryw i Gymru, wrth inni fynd yn ein blaenau. O’r siopau llyfrau i gestyll hynafol, o Ŵyl fyd-enwog y Gelli i’r dirwedd odidog, mae cryn dipyn i’w ddarganfod yn y dref sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Roedd y bardd arobryn, Aneirin Karadog, yn Fardd Plant Cymru rhwng 2013 a 2015 ac mae’n barddoni yn y Gymraeg yn bennaf. Mae’n siarad pum iaith a bu’n rapiwr yn gynt yn ei fywyd.

Mae digwyddiadau ar gael gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg.

Cliciwch yma ar gyfer cynllun gwers

Gwyliwch y digwyddiad
Gruffudd Owen

Gruffudd Owen

Yn y gweithdy hwn bydd y Prifardd Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru 2019-2021 yn eich arwain drwy ymarferion hwyliog a chyffrous i ddad-gloi ei creadigrwydd! Bydd Gruff yn dangos i chi sut i greu delweddau gwereiddiol gan briodi geiriau sydd byth yn cyfarfod fel arfer. Bydd Gruff yn tanio eich dychymyg ac yn dysgu chi i ddefnyddio'r holl offer sydd ganddoch yn eich bocs tŵls creadigol. Erbyn diwedd y gweithdy bydd gennych gerdd newydd sbon gwych a gwreiddiol i’w rhannu gyda’r byd.

Gwyliwch y digwyddiad

Rufus Mufasa

Rufus Mufasa

Bydd perfformiad Rufus yn canolbwyntio ar weithio'n greadigol gyda'r Gymraeg. O farddoniaeth 'beat box' i hip hop gwyllt wedi'i ddylanwadu gan jazz, gwerin, y blws a reggae, dyma ffordd o ymwneud â'r Gymraeg sy'n ein cysylltu ni â Chymru a'r byd!

Gwyliwch y digwyddiad

Aberystwyth University Logo

GWEITHDY PRIFYSGOL ABERYSTWYTH GYDA MERERID HOPWOOD, EURIG SALISBURY A HYWEL GRIFFITHS

Gweithdy Cerddi’r Tywydd

Pam fod yr eira’n bwrw? A phwy yw’r hen wragedd a’u ffyn? Pam fod yr haul yn felyn mewn llun, ond mewn awyr ‘go iawn’ yn wyn?

A beth yn y byd ydy ‘nigen’? Ac o ble daw’r fellten a’i thân? A pham bod y lleuad bob amser yn dlos, a’r glaw weithiau’n fras, weithiau’n fân …?

Bydd y gweithdy hwn yn gyfle i ni graffu o’r newydd ar y tywydd drwy greu cerddi ar y cyd.

Scribblers Gweithdy Cerddi’r Tywydd

Gwyliwch y digwyddiad

DIOLCH

Diolch i Lywodraeth Cymru am ariannu’r prosiect hwn ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am ganiatáu i ni ddefnyddio Llyfr Du Caerfyrddin.

Diolch hefyd i Brifysgol Bangor am ganiatáu i ni ffilmio yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac i Brifysgol Aberystwyth am ein galluogi i ffilmio yn yr Hen Goleg wrth iddynt glirio’r adeilad yn barod i’w drawsnewid yn ganolfan dysgu, diwylliant a menter erbyn 2023, sef prosiect cyffrous sydd hefyd yn cael ei ddatblygu gyda Gŵyl y Gelli fel partner.

Ac yn olaf, diolch i Ymddiriedolaeth Castell y Gelli a Siop Lyfrau Booths am ganiatáu i ni ffilmio ar leoliad.

Scribblers Cymraeg partners