We are thrilled to bring you the Programme for Schools live this year, with in-person events for pupils in Key Stage 2 on Thursday 25 May and Key Stages 3 & 4 on Friday 26 May.
Enjoy two days of fun and inspiration with exciting writers and thought-provoking performances for young people.
All events will be livestreamed on the day and are free to watch again later on Hay Player (captioned in English and Welsh). You can buy books on site from the Hay Festival Shop.
All events are approximately 45 minutes in duration.
You’re currently viewing Programme for Schools events – see the full Hay Festival programme
Mae’n bleser gennym gyflwyno’r Rhaglen Ysgolion yn fyw eleni, gyda digwyddiadau wyneb yn wyneb i ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2 yn cael eu rhedeg ar ddydd Iau 25 Mai ac i ddisgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 ar ddydd Gwener 26 Mai.
Mwynhewch ddau ddiwrnod o hwyl ac ysbrydoliaeth gydag awduron cyffrous a pherfformiadau sy'n ysgogi'r meddwl ar gyfer pobl ifanc.
Bydd pob digwyddiad yn cael ei ffrydio'n fyw ar y diwrnod, ac maen nhw’n rhad ac am ddim i'w gwylio eto ar Hay Player (pennawd yn Gymraeg a Saesneg). Gallwch brynu llyfrau ar y safle o Siop Gŵyl y Gelli.
Mae pob digwyddiad tua 45 munud o hyd.
Rydych chi'n gwylio digwyddiadau'r Rhaglen Ysgolion ar hyn o bryd. I weld rhaglen lawn Gŵyl y Gelli, cliciwch yma.
Talented poet Matt Goodfellow leads a high-energy event, lively with creativity and wit. You’ll love exploring his poems on a range of themes, from the downright silly to the sensitive. Bright Bursts of Colour is a bumper poetry collection perfect for Key Stages 1 & 2 – from a special kind of badger to a map of the stars via book people who hide in the margins, these verses will delight and enthuse you. He used to be a teacher, but these days Matt poets all over the UK – and now he’s coming to help you write your own poems.
Mae’r bardd talentog Matt Goodfellow yn arwain digwyddiad egnïol, bywiog iawn gyda chreadigrwydd a ffraethineb. Byddwch wrth eich bodd yn archwilio ei gerddi ar amrywiaeth o themâu, o’r hollol wirion i’r sensitif. Mae Bright Bursts of Colour yn gasgliad swmpus o farddoniaeth sy’n berffaith ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1 a 2 – o fath arbennig o fochyn daear i fap o’r sêr trwy bobl llyfrau sy’n cuddio yn yr ymylon, bydd y penillion hyn yn eich swyno a’ch hudo. Roedd yn arfer bod yn athro, ond y dyddiau hyn, mae Matt yn barddoni ar draws y DU – a nawr mae’n dod i’ch helpu chi i ysgrifennu eich cerddi eich hun.
The nation’s favourite doctor is here to inspire us all to love ourselves, however our brains work. He’ll show us how to train our brain and become the best we can be in this empowering and inclusive session. Dr Ranj not only tells us how the brain works but also shows you how to train it to get better at stuff you find difficult. Following his advice will help you learn how to make the most of your brain and how to keep your mind happy and healthy. He’ll also share top tips on the right foods to fuel your brain and your mental wellbeing from his brand new book How To Be a Boy: And Do It Your Own Way.
Mae hoff feddyg y genedl yma i’n hysbrydoli ni gyd i garu ein hunain, sut bynnag mae ein hymennydd yn gweithio. Bydd yn dangos i ni sut i hyfforddi ein hymennydd a dod y gorau y gallwn fod yn y sesiwn bwerus a chynhwysol hon. Mae Dr Ranj nid yn unig yn dweud wrthym sut mae’r ymennydd yn gweithio ond hefyd, yn dangos i chi sut i’w hyfforddi i wella ar bethau rydych chi’n eu gweld yn anodd. Bydd dilyn ei gyngor yn eich helpu chi i ddysgu sut i wneud y gorau o’ch ymennydd a sut i gadw’ch meddwl yn hapus ac yn iach. Bydd yn rhannu awgrymiadau pwysig hefyd ar y bwydydd cywir i danio’ch ymennydd a’ch lles meddyliol, o’i lyfr newydd sbon How To Be a Boy.
Award-winning author Patrice Lawrence – whose books include Orangeboy and Indigo Donut – takes us back to 1764 London in her middle-grade novel The Elemental Detectives. Heroes Marisee and Robert are the Elemental Detectives of the title, chasing clues across the city to prevent London slumbering for all eternity. Join Patrice as she talks about the real-life inspiration behind the book and shares tips on how to create magical creatures and worlds inspired by local landmarks.
Mae’r awdur arobryn Patrice Lawrence – y mae ei llyfrau’n cynnwys Orangeboy ac Indigo Donut – yn mynd â ni yn ôl i Lundain ym 1764 yn ei nofel ganolradd The Elemental Detectives. Yr arwyr Marisee a Robert yw’r ditectifs yn y teitl, sy’n hel cliwiau ar draws y ddinas i atal Llundain rhag cysgu am byth. Ymunwch â hi wrth iddi sôn am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r llyfr a sut mae hi’n rhannu awgrymiadau ar sut i greu creaduriaid a bydoedd hudolus wedi eu hysbrydoli gan dirnodau lleol.
Would you like to live next to a poo-filled moat, be stuck in a siege or eat live blackbird pie? No? Then you’ll be glad you don’t live in a medieval castle! Step into the past with Chae Strathie, author of the So You Think You’ve Got it Bad? series, in this must-see event for everyone with a passion for horrible history. You’ll be fascinated (and sometimes grossed out) by his hilarious introduction to medieval times packed with songs, dancing and drawing. You might also get a sneak peek at some of the fabulous facts from Chae’s soon-to-be-released A Kid’s Life as a Viking…
Hoffech chi fyw wrth ymyl ffos llawn budred, bod yn sownd mewn gwarchae neu fwyta pastai adar duon byw? Na? Os felly, byddwch yn falch nad ydych chi’n byw mewn castell canoloesol! Camwch i’r gorffennol gyda Chae Strathie, awdur y gyfres So You Think You’ve Got it Bad?, yn y digwyddiad anhygoel hwn i bawb sydd ag angerdd am hanes hyll. Cewch eich cyfareddu (ac weithiau eich ffieiddio) gan ei gyflwyniad doniol i’r oesoedd canol sy’n llawn caneuon, dawnsio a darlunio. Efallai cewch gipolwg hefyd ar rai o’r ffeithiau ffantastig gan Chae yn A Kid’s Life as a Viking sydd ar fin cael ei ryddhau...
Growing up today is a sometimes scary and challenging experience; from negotiating social media to dealing with the effects of climate change, the future is both pressure-filled and uncertain for young people, and it can feel all too easy to want to give up. Join adventurer and television presenter Bear Grylls as he discusses how the life lessons he’s learned and the survival skills he’s used in the wild – outlined in his book You vs the World: The Bear Grylls Guide to Never Giving Up – can be applied to everyday life, helping children not just survive, but also thrive, in their own lives.
Mae tyfu fyny heddiw yn brofiad brawychus a heriol ar adegau; o drafod y cyfryngau cymdeithasol i ddelio ag effeithiau newid hinsawdd, mae’r dyfodol yn llawn pwysau ac yn ansicr i bobl ifanc, ac mae’n gallu teimlo’n rhy hawdd i fod eisiau rhoi’r ffidil yn y to. Ymunwch â’r anturiaethwr a’r cyflwynydd teledu Bear Grylls, wrth iddo drafod sut y gellir defnyddio’r gwersi bywyd y mae wedi’u dysgu a’r sgiliau goroesi y mae wedi’u defnyddio yn y gwyllt – sydd yn cael ei amlinellu yn ei lyfr You vs the World: The Bear Grylls Guide to Never Giving Up – i fywyd bob dydd, gan helpu plant nid yn unig i oroesi, ond hefyd ffynnu, yn eu bywydau eu hunain.
Abi Elphinstone’s stories are never less than thrilling, whether taking us dog-sledding in the Arctic or living with the Kazakh eagle hunters in Mongolia. She shares the real-life adventures behind these tales, showing us just how easy it is to leap into stories of our own. Jump with Abi into her latest book Saving Neverland – a modern, magical sequel to Peter Pan, complete with moonpaper maps, frostbears and a woolly mammoth called Armageddon.
Nid yw straeon Abi Elphinstone byth yn llai na gwefreiddiol, boed yn mynd â ni i gael ein llusgo gan gŵn yn yr Arctig neu i fyw gyda helwyr eryr Kazakh ym Mongolia. Mae hi’n rhannu’r anturiaethau go iawn y tu ôl i’r hanesion hyn, ac yn dangos i ni pa mor hawdd ydy neidio i straeon ein hunain. Dewch i neidio gydag Abi i mewn i’w llyfr diweddaraf Saving Neverland – nofel ddilynol fodern, hudolus i Peter Pan, ynghyd â mapiau papur lleuad, eirth y rhew a mamoth gwlanog o’r enw Armageddon.
Forget everything you know about perfect princesses and happily ever afters! Waterstones Children’s Laureate Joseph Coelho offers something a little different to traditional fairytales, as he takes us on a new adventure with his series Fairy Tales Gone Bad, in which he reimagines well-known characters with a spookier and more gruesome edge. Join him as he brings his creations Zombierella, Frankenstiltskin and Creeping Beauty to life (don’t worry, they’re not that scary), and shares his tips on how to become a masterful storyteller. Coelho is a poet and storyteller, and the 12th children’s laureate.
Anghofiwch bopeth rydych chi’n ei wybod am dywysogesau perffaith a byw yn hapus am byth! Mae Awdur Plant Waterstones, Joseph Coelho, yn cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i straeon tylwyth teg traddodiadol, wrth iddo fynd â ni ar antur newydd gyda’i gyfres Fairy Tales Gone Bad, lle mae’n ail-ddychmygu cymeriadau adnabyddus gyda naws fwy arswydus ac ofnadwy. Ymunwch ag ef wrth iddo ddod â’i greadigaethau Zombierella, Frankenstiltskin a Creeping Beauty i fywyd (peidiwch â phoeni, nid ydynt mor frawychus â hynny), ac wrth iddo rannu ei awgrymiadau ar sut i ddod yn storïwr meistrolgar. Mae Coelho yn fardd a storïwr, a’r 12fed Awdur Plant.
Would you like to know how dogs talk in Welsh, English and German, or how to say that you’re hungry in Spanish and Welsh? This multilingual workshop, led by Welsh poet and National Eisteddfod winner Mererid Hopwood, concentrates on the rhythm of words and sentences introducing three or four languages all at once. Through this playful session, you’ll enjoy learning new languages and also how to listen very carefully to rhythm and rhyme.
Cerdd Iaith is a British Council Wales developed programme initially funded by the Paul Hamlyn Foundation’s Teacher Development Fund and delivered in partnership with BBC National Orchestra of Wales, Yr Athrofa – the Centre for Education at University of Wales Trinity St David – and Ein Rhanbarth ar Waith (ERW). It is now exploring new languages supported by Aberystwyth University, the Goethe Institute, Ceredigion County Council and Welsh Government.
A hoffech chi wybod sut y mae cŵn yn siarad yn Gymraeg, Saesneg ac Almaeneg, neu sut mae dweud 'mae eisiau bwyd arnaf i’ yn Sbaeneg ac Almaeneg? Bydd y gweithdy amlieithog hwn, o dan arweiniad y Prifardd Mererid Hopwood, yn canolbwyntio ar rythm geiriau a brawddegau, gan gyflwyno tair neu bedair iaith ar yr un pryd. Drwy’r sesiwn chwareus hwn, bydd disgyblion yn mwynhau dysgu ieithoedd newydd a dysgu sut y mae gwrando’n ofalus ar rythm ac odl.
Datblygwyd rhaglen Cerdd Iaith yn wreiddiol gan y Cyngor Prydeinig yng Nghymru â nawdd gan Gronfa Datblygu Athrawon Sefydliad Paul Hamlyn, a’i darparu mewn partneriaeth â Cherddorfa BBC Cymru, Yr Athrofa, PCYDDS ac Ein Rhanbarth ar Waith (ERW). Mae bellach yn archwilio ieithoedd newydd gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth, y Goethe Institute, Cyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru.
Superstar space scientist Dr Maggie Aderin-Pocock is here to answer all your questions about the wonders of the universe – from whether it’s raining gemstones on Jupiter to what the astronauts are having for dinner on the International Space Station. Curious cosmonauts and enthusiastic Earthlings alike will discover the wonders of space as Maggie introduces her out-of-this-world book, Am I Made of Stardust? Dr Maggie Answers the Big Questions for Young Scientists.
Mae’r archseren o wyddonydd gofod Dr Maggie Aderin-Pocock yma i ateb eich holl gwestiynau am ryfeddodau’r bydysawd – o’r posibilrwydd ei bod yn glawio gemfeini ar y blaned Iau, i’r hyn y mae’r gofodwyr yn ei gael i gael cinio ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Bydd pob daearolyn yn darganfod rhyfeddodau’r gofod wrth i Maggie gyflwyno’i llyfr anhygoel, Am I Made of Stardust? Dr Maggie sy’n Ateb y Cwestiynau Mawr i Wyddonwyr Ifanc.
Explore an imagining of the before and after of global warming with Emma Carroll. Her latest time-travelling adventure suggests that the future has a lot to learn from the past… It’s the near future and Britain is having yet another heatwave. For Polly, it’s the sort of heat that makes her do wild, out-of-character things just to cool down. Like face her fear of deepwater. Essential when she and her brother have been sent to their aunt’s eco lakeside house for the summer. But Truthwater Lake is beginning to dry up and, as the water level diminishes, a lost village emerges...
Archwiliwch ddychmygu’r sefyllfa cyn ac ar ôl cynhesu byd-eang gydag Emma Carroll. Mae ei hantur ddiweddaraf sy’n teithio drwy amser, yn awgrymu bod gan y dyfodol lawer i’w ddysgu o’r gorffennol... Dyma’r dyfodol agos, ac mae Prydain yn cael tywydd poeth arall eto. I Polly, dyma’r math o wres sy’n gwneud iddi wneud pethau gwyllt, allan o gymeriad, dim ond i oeri. Fel wynebu ei hofn o ddŵr dwfn. Hanfodol pan mae hi a’i brawd wedi cael eu hanfon i dŷ eco eu modryb wrth ochr yr afon ar gyfer yr haf. Ond mae Llyn Truthwater yn dechrau sychu ac, wrth i lefel y dŵr leihau, mae pentref coll yn dod i’r amlwg...
Music is everything! Join author, broadcaster and educator Jeffrey Boakye as he introduces his first middle-grade novel, Kofi and the Rap Battle Summer. You’ll meet Kofi and his best friend Kelvin who find themselves on a mischievous, money-making ’90s adventure. Learn about iconic ’90s artists, find out how to write a rap and discover why Kofi and Kelvin are about to have their best summer ever.
Cerddoriaeth yw popeth! Ymunwch â’r awdur, y darlledwr a’r addysgwr Jeffrey Boakye wrth iddo gyflwyno ei nofel ganolradd gyntaf, Kofi and the Rap Battle Summer. Byddwch yn cwrdd â Kofi a’i ffrind gorau Kelvin, sy’n darganfod eu hunain ar antur ddrygionus, broffidiol am gerddoriaeth y ’90au. Dysgwch am artistiaid eiconig y ’90au, dysgwch sut i ysgrifennu rap, a darganfod pam mae Kofi a Kelvin ar fin cael eu haf gorau erioed.
The best writers are often said to be enthusiastic life-long readers, and that’s definitely the case for children’s author SF Said. A passionate campaigner for literacy, libraries and reading for pleasure, he is the writer behind Varjak Paw and its sequel The Outlaw Varjak Paw, a duology about a cat who learns a secret martial art. Said will share his love of stories with us, explaining how he went from being a young reader and lover of books to an award-winning author and campaigner for stories for all.
Dywedir yn aml fod yr awduron gorau yn ddarllenwyr brwdfrydig mewn bywyd, ac mae hynny’n sicr yn wir am yr awdur plant SF Said. Yn ymgyrchydd angerddol dros lythrennedd, llyfrgelloedd a darllen er pleser, ef yw’r awdur y tu ôl i Varjak Paw a’r nofel ddilynol The Outlaw Varjak Paw, deuoleg am gath sy’n dysgu celfyddyd ymladd cudd. Bydd Said yn rhannu ei gariad at straeon gyda ni, ac yn egluro sut yr aeth o fod yn ddarllenwr ifanc ac yn hoff o lyfrau, i awdur ac ymgyrchydd arobryn dros straeon i bawb.