Gall ymwelwyr â Phenwythnos y Gaeaf barcio yn y mannau canlynol: Maes parcio Oxford Road (HR3 5EQ) yng nghanol y Gelli Gandryll.
Mae hwn yn faes parcio talu ac arddangos arhosiad hir ac mae'n addas ar gyfer cerbydau o bob math. Mae manylion y prisiau cyfredol a'r amodau llawn i'w gweld ar yr arwydd yn y maes parcio.
Mae'r maes parcio hwn yn cynnwys mannau parcio i'r anabl, a pheiriannau sydd yn derbyn arian parod a chardiau.
Parcio i’r anabl
Mae meysydd parcio Powys am ddim i ddeiliaid bathodynnau glas pan gânt eu harddangos yn gywir, ond gwiriwch y bwrdd arddangos i weld y ffioedd a’r telerau ac amodau.
Gwefru ceir
Mae un gwefrydd cyflym ar gael yn yr ardal leol yn Drovers Cycle Hire (HR3 5EH), 01497 822 419 – gallwch weld rhagor o wybodaeth am hyn ar-lein.
Gallwch weld pwyntiau gwefru eraill yn yr ardal leol ar Zap Map hefyd.
CASTELL Y GELLI
OXFORD ROAD
Y GELLI GANDRYLL