Cwestiynau cyffredin

BETH FYDD DYDDIADAU GŴYL Y GELLI 2023?

Caiff Gŵyl y Gelli 2023 ei chynnal rhwng 25 Mai a 4 Mehefin.

PRYD MAE'R RHAGLEN LAWN ALLAN?

Mae'r rhaglen lawn allan nawr. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau. I archebu copi wedi’i argraffu o raglen 2022, cadwch lygad ar ein tudalennau rhaglenni.

BLE MAE'R ŴYL?

Yn y Gelli Gandryll, a enwyd yn ddiweddar gan arolwg Which? fel y dref orau yng Nghymru ac un o'r goreuon yn y DU. Mae'r Gelli wedi'i lleoli ar gyrion Parc Cenedlaethol hardd Bannau Brycheiniog. Rydym rhwng Henffordd ac Aberhonddu, ychydig oddi ar yr A438. Mae'r safle wedi'i leoli ar gae gwyrdd o'r enw Dairy Meadows (HR3 5PJ), dim ond pum munud ar droed o ganol y Gelli.

BETH YW TREFNIADAU'R ŴYL O RAN TOCYNNAU?

Nid oes angen tocyn arnoch i fynd i mewn i safle'r ŵyl, ond bydd angen i chi archebu tocynnau unigol ar gyfer pob digwyddiad yr hoffech ei fynychu. Er mwyn osgoi cael eich siomi, mae'n well archebu tocynnau ar gyfer rhai digwyddiadau ymlaen llaw, ond bydd tocynnau hefyd ar gael ar gyfer rhai digwyddiadau yn ystod yr ŵyl ei hun, felly gallwch ychwanegu at eich amserlen yn y swyddfa docynnau pan fyddwch yn cyrraedd.

BETH YW'R PELLTER RHWNG LLEOLIADAU?

Mae'r rhan fwyaf o’r lleoliadau ar safle'r ŵyl ar Heol Aberhonddu, dim ond ychydig funudau ar droed oddi wrth ei gilydd. Mae Eglwys y Santes Fair y tu ôl i Westy'r Swan, ar ddiwedd Heol y Santes Fair. Mae Castell y Gelli yng nghanol y dref. Mae bws gwennol yn rhedeg rhwng y dref a'r safle drwy gydol y dydd. Mae'n daith o tua 12 munud ar droed.

PA MOR HIR YW'R DIGWYDDIADAU?

Mae'r rhan fwyaf o’r sesiynau ar y safle yn para tua 1 awr ac fe'u dilynir gan sesiynau llofnodi llyfrau. Mae ein slotiau amser wedi'u cynllunio i'ch galluogi i symud o un digwyddiad i'r llall. Caniatewch amser ychwanegol rhwng digwyddiadau ar gyfer lleoliadau oddi ar y safle, a gwiriwch fanylion digwyddiadau unigol nad ydynt yn rhai arferol. Mae perfformiadau Shakespeare yn para 2 awr, ac mae cyngherddau a sioeau comedi gyda'r nos yn para 70-90 munud.

BETH YW’R TREFNIADAU O RAN SEDDAU?

Nid yw'r seddau wedi'u neilltuo ymlaen llaw. Bydd ein stiwardiaid ym mhob lleoliad wrth law i'ch helpu.

A OES YNA DDIGWYDDIADAU I BLANT A THEULUOEDD?

Mae ein digwyddiadau HAYDAYS ar gyfer plant a theuluoedd, ac maent wedi'u cynnwys yn y prif restrau – mae ganddynt gefndiroedd lliwgar. Rhaid i blant 11 oed ac iau fod yng nghwmni oedolyn ym mhob digwyddiad a gweithdy. Bydd gweithdrefn llofnodi wrth fynd i mewn ac allan ar waith ar gyfer plant 12+ oed sy'n mynychu gweithdai.

BLE Y GALLWN AROS?

findmeabed.co.uk yw'r gwasanaeth llety swyddogol a'r asiant archebu ar gyfer Gŵyl y Gelli. Mae Find Me A Bed yn cynnig llawer iawn o wybodaeth am y Gelli a'r ardal gyfagos, a bydd Sarah yn hapus i'ch helpu gyda'ch ymholiadau llety. Anfonwch neges e-bost i info@findmeabed.co.uk, neu ewch i'r wefan i weld y llety sydd ar gael. Os hoffech wersylla, ein partner gwersylla swyddogol yw Tangerine Fields. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am lety trwy'r Gwasanaethau Croeso Lleol – gweler ein tudalen llety.

PA MOR HYGYRCH YW'R ŴYL?

Mae pob lleoliad yn addas i gadeiriau olwyn a gall dolenni clywed gael eu defnyddio ynddynt. Os oes gennych unrhyw anghenion penodol yn ymwneud â digwyddiadau neu leoliadau, rhowch wybod i'r swyddfa docynnau adeg archebu eich tocynnau, naill ai dros y ffôn neu drwy'r 'nodiadau archebu' wrth archebu ar-lein. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni ymlaen llaw, bydd ein stiwardiaid yn eich disgwyl – rhowch wybod iddynt wrth gyrraedd. Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai'n gwneud eich ymweliad â'r safle yn haws, neu'n fwy dymunol, anfonwch neges e-bost i accessibility@hayfestival.com.

BLE MAE'R SAFLE PLENTYN AR GOLL?

Mae hwn wedi'i leoli yn y Babell Greu, sydd ar agor 10am-5pm o ddydd Sadwrn 28 Mai. Y tu allan i'r oriau hyn fe'i lleolir yn Swyddfa Weinyddol yr Ŵyl.

A FYDD YR ŴYL AR GAEL AR-LEIN?

Bydd rhai digwyddiadau'n cael eu ffrydio ar-lein: bydd rhagor o fanylion ar gael yn fuan. Bydd bron pob un o'n digwyddiadau yn cael ei recordio ac ar gael yn ein harchif ar-lein "Hay Festival Anytime" ar ôl yr ŵyl.

A FYDD UNRHYW REOLIADAU COVID MEWN GRYM? BETH FYDD YN DIGWYDD OS CAIFF YR ŴYL EI CHANSLO OHERWYDD COVID?

Byddwn yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch COVID-19 adeg yr ŵyl. Rydym wedi gwneud addasiadau i gynllun y safle ac wedi lleihau'r capasiti cyffredinol i wneud yr ŵyl yn fwy diogel o ran COVID. Os cawn ein gorfodi i ganslo'r ŵyl fyw oherwydd rheoliadau'r llywodraeth sy'n ymwneud â COVID-19, bydd gennych hawl i ad-daliad am eich tocyn/tocynnau. Er budd iechyd y cyhoedd, peidiwch â mynychu os ydych yn teimlo'n sâl neu os oes gennych symptomau COVID-19.

BETH YW'R MESURAU DIOGELWCH CYHOEDDUS AR SAFLE'R ŴYL?

Mae’r mesurau diogelwch yn cynnwys archwilio bagiau wrth fynedfa safle'r Ŵyl. Gofynnwn i ymwelwyr helpu gyda thri pheth penodol: caniatewch amser ychwanegol i gyrraedd a pheidiwch â dod â bagiau mawr na sachau cefn. Rhowch wybod i stiward yr Ŵyl neu aelod o staff am unrhyw beth amheus. Helpwch ni trwy gydymffurfio'n gyflym ag unrhyw geisiadau gan stiwardiaid yr Ŵyl.

BETH FYDD YN DIGWYDD OS BYDDAF YN HWYR I DDIGWYDDIAD?

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod digwyddiadau'n dechrau'n brydlon. Bydd y drysau'n agor 5-15 munud cyn yr amser cychwyn. Dylai cwsmeriaid ag e-docynnau sicrhau bod ganddynt y cod bar cywir yn barod i'w sganio. Efallai na fydd yn bosibl derbyn hwyrddyfodiaid i bob digwyddiad; fodd bynnag, bydd stiwardiaid yn ceisio dod o hyd i doriad addas yn y perfformiad.

A FYDD YNA BEIRIANT ARIAN PAROD AR SAFLE'R ŴYL?

Bydd cyfleusterau bancio a pheiriant arian parod ar y safle, ger mynedfa'r Ŵyl. Codir tâl am dynnu arian allan (sy'n ofynnol gan y darparwyr, nid yr Ŵyl). Mae yna beiriannau arian yn rhan uchaf y dref ac yn Swyddfa'r Post hefyd.

A FYDD UNRHYW GYFLEOEDD O RAN SWYDDI YN YR ŴYL?

Cadwch olwg ar ein tudalen swyddi i weld manylion unrhyw gyfleoedd.

SUT CAIFF YR AWDURON EU DEWIS?

Rydym yn gwahodd yr awduron, yr artistiaid, yr academyddion, y meddylwyr a’r perfformwyr yr ydym yn eu hedmygu fwyaf. Ein nod yw cyflwyno’r ymarferwyr cyfoes mwyaf a'r lleisiau newydd mwyaf cyffrous i'n cynulleidfaoedd. Rydym yn siarad â chyhoeddwyr, awduron ac amrywiaeth enfawr o gynghorwyr – gan gynnwys llawer o bobl sy'n mynychu'r ŵyl. Os oes gennych unrhyw syniadau i'w rhannu, anfonwch nhw at submissions@hayfestival.org.

PWY YW CYFEILLION GŴYL Y GELLI, AC A YW'R MANTEISION O DDOD YN FFRIND YN CAEL EU HYMESTYN I BENWYTHNOS Y GAEAF?

Y Cyfeillion yw ein cefnogwyr ffyddlon y mae eu hymwneud yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Yn gyfnewid am aelodaeth flynyddol, rhoddir blaenoriaeth i Gyfeillion trwy roi tri diwrnod iddynt archebu tocynnau cyn iddynt gael eu rhyddhau (gan gynnwys tocynnau Penwythnos y Gaeaf). Dewch yn Gyfaill i'r Ŵyl.

A ALLAF DDOD Â'M CI AR Y SAFLE?

Yn anffodus dim ond cŵn cymorth sy'n cael eu caniatáu yn nigwyddiadau Gŵyl y Gelli. Gobeithiwn na fydd hyn yn eich atal rhag dod i'r Ŵyl. Mae'r dref a'r ardal wledig gyfagos yn wych ar gyfer cŵn. Mae yna lawer o deithiau cerdded hyfryd gerllaw, gan gynnwys y mynyddoedd uwchben y Gelli a llwybr ar hyd yr afon. Gweler gwefan Canolfan Groeso y Gelli am syniadau.

A YW'R ŴYL YN GWEITHIO GYDAG UNRHYW ELUSENNAU?

Partner elusennol swyddogol yr Ŵyl ar gyfer 2022 yw'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau. Mae'r Ŵyl hefyd yn gweithio gyda nifer o bartneriaid elusennol lleol a byd-eang eraill: cynhelir casgliadau ar ôl rhai digwyddiadau o bryd i'w gilydd.

NODWCH

Ni chaniateir defnyddio recordwyr sain, camerâu na ffonau symudol yn y lleoliadau perfformio.

Ni chaniateir smygu nac e-sigaréts ar safle'r Ŵyl.

Mae parafeddyg ar ddyletswydd bob amser.

Gall ymwelwyr â Gŵyl y Gelli gael eu ffilmio a/neu dynnu eu llun ar gyfer hyrwyddo'r Ŵyl yn y dyfodol.