Mae’r awdur sydd wedi ennill Gwobr Lyfrau Laugh Out Loud yn nodi 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn y digwyddiad arbennig hwn. Fel athrawes ysgol gynradd, mae Jenny’n trafod yr Ail Ryfel Byd yn rheolaidd yn ei hystafell ddosbarth, ac fe’i hysbrydolwyd i ysgrifennu Shrapnel Boys gan gadernid rhyfeddol pobl Llundain a wnaeth fyw trwy’r rhyfel. Dewch i ddarganfod y profiadau go iawn a ysbrydolodd ei stori am Ronnie, sy’n 11 oed, sydd â bywyd llawn brwydrau – ar y strydoedd, yn yr awyr, yn yr ysgol, gartref. Dysgwch sut beth fyddai bod yn blentyn yn ystod y rhyfel, a chlywed rhywfaint o ffeithiau a ffigurau arswydus sy’n codi o’r cyfnod hwn mewn hanes.
The Laugh Out Loud Book Award-winning author marks the 80th anniversary of the end of WW2 in this special event. As a primary school teacher, Jenny regularly covers WW2 in her classroom and was inspired to write Shrapnel Boys by the extraordinary resilience of Londoners living through the war. Discover the real-life experiences that inspired her story about 11-year-old Ronnie, whose life is full of battles – on the streets, in the sky, at school, at home. Learn what it would have been like to be a kid during the war, and hear some mind-boggling facts and figures from this period of history.