Rhaglen Gŵyl y Gelli i Ysgolion

Hay Festival Programme for Schools

DYDD IAU 21 MAI A DYDD GWENER 22 MAI 2026

Mae’n bleser gennym gyflwyno’r Rhaglen Ysgolion digwyddiadau wyneb yn wyneb i ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2 yn cael eu rhedeg ar ddydd Iau 21 Mai ac i ddisgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 ar ddydd Gwener 22 Mai.

Mwynhewch ddau ddiwrnod o hwyl ac ysbrydoliaeth gydag awduron cyffrous a pherfformiadau sy’n ysgogi’r meddwl ar gyfer pobl ifanc.

Bydd digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fyw ar y diwrnod, ac maen nhw’n rhad ac am ddim i’w gwylio eto ar Hay Festival Anytime (pennawd yn Saesneg). Gallwch brynu llyfrau ar y diwrnod o Siop Lyfrau Gwyl y Gelli.

Mae pob digwyddiad tua 45 munud o hyd.

Rydych chi’n gwylio digwyddiadau’r Rhaglen Ysgolion ar hyn o bryd. Gallwch weld rhaglen lawn Gwyl y Gelli yma.

Mae Gwyl y Gelli yn falch i gefnogi Blwyddyn Darllen Genedlaethol 2026

THURSDAY 21 MAY & FRIDAY 22 MAY 2026

We’re thrilled to bring you our Programme for Schools live events for pupils in Key Stage 2 on Thursday 21 May and Key Stages 3 & 4 on Friday 22 May.

Enjoy two days of fun and inspiration with exciting writers and thought-provoking performances for young people.

Events will be livestreamed on the day and are free to watch again later on Hay Festival Anytime (captioned in English). You can buy books on the day from the Hay Festival Bookshop.

All events are approximately 45 minutes in duration.

You’re currently viewing Programme for Schools events. View the full Hay Festival programme here.

Hay Festival is proud to support the National Year of Reading 2026

Event S11

Matt Goodfellow

Matt Goodfellow

Six Weeks

KS3/4 | CA3/4
Global Stage
Read more
Ride out grief and explore family and freedom with rising star Matt Goodfellow, author of The Final Year. Matt is a winner of the CLiPPA Award, a former teacher turned poet and novelist, and Six Weeks is his hotly anticipated new book. Meet Alfie Piper, embarking on a summer he’ll never forget. Alfie has six weeks of holiday – and nothing left to lose. Since his mum died, Alfie’s world has unravelled. The silence between him and his stepdad roars louder than ever. So he does the only thing that makes sense: grabs his bike, and rides. In these long summer days, can Alfie rebuild what was broken?

Dewch i reidio drwy’r profiad o alar ac archwilio’r themâu o deulu a rhyddid gyda Matt Goodfellow, awdur The Final Year, sydd â dyfodol disglair. Mae Matt yn enillydd Gwobr CLiPPA, yn gyn-athro sydd bellach yn fardd ac yn nofelydd, a Six Weeks yw ei lyfr newydd hirddisgwyliedig. Dewch i gyfarfod Alfie Piper, sy’n dechrau gwyliau’r haf ar daith na fydd o fyth yn anghofio. Mae gan Alfie chwe wythnos o wyliau, a dim ar ôl i'w golli. Ers i’w fam farw, mae ei fyd wedi chwalu. Mae’r distawrwydd rhyngddo ef a’i lystad yn fwy amlwg nag erioed. Felly, mae’n gwneud yr unig beth sy’n gwneud synnwyr: mae’n gafael yn ei feic, ac yn reidio. Yn ystod y dyddiau hir hyn o haf, ydy Alfie yn gallu ailadeiladu beth oedd wedi torri?
Booking opens at 9am on Wednesday 25 February
Please log in to continue

Event S12

Yassmin Abdel-Magied

Yassmin Abdel-Magied

Silverbrook: Yumna and the Golden Horse

KS3/4 | CA3/4
Discovery Stage
Read more

In a quiet town, magic awakens… Thirteen-year-old Yumna lives in a sleepy town where nothing ever happens. But when she discovers something unbelievable, suddenly it seems that everyone’s changing. When a friend vanishes, Yumna is the only one asking the right questions. As secrets unravel and danger creeps closer, it’s up to Yumna to uncover the truth. In a town full of secrets and powers, can one ordinary girl become a hero?

Yassmin Abdel-Magied has published five books including Stand Up and Speak Out Against Racism. Her TED Talk on bias has received over 2.7m views.

Mewn tref dawel, mae hud yn deffro… Mae Yumna, sy’n dair ar ddeg, yn byw mewn tref hunllefus o dawel lle does dim byd byth yn digwydd. Ond pan fydd hi’n darganfod rhywbeth anghredadwy, yn sydyn, mae’n ymddangos fel bod pawb yn newid. Pan mae ffrind yn diflannu, Yumna yw’r unig un sy’n gofyn y cwestiynau cywir. Wrth i gyfrinachau ddechrau cael eu datgelu a pherygl ddod yn agosach, mae fyny i Yumna i ddarganfod y gwir. Mewn tref sy’n llawn cyfrinachau a phwerau, ydy un ferch gyffredin yn gallu troi’n arwres?

Mae Yassmin Abdel‑Magied wedi cyhoeddi pum llyfr gan gynnwys Stand Up and Speak Out Against Racism. Mae ei sgwrs TED Talk ar ragfarn wedi derbyn dros 2.7 miliwn o wylwyr.

Booking opens at 9am on Wednesday 25 February
Please log in to continue

Event S13

Patience Agbabi

Patience Agbabi

Wonderland

KS3/4 | CA3/4
Meadow Stage
Read more
Learn about finding your tribe and finding yourself in this stunning young-adult verse novel from award-winning poet, academic and children’s author Patience Agbabi. It’s 1980: sixteen-year-old Tamilola has moved from London to Colwyn Bay; everything’s different, everyone belongs except her. Then she discovers an amazing club at the end of the pier scene with its athletic dancers and rare records. But conflict comes with a rival nightclub… Patience was born in London to Nigerian parents. She is Associate Creative Writing Lecturer at the University of Wales, Cardiff, and has been writing poetry for many years. Her first children’s novel The Infinite was Wales Book of the Year 2021.

Dewch i ddysgu am ddod o hyd i grŵp neu gymuned o bobl rydych chi’n teimlo’n gartrefol gyda nhw, ac am ddod o hyd i chi’ch hun yn y nofel farddonol hyfryd hon i oedolion ifanc gan y bardd, yr academydd a’r awdures Patience Agbabi, sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae’n 1980: mae Tamilola, sy’n un ar bymtheg, wedi symud o Lundain i Fae Colwyn; mae popeth yn wahanol, ac mae pawb yn perthyn, heblaw amdani hi. Yna, mae hi’n darganfod clwb anhygoel ar ben y pier, yn llawn dawnswyr athletaidd a recordiau prin. Ond mae gwrthdaro gyda chlwb nos arall… Ganwyd Patience yn Llundain i rieni o Nigeria. Mae hi’n Ddarlithydd Creadigol yng Nghaerdydd, ac mae hi wedi bod yn ysgrifennu barddoniaeth am nifer o flynyddoedd. Enillodd ei nofel gyntaf i blant The Infinite Wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2021.
Booking opens at 9am on Wednesday 25 February
Please log in to continue

Event S14

Sarah Crossan

Sarah Crossan

Gone for Good

KS3/4 | CA3/4
Global Stage
Read more

Join award-winning author Sarah Crossan as she introduces her YA thriller in verse, Gone for Good, and explores the question: What does it mean to be a ‘bad’ person? Discover how verse can make storytelling addictive and get Sarah’s best tips for reconnecting with reading as a teenager.

Gone for Good follows sixteen-year-old Connie, who is kidnapped in the middle of the night and taken to Silver Lake, a so-called ‘behaviour-modification programme’. But Silver Lake isn’t what it seems. It looks like a school but runs like a prison. Rules are absolute, and secrets are everywhere.

Dewch i ymuno â’r awdures Sarah Crossan, sydd wedi ennill sawl gwobr, wrth iddi gyflwyno ei nofel ddirgelwch newydd i Oedolion Ifanc, Gone for Good ar ffurf barddoniaeth, sy’n archwilio’r cwestiwn: Beth mae bod yn berson ‘drwg’ yn golygu? Dewch i ddarganfod sut y gall adrodd stori ar ffurf barddoniaeth fod mor bleserus fel eich bod chi eisiau clywed mwy, a gwrandewch ar awgrymiadau gorau Sarah ar sut i ddechrau darllen unwaith eto fel person ifanc.

Mae Gone for Good yn dilyn Connie, sy’n un ar bymtheg oed, ac sy’n cael ei herwgipio yng nghanol nos a’i hanfon i Silver Lake – rhaglen ‘addasu ymddygiad’ honedig. Ond dydy Silver Lake ddim fel beth mae’n edrych. Mae’n edrych fel ysgol ond mae’n cael ei redeg fel carchar. Mae’r rheolau’n cael eu gorfodi’n llwyr, ac mae cyfrinachau ym mhobman.

Booking opens at 9am on Wednesday 25 February
Please log in to continue

Event S15

Manjeet Mann

Manjeet Mann

Roar

KS3/4 | CA3/4
Discovery Stage
Read more

In this empowering, high-energy spoken word event performer Manjeet Mann – multi-award-winning author of Run Rebel and The Crossing – will give dynamic readings from her sensational YA verse novel Roar. She’ll share the experiences and inspirations behind her writing journey, and, through a combination of performance and activities, help you reflect on what gives you courage and why your voice matters. Discover your own ROAR!

Run Rebel was shortlisted for the 2021 Carnegie Medal and won the CILIP Carnegie Shadowers’ Choice Award, the UKLA Award and the Diverse Book Award, while The Crossing won the 2022 Costa Children’s Book Award.

Yn y digwyddiad grymus, llawn egni hwn, bydd y perfformiwr ac awdures Run Rebel a The Crossing, Manjeet Mann, sydd wedi ennill sawl gwobr – yn darllen ei gwaith ar lafar, ac yn rhoi darlleniadau deinamig o’i nofel farddonol gyffrous i Oedolion Ifanc, Roar. Bydd yn rhannu’r profiadau a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’w thaith ysgrifennu a, thrwy berfformiad a gweithgareddau, yn eich helpu i fyfyrio ar beth sy’n gwneud i chi deimlo’n ddewr, a pham bod eich llais chi yn bwysig. Dewch i ddarganfod eich ROAR eich hun!

Cyrhaeddodd Run Rebel y rhestr fer ar gyfer Medal Carnegie 2021, ac enillodd Wobr Dewis y Cysgodwyr Carnegie, CILIP, Gwobr UKLA a’r Diverse Book Award. Enillodd The Crossing Wobr Plant Costa 2022.

Booking opens at 9am on Wednesday 25 February
Please log in to continue

Event S16

Melanie Owen

Melanie Owen

KS3/4 | CA3/4
Meadow Stage
Read more

Join comedian, script writer, author and presenter Melanie Owen for a lively bilingual event exploring how mistakes can be the perfect starting point for the best stories. You’ll work with Melanie to create short comedy sketches.

Melanie’s writing credits include Netflix, Channel 4, BBC One and BBC Radio 4. In 2024, Mel published her first book Oedolyn (ish!), which was shortlisted for Wales Book of the Year and became one of the most-bought Welsh language books of 2024.

Dewch i ymuno â’r comedïwr, yr ysgrifennydd sgriptiau, yr awdur a’r cyflwynydd Melanie Owen, i gymryd rhan mewn digwyddiad dwyieithog bywiog, sy’n ymchwilio sut mae camgymeriadau yn gallu bod y mannau cychwyn perffaith i’r straeon gorau. Byddwch chi’n gweithio gyda Melanie i greu sgetsys comedi byrion.

Mae ei chredydau ysgrifennu yn cynnwys Netflix, Channel 4, BBC One a BBC Radio 4. Ym 2024, cyhoeddodd Melanie ei llyfr cyntaf, Oedolyn (ish!). Cyrhaeddodd Oedolyn (ish!) restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru, a daeth yn un o’r llyfrau Cymraeg mwyaf poblogaidd yn 2024.

Booking opens at 9am on Wednesday 25 February
Please log in to continue

Event S17

Nathanael Lessore

Nathanael Lessore

Like a Brother

KS3/4 | CA3/4
Spring Stage
Read more

Multi-award-winning comedy author Nathanael Lessore (King of Nothing) leads a fun, interactive masterclass packed with insider tricks to make your stories shine. Learn the formula behind creativity and explore narrative structure. You’ll leave confident, inspired and ready to turn everyday moments into bold, brilliant creative pieces that truly stand out.

Like a Brother is Nathanael’s bold new teen comedy, full of chaos, heart and unforgettable one-liners. It’s a big-hearted story about two boys from different worlds figuring out what it means to grow up – and grow together. Nathanael’s books have won the Branford Boase Award and the Waterstones Children’s Book Prize for Older Readers.

Mae’r awdur comedi Nathanael Lessore (King of Nothing), sydd wedi ennill sawl gwobr, yn arwain gweithdy meistr difyr, rhyngweithiol, sydd yn llawn triciau mewnol i wneud i’ch straeon ddisgleirio. Dewch i ddysgu sut i feistroli creadigrwydd ac archwilio strwythur naratif. Byddwch yn gadael yn hyderus, wedi’ch ysbrydoli ac yn barod i droi momentau bob dydd yn ddarnau creadigol bold, disglair, sydd yn sefyll allan go iawn.

Mae Like a Brother yn gomedi hyderus newydd Nathanael i blant yn eu harddegau, sy’n llawn anhrefn, calon a jôcs byrion. Mae’n stori sydd â natur garedig, am ddau fachgen o fyd gwahanol, sy’n darganfod beth mae’n golygu i dyfu fyny – a thyfu gyda’i gilydd. Mae llyfrau Nathanael wedi ennill Gwobr Branford Boase a Gwobr Llyfr Plant Waterstones ar gyfer Darllenwyr Hŷn.

Booking opens at 9am on Wednesday 25 February
Please log in to continue

Event S18

Bernardine Evaristo

Bernardine Evaristo

Manifesto: On Never Giving Up

KS3/4 | CA3/4
Global Stage
Read more
Bernardine Evaristo’s novel Girl, Woman, Other made her the first Black woman to win the Booker Prize in 2019, and she was awarded the Women’s Prize Outstanding Contribution Award in 2025. Manifesto is her intimate and inspirational, no-holds-barred account of her rise from activism on the margins of British literature to winning the Prize, refusing to let any barriers stand in her way. She charts her creative rebellion against the mainstream and her lifelong commitment to the imaginative exploration of ‘untold’ stories. Drawing deeply on her own experiences, she explores how to stay true to yourself and your vision; how to be unstoppable – in your craft, your work, your life.

Yn sgil ysgrifennu ei nofel Girl, Woman, Other, Bernardine Evaristo oedd y fenyw Ddu gyntaf i ennill Gwobr Booker yn 2019, a dyfarnwyd Gwobr Cyfraniad Rhagorol Gwobr y Menywod iddi yn 2025. Mae Manifesto yn gyfrif personol, ysbrydoledig ac onest o’r ffordd yr aeth o fod yn awdures nad oedd yn adnabyddus iawn ym maes llenyddiaeth Brydeinig, ac a oedd yn trafod pynciau gwleidyddol, i ennill y Wobr, gan wrthod gadael i unrhyw rwystrau ei hatal. Mae hi’n trafod ei brwydr greadigol yn erbyn y brif ffrwd, a’i hymrwymiad oes i archwilio straeon ‘heb eu hadrodd’. Mae hi’n defnyddio llawer o’i phrofiadau ei hun, ac yn ymchwilio sut i fod yn driw i chi’ch hun a’ch gweledigaeth; sut i beidio â gadael i unrhyw heriau neu rwystrau eich trechu – yn eich crefft, eich gwaith, eich bywyd.
Booking opens at 9am on Wednesday 25 February
Please log in to continue

Event S19

Curtis Jobling

Curtis Jobling

Wyrdwood

KS3/4 | CA3/4
Discovery Stage
Read more

Join author, illustrator and animator Curtis Jobling for this exciting and interactive event about his recently released folk horror novel, Wyrdwood. He’ll walk you through the tales and places that informed the book, weaving folklore with contemporary horror.

Curtis has designed and created some of the UK’s best-loved children’s shows, including the BAFTA-winning Bob the Builder, Frankenstein’s Cat and Raa Raa the Noisy Lion, while also writing and illustrating numerous picture books for young audiences. He has published eleven novels for older readers, including the acclaimed and bestselling Wereworld series, now adapted into a major new animated series for Netflix, Wolf King.

Dewch i ymuno â’r awdur, y darlunydd a’r animeiddiwr Curtis Jobling ar gyfer y digwyddiad cyffrous a rhyngweithiol hwn ynghylch ei nofel arswyd gwerin ddiweddaraf, Wyrdwood. Bydd yn eich tywys drwy’r straeon a’r llefydd a ysbrydolodd y llyfr, ac yn cymysgu llên gwerin gydag arswyd cyfoes.

Mae Curtis wedi dylunio ac wedi creu rhai o sioeau plant mwyaf poblogaidd y DU, gan gynnwys Bob the Builder (enillydd BAFTA), Frankenstein’s Cat a Raa Raa the Noisy Lion, ac wedi ysgrifennu a darlunio nifer o lyfrau darluniadol i gynulleidfaoedd ifanc. Mae wedi cyhoeddi un ar ddeg o nofelau i ddarllenwyr hŷn, gan gynnwys y gyfres arobryn boblogaidd Wereworld, sydd erbyn hyn, wedi cael ei haddasu’n gyfres animeiddio newydd boblogaidd o’r enw Wolf King ar gyfer Netflix.

Booking opens at 9am on Wednesday 25 February
Please log in to continue

Event S20

Iszi Lawrence

Iszi Lawrence

The Domesday Cows

KS3/4 | CA3/4
Meadow Stage
Read more

The Domesday Cows is a hilarious, chaotic Anglo-Saxon culture clash full of cow pats, sibling hijinks and sneaky nobles. The electric Iszi Lawrence, writer, comedian and history presenter (Netflix, Apple TV, BBC), transports you – history non-fans and history buffs alike – into a fact-accurate version of medieval England, where reality is much stranger than fiction. It’s 1086 CE. Bad news! Nora’s meddlesome mother has caused a Norman Earl to take notice of their village. But Nora’s plans to avoid him unravel faster than wool from a dropped spindle. Can she undo the havoc she’s caused?

Mae The Domesday Cows yn gymysgedd doniol ac anhrefnus o wrthdaro rhwng y diwylliannau Eingl-Sacsonaidd a’r Normaniaid, sy’n llawn baw gwartheg, helynt rhwng brodyr a chwiorydd, a boneddigion slei. Mae’r awdures, y comedïwr a’r cyflwynydd hanes ysbrydoledig Iszi Lawrence (Netflix, Apple TV, BBC), sydd yn llawn egni, yn eich tywys – boed yn caru hanes neu beidio – i fersiwn ffeithiol gywir o Loegr ganoloesol, lle mae realiti’n llawer mwy rhyfedd na ffuglen. Mae’n 1086 CE. Newyddion drwg! Mae mam fusneslyd Nora wedi gwneud i Iarll Normanaidd gymryd sylw o’u pentref. Ond mae cynlluniau Nora i’w osgoi yn dadfeilio’n gyflymach na gwlân o sbindl wedi’i ollwng. A fedrith hi ddadwneud yr anhrefn mae hi wedi’i greu?

Booking opens at 9am on Wednesday 25 February
Please log in to continue
The Moondance Foundation logo
The Rothschild Foundation logo
Old Possums Practical Trust logo
Hay Festival Education logo