Gwasanaeth Bws Rhestredig: Henffordd ac Aberhonddu i'r Gelli
Mae yna wasanaeth bws rhestredig (Gwasanaeth rhif 39) o Henffordd ac Aberhonddu i'r Gelli Gandryll. Mae'n weithredol chwe diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Lawrlwythwch Amserlen bws rhif 39 Henffordd-Y Gelli 2017
Mae bws rhif 39A, yr Hay Ho!, yn gadael ar ddyddiau Sul am 11.25, 14.55 a 17.25 o'r arhosfan bysus yn Oxford Road yn Y Gelli, ac yn cysylltu â threnau i Lundain, Canolbarth Lloegr a'r Gogledd yng Ngorsaf Reilffordd Henffordd. Pris tocyn sengl i oedolion £6.
Mae tocynnau First Bus a thocynnau Trên-Bws hefyd yn ddilys ar wasanaeth yr Hay Ho! ar ddyddiau Sul a Gwyliau Banc.
Mae'r bws yn gadael o Orsaf Reilffordd Henffordd ac yn dychwelyd o Oxford Road, Y Gelli Gandryll.
Ymholiadau coets:
0871 781 8181
nationalexpress.com
Mae bysus yn cyrraedd gorsaf fysiau Henffordd fel a ganlyn:
O Lundain Victoria, Llundain Heathrow, Cirencester a Chaerloyw
O Bradford, Leeds, Sheffield, Derby, Birmingham a Chaerwrangon
Ymholiadau trên: 08457 48 49 50
www.nationalrail.co.uk
Yr orsaf drênau agosaf yw gorsaf Henffordd, 25 milltir i ffwrdd.
Mae trênau rheolaidd yn cyrraedd gorsaf Henffordd fel a ganlyn:
Mae Cynllun Rhannu Tacsi ar gael gan:
Tacsis A2B 01874 658 899
Hay Bus Hay Taxi 07974 106 656 / 01497 708 990
Julie's Cabs 07899 846 592
Tacsis Radnor & Kington 07831 898 361 / 01547 560 205
Gallwch logi ceir yn lleol gan LT Baynham Self-Drive Hire, 74 Heol Whitecross, Henffordd HR4 0DG. Ffôn - 01432 273 298.
Mae un peiriant pweru cyflym ar gael yn yr ardal leol, yn Drovers Cycle Hire – gallwch archebu'r gwasanaeth hwn ar-lein.
Mae lleoliadau'r Ŵyl yng nghanol y dref. Mae yna gyfoeth o deithiau heriol, pleserus, syfrdanol a iachaol o gwmpas y Gelli.
Llwybrau cerdded
Lawrlwythwch PDF o lwybr cerdded llinellol Cerddwyr Cymru yn ardal y Gelli
Lawrlwythwch PDF o lwybr cerdded cylchol Cerddwyr Cymru yn ardal y Gelli
Mae'r Gelli Gandryll yn lle croesawgar i feicwyr a gallwch logi beiciau yn y dref yn Drover Cycles ar Forest Road. Mae yna weithdy sydd ar agor bob dydd ar gyfer gwaith atgyweirio.
Mae gwybodaeth am lwybrau beicio lleol ar gael gan Mountain Biking Brecon Beacons a Mountain Biking Wales.
CASTELL Y GELLI
OXFORD ROAD
Y GELLI GANDRYLL