Croeso i Ŵyl y Gelli

Hay Festival tents lit at twilight

Mae’r Gelli wedi rhoi llwyfan arbennig i fy ngwaith mewn sawl cyfrwng; a’r peth gorau am bob gwyl yw dod ar draws cynulleidfaoedd newydd, sydd wastad yn barod i wrando. Mae’r Gelli wedi gwneud i mi ystyried fy hun fel awdur rhyngwladol yn ogystal ag awdur o Gymru – ac wedi gwneud i mi deimlo fod ‘na ddilysrwydd a phwysigrwydd i fy llais llenyddol ymhlith awduron y bydFFLUR DAFYDD

Dechreuodd Wyl y Gelli yn 1988, dan ddilyn patrwm ac esiampl yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd Cyngor y Celfyddydau yng Nghymru’n awyddus i ddatblygu chwaer wyl i’r ‘Steddfod, yn yr iaith Saesneg, byddai’n gwasanaethu 'sgwennwyr Cymru a’u cyfeillion o gwmpas y byd.

Drwy fynychu’r Wyl dros y blynyddoedd, a chael y fraint o fod yn Gymrawd Rhyngwladol, dwi’n teimlo fy mod yn ddim byd llai na bod yn fwy gwaraidd, yn fwy diwylliedig ac yn deall taw un o hanfodion celf, a chymdeithas war yw rhannu. Rhannu sgwrs, piniwn, cyfeillgarwch, orig fach yn gwybod sut i wrando ar rywun arall go iawnJON GOWER

Rydym yn gweithio’n ddwyieithog a’r ieithoedd hynny yn gyfartal o safbwynt comisiynu; yn achos blodeugerdd canmlwyddiant R S Thomas, er engraifft ac yn ein rhaglen o gymrodorion rhyngwladol, sef, yn Gymraeg, Fflur Dafydd, Jon Gower ac Eurig Salisbury. Cymrodyr Scritture Giovanni oedd Angharad Price, Fflur Dafydd, Catrin Dafydd, Caryl Lewis, Aneirin Karadog, Llyr Gwyn Lewis ac Eurig Salisbury.

O ganlyniad i ddarllen yn y Gelli, agorwyd drysau i mi fel bardd Cymraeg i gynulleidfa ryngwladol. Sylweddolais fod fy marddoniaeth yn croesi ffiniau a ieithoedd sydd bellach yn cael ei chyhoeddi mewn cyfrolau dwyieithog gan Bloodaxe ac wedi ei chyfieithu i dros ugain o ieithoedd -- ac i'r Gelli y mae'r diolch am hynMENNA ELFYN

Mae’r rhan fwyaf o’r wyl yng Nghymru yn digwydd drwy gyfrwng y Saesneg ond trefnir darlleniadau o farddoniaeth yn Gymraeg. Gyda bendith yr awduron, mae trafodaethau am weithiau Cymraeg yn digwydd yn Saesneg tra bod siop lyfrau’r wyl yn arddangos rhychwant eang o deitlau Cymraeg. Mae digwyddiadau a chyfarfodydd PEN Cymru Wales yn Saesneg yn y Gelli, i gyd-fynd a’r rhai sy’n digwydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst. Mae croeso i ddarllenwyr o bob math yn y Gelli, sy’n cyd-redeg ac Eisteddfod grwydrol yr Urdd.

Mae’r dref Gymreig fechan hon ar y ffin wedi dod yn fyd-enwog am lyfrau, llenyddiaeth a dadleuon deallusol o bwys. I lawer, daeth Wyl y Gelli yn rhan hanfodol o’r calendr cymdeithasol. Rwyf wrth fy modd yn mynd yno. I’r sawl sydd heb fod eto, buaswn yn eich annog i fynd, ond cymerwch amser i gerdded yn y wlad ysblennydd o gwmpas hefyd tra byddwch yno. Mae’n rhyfeddolDYWEDODD ARWEINYDD PLAID CYMRU LEANNE WOOD

Wyl y Gelli yw fy hoff aduniad ar gyfer llêngarwyr. Mewn cae, dan gynfas, yn ystod hirddydd ddiwedd Mai a dechrau Mehefin, daw darllenwyr ac awduron o bedwar ban, i ymgasglu ar lannau’r afon Gwy ar odre’r Mynydd Du, i ddarllen, gwrando, trafod dros baned, dros bryd o fwyd, dros wydraid, i gwrdd â ffrindiau hen a newydd, a phrynu llyfrau. Boed law neu hindda, mae Wyl y Gelli, yn bair o syniadau ac egni creadigol, ac yn rhoi gwedd newydd ar y bydGILLIAN CLARKE