Bydd Rhaglen Ysgolion 2026 yn cael ei chynnal ar ddydd Iau, 21 Mai 2026 (Cynradd) ac ar ddydd Gwener 22 Mai 2026 (Uwchradd).
“Mae ymweliadau i ddigwyddiadau'r Rhaglen Ysgolion yn ffordd wych o ddatblygu gwybodaeth hanfodol ar gyfer y dyfodol. Does dim ffordd well o ddatblygu cariad at ddarllen na thrwy ymweld â Gŵyl y Gelli.” – Andrew Farrell, Prifathro Cynorthwyol Harborne Academy
Bob Gwanwyn, mae'r Rhaglen Ysgolion yn gwahodd disgyblion CA2 a CA3/4 o ysgolion gwladol ar draws y DU i gyfres o ddigwyddiadau RHAD AC AM DDIM ac ysbrydoledig, sydd yn cael eu cynnal ar ddau ddiwrnod agoriadol Gŵyl y Gelli yn y Gelli Gandryll.
Mae pob digwyddiad yn cael ei darlledu'n fyw ar y diwrnod, gydag adnoddau dysgu cefnogol, ac mae catalog o awduron Anytime Gŵyl y Gelli i'w gwylio'n rhad ac am ddim o Raglen Ysgolion Gŵyl y Gelli, sydd wedi cael eu ffilmio dros y 5 mlynedd diwethaf, gyda dros 130 o ddigwyddiadau llawn hwyl ac ysbrydoledig i ddewis ohonynt, gan gynnwys Ade Adepitan, David Baddiel, Jacqueline Wilson, Onjali Q. Raúf, Julian Clary a Cressida Cowell.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestrau post – addysg, e-bostiwch schools@hayfestival.com.

