Mae'r Gelli Gandryll ychydig oddi ar yr A438 rhwng Aberhonddu a Henffordd. Bydd yna lawer o arwyddion i’r Ŵyl. Yr orsaf reilffordd agosaf yw Henffordd, sy’n 21 milltir i ffwrdd, ac mae modd dal coetsys National Express o orsaf fysiau Henffordd.
Ymholiadau rheilffyrdd | nationalrail.co.uk | 08457 48 49 50
Gwybodaeth am goetsys gan | nationalexpress.com | 0871 781 8181
Gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus gan | traveline.info | 08712 00 22 33
Mae Ffordd Cymru yn deulu newydd o dri llwybr cenedlaethol sy'n eich arwain i galon Cymru.
Mae gwasanaeth bws arbennig yr Ŵyl yn rhedeg rhwng Caerwrangon, Henffordd a'r Gelli ac yn cysylltu â threnau a choetsys yng ngorsafoedd trenau a bysiau Henffordd, a hefyd Gorsaf Fysiau Crowngate Caerwrangon. Bydd y gwasanaeth hwn yn rhedeg trwy gydol yr Ŵyl.
Gellir prynu tocynnau ar gyfer pob taith ar y bws. Yn anffodus, ni allwn dderbyn cardiau teithio rhatach ar y gwasanaeth hwn eleni.
Oedolion £9 sengl, £13 dwyffordd ar yr un diwrnod, £15 dwyffordd am gyfnod amhenodol
Plant (5-15 oed) £5 sengl, £7 dwyffordd ar yr un diwrnod, £10 dwyffordd am gyfnod amhenodol
Teulu o hyd at bedwar o bobl (uchafswm o ddau oedolyn) £30 dwyffordd
Bydd y bws yn aros wrth yr arosfannau canlynol ar y llwybr hwn:
Hereford Railway Station - Country Bus Station (Stand 6) - Maylord Shopping Centre (Stand 2) - Victoria Court - Whitecross Memorial - Kings Acre - Stretton Sugwas Turn - Post Office, Swainshill - Kenchester Turn - Bridge Sollers, Crossroads - Byford, Old School - Portway, Hotel - Staunton-On-Wye - Letton, The Swan - Kinnersley Turn - Willersley, Turn - Winforton, Sun Inn - Whitney-on-Wye, Church - Rhydspence, Borde - rClyro, Square - Hay-on-Wye, Hay Castle
Oedolion £12 sengl, £18 dwyffordd
Plant (5-15 oed) £7 sengl, £9 dwyffordd
Teulu o hyd at bedwar o bobl (uchafswm o ddau oedolyn) £35 dwyffordd
Mae yna hefyd wasanaeth bws wedi'i drefnu (Gwasanaeth T14) o Henffordd ac Aberhonddu i'r Gelli Gandryll sy’n gweithredu chwe diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae gwasanaeth 39A Hay Ho! yn weithredol ar ddydd Sul. Mae amserlenni manwl ar gyfer yr holl wasanaethau i'w gweld yn hayfestival.org/teithio.
Beth am osgoi’r ciwiau a dewis y ffordd wyrddach o deithio? Defnyddiwch Fws Gwennol y Pentref, sy'n cysylltu pentrefi lleol â safle'r Ŵyl. Mae'r bysiau'n galw mewn arosfannau sy’n cynnwys Llanigon, Felindre, Glasbury, Talgarth a Bronllys. Mae tocynnau'n costio £5 y daith. Bydd y gwasanaeth hwn ar gael o ddydd Gwener 27 Mai hyd ddydd Sul 5 Mehefin.
GWASANAETH BYSIAU GWENNOL Y PENTREF 2022
Mae bws gwennol rheolaidd yn gweithredu rhwng safle'r Ŵyl, canol y dref a'r safle Parcio a Theithio. Mae mannau codi a gollwng ar gael ger mynedfa safle'r Ŵyl, yr arhosfan bws ym maes parcio Heol Rhydychen yn y dref, a'r Safle Parcio a Theithio Pob Tywydd yng Nghleirwy. Gwiriwch yr wybodaeth ar y sgrin i weld i ba gyfeiriad y mae'r bws yn teithio.
Mae'r gwasanaeth yn rhedeg trwy gydol yr Ŵyl, o ddydd Iau 26 Mai tan ddydd Sul 5 Mehefin, o'r cyfnod cyn y digwyddiad cyntaf tan ar ôl y digwyddiad olaf bob dydd. Mae’r amser teithio arferol yn llai na deg munud, ond nodwch y gallai'r daith gymryd mwy o amser yn ystod cyfnodau prysur. Pris tocynnau dydd ar gyfer y bws gwennol yw £5 y pen, (derbynnir taliadau arian parod a cherdyn), heb unrhyw gyfyngiad ar nifer y teithiau. Os byddwch yn defnyddio'r safle Parcio a Theithio, bydd pris y gwasanaeth gwennol wedi'i gynnwys ym mhris eich tocyn parcio.
Gefnogir gan Richard Booth’s Bookshop
Mae Gŵyl y Gelli yn ymuno â goCarShare, BlaBlaCar.com a Liftshare, i helpu i gysylltu gyrwyr â seddi sbâr a'r rhai y mae arnynt angen help i gyrraedd y Gelli. Mae'n ffordd wych o gwrdd â phobl sy’n rhannu’r un diddordebau, yn ogystal â bod yn gymorth mawr i leihau allyriadau carbon a thagfeydd – ac mae hefyd yn arbed arian i bawb.
Am wybodaeth parcio, cliciwch yma.
Mae cynllun rhannu tacsis ar gael gan:
A2B Tacsis 01874 658 899
Booktown Tacsis 07881 726 547
Julie’s 07899 846 592
Radnor & Kington Taxis 07831 898 361
Hay Bus Hay Tacsis 07974 106 656
Ymholiadau trên: 08457 48 49 50
www.nationalrail.co.uk
Yr orsaf drenau agosaf yw gorsaf Henffordd, ugain milltir i ffwrdd.
Mae trenau'n cyrraedd gorsaf Henffordd yn rheolaidd, fel a ganlyn:
Mae yna fws gwennol rheolaidd rhwng y gorsafoedd trên a bws yn Henffordd a'r Gelli Gandryll / safle'r ŵyl. Mae'r gwasanaeth hwnnw’n cyd-fynd ag amserlenni'r trenau (gweler yr amserlen uchod).
Mae safle'r Ŵyl yn daith gerdded o ryw bum munud ar hyd Ffordd Aberhonddu o ganol y Gelli Gandryll. I bobl fwy anturus, mae yna lond gwlad o deithiau cerdded heriol, pleserus, syfrdanol ac ysgogol o amgylch y Gelli.
Llwybrau cerdded
Lawrlwytho PDF o lwybr cerdded llinellol Cerddwyr Cymru yn ardal y Gelli
Lawrlwytho PDF o lwybr cerdded cylchol Cerddwyr Cymru yn ardal y Gelli
Slow Ways - Os ydych chi'n teimlo'n fwy uchelgeisiol ac ymwybodol o'ch ôl troed teithio, beth am ystyried cerdded yr holl ffordd i'r Gelli? Menter ydy Slow Ways i greu rhwydwaith cenedlaethol o lwybrau cerdded sy'n cysylltu holl drefi a dinasoedd Prydain Fawr, yn ogystal â miloedd o bentrefi. Gall pobl ddefnyddio llwybrau, ffyrdd a lonydd sy'n bodoli’n barod, a defnyddio Slow Ways i gerdded neu seiclo rhwng aneddiadau cyfagos, a'u cyfuno i greu teithiau pellter hirach. Mae wedi'i gynllunio i'w gwneud yn haws i bobl ddychmygu, cynllunio a mynd ar deithiau cerdded. Gallwch ddarganfod mwy yma - Slow WaysMae'r Gelli Gandryll yn croesawu beicwyr a gallwch logi beiciau yn y dref yn Drover Cycles ar Heol y Fforest. Mae gan siop feics Drover weithdy hefyd, sydd ar agor bob dydd ar gyfer gwaith atgyweirio. Mae parc beiciau ar gael ar safle'r ŵyl ac fe ddarparwyd y raciau beic trwy garedigrwydd Drover Cycles.
Mae gwybodaeth am lwybrau beicio lleol ar gael gan Mountain Biking Brecon Beacons a Mountain Biking Wales.
DAIRY MEADOWS
BRECON ROAD
HAY-ON-WYE