Fe wnaeth yr awduron adnabyddus Anni Llŷn a Mel Owen arwain digwyddiadau creadigol a rhyngweithiol mewn Prifysgolion yng Nghymru a oedd yn dathlu'r iaith Gymraeg. Roedd y diwrnod yn cynnwys sesiynau hefyd gan staff y Brifysgol a oedd yn cyflwyno sesiynau ysgrifennu creadigol neu daith o amgylch prifysgol, ac yn rhoi blas o fywyd ar y campws iddynt. Cafodd y digwyddiadau eu harwain gan y bardd a'r perfformiwr Aneirin Karadog.
Aeth y Sgriblwyr Cymraeg 2025 ar daith pum diwrnod o amgylch prifysgolion ar draws Cymru rhwng 3 a 7 Tachwedd 2025. Cafodd y gweithdai iaith Gymraeg hyn AM DDIM eu trefnu ar gyfer disgyblion CA3 (Blynyddoedd 7, 8, 9) fel rhan o Daith y Sgriblwyr Gŵyl y Gelli.

Mae Mel Owen yn gomedïwr, yn ysgrifennu sgriptiau, yn awdur ac yn gyflwynydd. Mae ei chredydau ysgrifennu yn cynnwys Netflix, Channel 4, BBC One a BBC Radio 4. Ym mis Hydref 2024, cyhoeddodd Mel ei llyfr cyntaf, Oedolyn (ish). Cafodd Oedolyn (ish) ei enwebu i fod ar restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru, a ddaeth yn un o’r llyfrau Cymraeg mwyaf poblogaidd yn 2024.
Bydd y sesiynau yn ymchwilio sut bod camgymeriadau yn gallu bod y mannau cychwyn perffaith i’r straeon gorau!

Mae Anni’n awdur, bardd a chyflwynydd. Mae hi wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau ar gyfer plant a phobl ifanc mewn addysg ac adloniant. Mae hi’n gyffrous iawn o gael y cyfle i fod ar daith y Sgriblwyr Cymraeg eleni!
Bydd gweithdy Anni yn ymwneud o gwmpas y teimlad o fod ar goll, a dim yn gwybod lle i ddechrau pan rydych chi’n ceisio ysgrifennu’n greadigol.

Mae staff prifysgol o Adrannau Cymraeg yn cyflwyno sesiynau ysgrifennu creadigol neu daith prifysgol i fyfyrwyr Sgriblwyr Cymraeg, gan roi blas o fywyd ar y campws iddynt.

Y bardd a’r perfformiwr Aneirin Karadog oedd Bardd Plant Cymru 2013–2015, ac mae'n ysgrifennu barddoniaeth yn bennaf yn Gymraeg. Mae'n siarad pum iaith, ac mae wedi bod yn rapio mewn bywyd blaenorol. Bydd Aneirin yn cyflwyno holl ddigwyddiadau Sgriblwyr Cymraeg 2025.
| 10.15am | Ysgolion yn cyrraedd |
| 10.15am–10.30am | Cyflwyniad |
| 10.30am–11.15am | Digwyddiad 1 – Mel Owen |
| 11.15am–11.30am | Egwyl |
| 11.30am–12.15pm | Digwyddiad 2 – Anni Llŷn |
| 12.15pm–1pm | Cinio |
| 1pm–1.45pm | Digwyddiad 3 – Sesiwn y Brifysgol |
| 1.45pm–2pm | Cyfle i’r disgyblion ac athrawon werthuso |
| 2pm | Diwedd |
Gweithdai Cymraeg digidol rhad ac am ddim a gyflwynir i chi yn rhan o Daith y Sgriblwyr Gŵyl y Gelli ac sydd ar gael i’w gwylio eto yn rhydd.
Ymunwch â’r beirdd a’r awduron Gruffudd Owen, Rufus Mufasa, Mererid Hopwood, Aneirin Karadog ac Anni Llŷn ar gyfer y digwyddiadau digidol creadigol a rhyngweithiol, rhad ac am ddim hyn sy’n canolbwyntio ar leoliad, tirwedd a hunaniaeth i ddathlu’r Gymraeg.

