Mae Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli yn dod ag awduron, beirdd a pherfformwyr i arwain digwyddiadau rhyngweithiol gyda myfyrwyr Blynyddoedd 7–10 mewn ysgolion ledled Cymru. Cynhelir y digwyddiadau ym mhrifysgolion Cymru bob blwyddyn ym mis Ionawr/Chwefror, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Yn ein cyfres o weithdai 2024, bu disgyblion yn adeiladu straeon, yn gofyn cwestiynau ac yn mynegi eu hunain trwy rym ysgrifennu. Treuliodd awduron a chyflwynwyr amser gyda'r disgyblion, ar y llwyfan ac oddi arno, i annog sgyrsiau creadigol trwy gydol y Daith.
Ymunwch â'r frenhines ffuglen hanesyddol, Emma Carroll, a fydd yn cyflwyno ei hantur ddiweddaraf, The Tale of Truthwater Lake, sy'n dychmygu bywyd cyn ac ar ôl cynhesu byd-eang. Bydd hi hefyd yn rhannu rhai o'i phrif awgrymiadau ar gyfer ymchwilio ac ysgrifennu eich straeon anhygoel eich hun. Disgwyliwch gael eich ysbrydoli gan hen wrthrychau rhyfedd, cŵn mewn hetiau uchel, mapiau ac angenfilod, yn ogystal â meddwl am yr hyn sy'n gwneud i CHI dicio fel awdur. Mae Emma wedi cael ei henwebu ar gyfer, ac wedi ennill, nifer o wobrau cenedlaethol, rhanbarthol ac ysgolion – gan gynnwys y Wobr i Ddarllenwyr, Books Are My Bag, Branford Boase, Medal CILIP Carnegie, Young Quills, Teach Primary a Gwobr Llyfr y Flwyddyn Waterstones.
Ymunwch â'r crefftwr geiriau arobryn, yr artist a'r bardd Karl Nova, a fydd yn perfformio darnau o'i lyfr newydd The Curious Case of Karl Nova. Mae ei berfformiad bywiog yn adrodd straeon sy'n ddoniol, personol ac ysbrydoledig. Enillodd Karl wobr farddoniaeth CLiPPA yn 2018 a Gwobr Ruth Rendell am wasanaethau i lythrennedd yn 2020.
Beth pe bai'r straeon roedden ni'n meddwl ein bod ni’n eu hadnabod wedi digwydd yn wahanol mewn gwirionedd? Beth os yw rhai pobl wedi cael eu gadael allan o'r darlun? Beth os mai dim ond hanner y stori sydd wedi cael ei dweud? Yn ei gweithdy, bydd yr awdur llwyddiannus Laura Bates yn trafod pŵer adrodd straeon, ysgrifennu dewr a newid y naratif. Byddwn yn edrych ar wahanol ffyrdd o droi'r sgript, o ailysgrifennu penawdau rhywiaethol i greu marchogion Arthuraidd benywaidd, gyda chanlyniadau pwerus ac weithiau doniol. A gyda'n gilydd, byddwn yn gofyn y cwestiwn: beth pe gallai newid y stori newid y byd? Yn ogystal â bod yn awdur, Laura yw sylfaenydd y Prosiect Everyday Sexism; mae hi’n gweithio'n agos gyda gwleidyddion, busnesau, ysgolion, heddluoedd a sefydliadau o Gyngor Ewrop i'r Cenhedloedd Unedig, i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhywiol.
Ymunwch â'r awdur a'r cyn-newyddiadurwr enwog Benjamin Dean ar gyfer gweithdy ysgrifennu creadigol, i archwilio bywyd y sêr a sut i'w oroesi! Mae wedi cyfweld â llu o enwogion glitzy ac wedi torri'r newyddion nad ydy Rihanna’n gallu wincio (mae hi'n blincio, rhag ofn i chi feddwl).
How to Die Famous yw ail deitl Awdur Ifanc Ben. Wedi'i ysbrydoli gan ei gyfnod fel gohebydd i’r sêr, rydym yn dilyn Abel i lawr twll cwningen Hollywood lle mae cyfrinachau, sgandal a dim ond ychydig bach o lofruddiaeth yn cuddio y tu ôl i lenni sioe deledu boblogaidd i bobl ifanc yn eu harddegau.Yr awdur llwyddiannus i bobl ifanc a’r eiriolwr dros bobl yn eu harddegau, Jenny Valentine, fydd yn cyflwyno Taith y Sgriblwyr ac yn annog y disgyblion i ganfod eu geiriau eu hunain i fynegi syniadau a chreadigrwydd trwy gydol y daith.
10am | Mae ysgolion yn cyrraedd |
10.15am–10.30am | Cyflwyniad |
10.30am–11.15am | Digwyddiad 1 – Emma Carroll (wythnos 1) / Laura Bates (wythnos 2) |
11.15am–11.30am | Egwyl ac arwyddo llyfrau |
11.30am–12.15pm | Digwyddiad 2 – Karl Nova (wythnos 1) / Benjamin Dean (wythnos 2) |
12.15pm–1pm | Cinio ac arwyddo llyfrau |
1pm–1.45pm | Digwyddiad 3 – Sesiwn y prifysgol |
1.45pm–2pm | Cyfle i’r disgyblion ac athrawon werthuso |
2pm | Diwedd |