Dydd Gwener 27 Tachwedd
Croeso i’n digwyddiadau ar gyfer ysgolion CA1. Cofrestrwch i wylio’r ffrydiau byw am ddim ar ddydd Gwener 27 Tachwedd 2026. Bydd yr holl ddigwyddiadau ar gael i’w gwylio eto, gyda diolch i’r Moondance Foundation.
Friday 27 November
Welcome to KS1 schools events. Please register to watch the free live stream on Friday 27 November 2026. Events are also available to watch again, with thanks to the Moondance Foundation.

Gadewch i'r bardd mewnol sydd tu mewn i chi gael ei ryddhau gydag Alex Wharton – meistr rhigwm, gwrw rap a Bardd Plant Cymru 2023–25 yn y sesiwn bywiog a rhyngweithiol hwn. Dewch i gwrdd â chymeriadau fel 'Hector the Horrible Hedgehog’, a ‘Horse on the Loo’, a dysgwch sut i rigymu fel 'Mr Slime'. Byddwch yn rapio i 'Monday Morning' ac yn dod ar draws llawer mwy o gerddi bywiog i danio eich dychymyg.
Mae Alex yn perfformio cerddi egnïol o’i gasgliadau, sy'n cynnwys Daydreams and Jellybeans a Red Sky at Night, Poet’s Delight, ac yn annog ac yn ysbrydoli pob un ohonom i fod yn greadigol.
Unleash your inner poet in this high-energy, interactive session with Alex Wharton, rhyme-master, rap-guru and Children’s Laureate for Wales 2023–25. Meet ‘Hector the Horrible Hedgehog’, ‘Horse on the Loo’ and learn to rhyme like ‘Mr Slime’. Get ready to rap to ‘Monday Morning’, and discover a whole load more lively verses to spark your imagination.
Alex performs energetic poems from his collections, including Daydreams and Jellybeans and Red Sky at Night, Poet’s Delight, encouraging and inspiring us all to get creative.

Dewch i ymuno â’r darlunydd Sophy Henn i fynd ar daith gyflym o amgylch Happy Hills, lleoliad ei chyfres nofelau graffig hynod ddoniol. Byddwch yn cwrdd â rhai o drigolion afreolus y dref fwyaf anhrefnus erioed, ac yn gweld sut mae Sophy yn eu creu. Yna, gyda’ch gilydd, byddwch yn dyfeisio cymeriad newydd ac yn creu pwdin hyfryd ar gyfer Happy Place Café y dref.
O Attack of the Giant Danger Kittens i Zombie Gummy Bears Are Go!, mae cyfres Happy Hills Sophy yn llawn lliw, hwyl ac anhrefn — a fydd yn sicr yn ysbrydoli pawb i ddechrau sgriblo.
Follow illustrator Sophy Henn on a whistle-stop tour of Happy Hills, the location of her hilarious graphic novel series. You’ll meet a few of the riotous residents of the most chaotic town ever, and see how Sophy creates them. Then together you’ll create a new character and concoct a delightful dessert for the town’s Happy Place Café.
From Attack of the Giant Danger Kittens to Zombie Gummy Bears Are Go!, Sophy’s Happy Hills series delivers an explosion of colour, fun and chaos that will inspire everyone to start scribbling.

