Cynhelir Gŵyl y Gelli mewn pentref pebyll yn y Gelli Gandryll, sy’n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae caffis, ardal fwyd a bwyty, gerddi ac ardal bwrpasol i blant ar agor trwy'r dydd. Mae croeso i bawb.
Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01497 822 629 gan nodi rhifau eich digwyddiadau dewisol a manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd.
Bydd y Swyddfa Docynnau ar agor o 9.30am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Swyddfa Docynnau Gŵyl y Gelli, 25 Stryd y Llew, Y Gelli Gandryll HR3 5AD
O ddydd Iau 26 Mai bydd y Swyddfa Docynnau yn symud i Safle'r Ŵyl ar Heol Aberhonddu, y Gelli Gandryll.
Mae cost trafod o £3.50 yn berthnasol i bob archeb, ac eithrio'r rhai a archebir wyneb yn wyneb lle na chodir costau archebu. Gwiriwch sgriniau'r Swyddfa Docynnau ar y safle bob dydd am unrhyw newidiadau i leoliad digwyddiad.
Mae'r holl fanylion yn gywir adeg cyhoeddi’r wybodaeth hon. Cadwn yr hawl i newid rhaglenni ac artistiaid os bydd amgylchiadau'n golygu bod hynny’n angenrheidiol. Os bydd digwyddiad yn cael ei ganslo, bydd pris tocynnau'n cael ei ad-dalu.
Ac eithrio yn achos canslo, mae Gŵyl y Gelli yn gweithredu polisi dim dychwelyd/ad-dalu.
Os gwelwch fod gennych docynnau na allwch eu defnyddio, ewch â nhw i’r Swyddfa Docynnau lle gallant gael eu gwerthu er budd achos elusennol. Os anfonwyd tocynnau atoch ymlaen llaw, cofiwch ddod â nhw gyda chi. Ni all y Swyddfa Docynnau ailargraffu tocynnau a gollwyd neu a anghofiwyd.
Mae'r rheolwyr yn cadw'r hawl i wrthod mynediad.
Anfonwch eich cais i Swyddfa Docynnau Gŵyl y Gelli, 25 Stryd y Llew, y Gelli Gandryll HR3 5AD. Dylech gynnwys rhifau digwyddiadau a nifer y tocynnau, ac ysgrifennwch eich manylion personol yn glir mewn priflythrennau, gan gynnwys rhif ffôn cyswllt. Dylid gwneud sieciau'n daladwy i 'Sefydliad Gŵyl y Gelli'. Rhag ofn na fydd tocynnau ar gael, gadewch y swm yn wag, ond ysgrifennwch ar y siec "heb fod yn fwy na ... [cyfanswm cost eich archeb ynghyd â'r ffi archebu o £3.50]" neu gynnwys rhif eich cerdyn debyd neu gredyd. Cofiwch gynnwys y rhif dosbarthu neu'r dyddiad 'dilys o' os ydych yn talu â cherdyn debyd. Bydd pob cais yn cael ei brosesu yn ôl y drefn y deuant i law. Mae prisiau pob tocyn yn cynnwys TAW.
Wrth dalu, gallwch ddewis sut yr hoffech dderbyn eich tocynnau.
ARGRAFFU GARTREF Dewiswch docynnau y gallwch eu hargraffu eich hunain os ydych chi'n prynu sawl tocyn ar gyfer mwy nag un person. Byddwch yn cael eich tocynnau drwy e-bost cyn gynted ag y bydd eich archeb wedi'i chwblhau.
E-DOCYN AR GYFER FFONAU SYMUDOL Dewiswch e-docynnau, a byddwn yn e-bostio eich tocynnau atoch yn fuan cyn eich digwyddiad(au) i chi eu cyflwyno ar eich dyfais symudol yn yr ŵyl. Peidiwch â dewis yr opsiwn hwn os ydych chi’n archebu sawl tocyn ar gyfer mwy nag un person, gan na ellir eu hanfon ymlaen na'u rhannu.
TOCYNNAU PAPUR TRADDODIADOL Gallwch ddewis cael tocynnau traddodiadol wedi'u postio, neu eu casglu yn y swyddfa docynnau ar safle'r ŵyl pan fyddwch yn cyrraedd.Ni ellir ad-dalu, cyfnewid neu ailwerthu tocynnau. Os oes gennych docynnau na allwch eu defnyddio, mae desg elusen yn y Swyddfa Docynnau ar y safle, lle gallwch adael tocynnau diangen fel y gall pobl eraill sy'n mynd i'r Ŵyl fynd â nhw, yn gyfnewid am rodd i bartner elusen swyddogol yr Ŵyl.
Mae'r manylion yn gywir ar adeg mynd i'r wasg. Mae gennym yr hawl i newid rhaglenni ac artistiaid.
Bydd archebion tocynnau yn cael eu prosesu yn ôl y drefn maen nhw’n cael eu derbyn.
Mae prisiau pob tocyn yn cynnwys TAW.
Os bydd rhywun yn gorfod canslo oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth Hay Festival Foundation Ltd, gellir ad-dalu gwerth wyneb y tocyn.
Bydd tocynnau'n cael eu hanfon o fewn 5-7 diwrnod gwaith. Os na fyddwch yn derbyn eich tocynnau o fewn 7 diwrnod, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau. Yn anffodus, ni fydd tocynnau coll yn cael eu hailargraffu.I archebu lle ar gyfer cadeiriau olwyn mewn lleoliadau perfformio neu i gadw lle parcio (deiliaid bathodyn glas yn unig), rhowch wybod i staff y Swyddfa Docynnau wrth archebu eich tocynnau. Mae toiledau mynediad i'r anabl ar gael ar y safle.
Mae gan bob lleoliad, siop fwyd, caffi, bar, siop lyfrau a siop anrhegion fynediad i gadeiriau olwyn, ac mae dolen sain wedi'i gosod yn y rhan fwyaf o’r lleoliadau perfformio. Weithiau gall adeiladweithiau alwminiwm ein pebyll effeithio ar y system hon. Gofynnwch i'r stiwardiaid am y lle gorau i eistedd.
Mae Gŵyl y Gelli yn croesawu ymwelwyr niwrowahanol. Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig eraill o ran mynediad, anfonwch neges e-bost i accessibility@hayfestival.com.